Nyrs Macmillan arobryn a adawodd yr ysgol yn 15 mlwydd oed heb unrhyw gymwysterau yn dod yn ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor
1989 – Dechreuodd Sharon Manning weithio yn Ysbyty Glan Clwyd fel glanhawr
2004 – Graddiodd gyda gradd Baglor mewn Nyrsio (BN) o Brifysgol Bangor
2011 – Daeth yn Nyrs Glinigol Gynecoleg Macmillan Arbenigol
2017 – Enillydd Ffyrdd Newydd o Weithio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
– Enillydd Gwobr Rhagoriaeth Arloesedd Macmillan
2021- Derbyn darlith er anrhydedd i Brifysgol Bangor
Mae Sharon Manning, Arbenigwr Nyrsio Clinigol Gynecoleg Macmillan yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl, wedi cael gwahoddiad gan Brifysgol Bangor i fod yn ddarlithydd anrhydeddus.
– Derbyn Cymrodoriaeth Macmillan
Yn nyrs Macmillan ysbrydoledig, mae Sharon wedi ennill sawl gwobr a chanmoliaeth am ei dull arloesol a thosturiol o ymdrin â gofal canser diwedd oes.
Bydd yn rhannu ei stori nyrsio a’i phrofiad proffesiynol gyda myfyrwyr israddedig ar y cwrs BN tair blynedd, Nyrsio Oedolion, yn ogystal â nyrsys ôl-raddedig.
Wrth siarad am y rôl anrhydeddus hon ym Mhrifysgol Bangor, dywedodd Sharon: “Rwy’n gyffrous iawn ac yn ddiolchgar am y cyfle hwn gan Brifysgol Bangor, yn enwedig gan mai dyma lle astudiais ar gyfer fy ngradd nyrsio. Fy nod yn syml yw ysbrydoli myfyrwyr nyrsio i fod yn agored i arloesi a newid. Rwyf am i’r myfyrwyr gyffwrdd neu siarad â chleifion fel y byddent am i rywun siarad neu gyffwrdd nhw hunain neu eu hanwyliaid.”
Mae Sharon, sy’n wreiddiol o Sir Gaerhirfryn, wedi gweithio i’r GIG yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Yn 1989, ar ôl dod yn rhiant sengl, symudodd Sharon i ogledd Cymru, yn benderfynol o ddechrau o’r newydd gyda’i bywyd. Ei rôl gyntaf ar wardiau’r ysbyty oedd gweithio fel glanhawr yn Ysbyty Glan Clwyd. Wrth siarad am ei swydd gyntaf, dywedodd Sharon: “Yn yr adrannau lle byddwn yn glanhau, byddwn hefyd yn arsylwi ar nyrsys cymwysedig a myfyrwyr yn gweithio. Gwnaeth i mi feddwl ‘Waw, byddwn yn rhoi fy mraich dde i gael y cyfle yna!’ Fodd bynnag, ni feddyliais erioed y gallwn ei gyflawni gan i mi adael yr ysgol yn 15 mlwydd oed heb unrhyw gymwysterau.”
Penderfynodd Sharon, er mwyn datblygu gyrfa roedd angen iddi ennill cymwysterau, felly ei cham nesaf oedd dod yn nyrs gynorthwyol. Llwyddodd i gyflawni hyn, gan weithio mewn pediatreg am bedair blynedd cyn ennill NVQ Lefel 3 mewn Astudiaethau Gofal Iechyd.
Pan ddechreuodd Sharon