0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Dewch i adnabod ein grŵp casglu arian newydd

Efallai ein bod ag ychydig o duedd, ond rydym yn credu mai ein codwyr arian Macmillan ni yng Nghymru yw’r gorau! Rydym yn hynod falch bod grŵp codi arian newydd sbon ‘Green with Envy’ wedi cychwyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwnaethom ofyn wrth Rachel, Molly a Darren i ddweud ychydig wrthym am eu cynlluniau a sut y gallwch chi helpu.

Rydym yn hynod gyffrous i gyfarfod y tîm tu ôl i bwyllgor codi arian mwyaf newydd Macmillan ‘Green with Envy’. Allwch chi ddweud mwy wrthym ni am y tîm y tu ôl i’r pwyllgor codi arian newydd hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Rachel – Fi yw Rachel, Cadeirydd Green with Envy. Mae gennym ni Darren ein Trysorydd a Molly hefyd. Grŵp bach gyda syniadau mawr!

Molly – Rydym yn grŵp amrywiol ac yn cynnig syniadau gwahanol; ond mae gennym un peth yn gyffredin, sef awydd i helpu a gwella bywydau unigolion sydd yn byw gyda chanser. Rydym eisiau cynnwys y gymuned yn yr amrywiol weithgareddau a dod â phawb ynghyd er lles eraill.

Darren – Rydym yn dîm sy’n frwdfrydig i helpu unrhyw un sydd angen cymorth, ac un peth sy’n gyffredin rhyngom ydy ein bod ni’n adnabod rhywun sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ganser.

Pam creu ‘Green with Envy’ a beth yw eich gobeithion iddo?

Rachel – Dwi wedi bod yn gwirfoddoli dros Macmillan ers tro bellach, dwi wedi trefnu 5 bore coffi sy’n mynd yn fwy bob blwyddyn ac wedi cymryd rhan mewn nifer o gasgliadau bwced. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i ar fy mhen fy hun yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac felly mae’n wych cael Darren a Molly i ymuno â fi i godi ymwybyddiaeth am Macmillan yn ein hardal leol. Byddwn wrth fy modd pe bai gennym bresenoldeb go iawn yn y gymuned ac un diwrnod y byddwn yn gallu trefnu digwyddiad gwirioneddol fawreddog fel dawns neu ginio, lle y byddem yn codi llawer o arian ac yn cael amser gwych.

Molly – Mae sôn wedi bod am ‘Green with Envy’ ers cryn amser ac rydym yn gobeithio cynnig rhywbeth newydd, ifanc a chyffrous i lwyfan codi arian lleol Macmillan.

Darren – Sefydlwyd ‘Green With Envy’ gan Rachel sy’n teimlo’n angerddol dros wneud gwahaniaeth, Molly sydd wrth ei bodd yn codi arian a minnau, oherwydd i mi weld effeithiau canser yn uniongyrchol a’r bobl dirifedi y gall canser effeithio arnynt. Ein gobaith ydy codi cymaint o ymwybyddiaeth ag sy’n bosibl ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth gael hwyl.

Beth ydych chi wedi penderfynu codi arian ato’n arbennig? 

Rachel – Dechreuodd fy nhaith gwirfoddoli ar ôl cymryd rhan yn y daith gerdded yn Llantrisant gyda fy chwaer 6 mlynedd yn ôl. Dywedais pa mor drefnus oedd y digwyddiad a faint y bu i mi fwynhau’r diwrnod wrth ferch oedd yn digwydd bod yn rheolwr codi arian i Macmillan. Cyn i mi wybod, roeddwn wedi cael fy recriwtio! Trwy wirfoddoli rwyf wedi dysgu cymaint am Macmillan ac mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn wirioneddol ryfeddol, yn helpu cymaint o bobl. Sut allwn benderfynu peidio codi arian iddyn nhw?!

Molly – Yn ddiweddar rwyf wedi helpu fy mam a gall canser effeithio ar unrhyw un ohonom ac felly tra rwyf fi’n gallu rwyf am wneud cymaint ag sy’n bosibl i wneud gwahaniaeth.

Pwy all ymuno â’ch grŵp a sut y gallent gysylltu â chi?

Rachel – Gall unrhyw un ymuno â’n grŵp – rydyn ni’n dîm cyfeillgar, agos atoch chi. Rydym newydd greu taflenni a phosteri i hysbysebu’r grŵp, felly cadwch lygad allan amdanynt. Rydym wedi creu tudalen Facebook lle mae modd anfon neges atom ar unrhyw adeg neu gallan nhw ddefnyddio’r tîm gofal cefnogwyr

Molly –  Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sy’n frwdfrydig ac awyddus i wneud gwahaniaeth. Felly plîs cysylltwch â ni.

Darren – Gall unrhyw un ymuno â’r grŵp drwy chwilio amdanom ar Facebook, Instragram neu drwy wefan Macmillan.

headline-green-with-envy

Os ydy unrhyw un ychydig yn bryderus am wirfoddoli i godi arian i Macmillan, pa gymorth fyddech chi’n ei roi iddynt?

Rachel  Ewch amdani – mae’n rhoi boddhad mawr i chi a byddwch yn cwrdd â phobl ffantastig!

Molly – Rhowch gynnig arno. Fe wnaiff yr ansicrwydd yr ydych chi’n ei deimlo ddiflannu’n fuan wedi i chi sylweddoli pa mor wych a chefnogol ydy Macmillan. Mae’n elusen sy’n llawn brwdfrydedd a phositifrwydd ac mae’n wych bod yn rhan ohono.

Darren – Dewch i’r digwyddiadau gan y byddwch yn gwybod bod pawb sy’n cefnogi Macmillan wedi cael eu cyffwrdd â chanser yn ystod eu bywydau. Nid oes unrhyw fath o bwysau gan ein bod ni i gyd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy na ni ein hunain ac yn bwysicach oll rydym am gael hwyl.

Beth yw’r llawenydd a’r sialensiau sy’n deillio o godi arian?

Rachel – Rwy’n hoff iawn o’r ochr sy’n ymwneud â phobl, siarad â phobl, clywed eu profiadau, gwrando ar yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni. Gall fod yn heriol, yn enwedig wrth weithio’n llawn amser a cheisio cydbwyso bywyd cymdeithasol hefyd. Dyna lle mae’n grêt cael tîm o bobl fel rhwydwaith cefnogi, os na allwch roi eich amser ar y diwrnod penodol hwnnw bydd rhywun arall yn gallu.

Molly – Gwybod bod yr arian rwyt ti’n ei gasglu yn mynd yn syth i helpu eraill sydd wirioneddol ei angen.

Darren – Rwy’n mwynhau cerdded a gwneud ymarfer corff felly mae unrhyw beth y tu allan yn hwyl ond yn werth chweil.  Weithiau’r sialens yw casglu gyda thuniau elusen ond nid wyf yn gorfodi neb i roi gan nad dyna yw ein pwrpas, ond ar rai achlysuron byddwch yn siarad gyda phobl sydd wedi derbyn cymorth gan Macmillan ac rwyt ti’n sylweddoli dy fod yn gwneud rhywbeth i achos gwerth chweil.

Oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill y gallwch eu datgelu?

Molly – Mae gennym gyngerdd cerddorol yng Ngorffennaf…bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau’n fuan ac mae gennym hefyd weithgareddau gwych yn yr awyr agored.

Darren – Rwy’n ceisio trefnu taith gerdded tua 8 milltir o’n twyni tywod lleol i Borthcawl tua  mis Awst gobeithio. Nid wyf erioed wedi trefnu unrhyw beth fel hyn o’r blaen ond nid ydych byth yn rhy hen i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Diolch yn fawr iawn i chi am siarad gyda ni. Gadewch ni wybod beth ydy eich cynlluniau!

Gall unrhyw un ymuno â’r grŵp! Drwy’r Tîm Gofal Cefnogwyr 0300 1000 2000 / neu e-bostio fudraising@macmillan.org.uk neu drwy’r ddolen ganlynol https://volunteering.macmillan.org.uk/Opportunity/Details/6146

Mae Macmillan yn dibynnu mwy neu lai’n gyfan gwbl ar roddion er mwyn darparu’r gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig i helpu pobl sy’n byw gyda chanser. Mae llawer o ffyrdd i roi neu i wirfoddoli i gefnogi Macmillan. Ewch ar ein gwefan i ddod o hyd i syniadau ysbrydoledig.

Leave a Comment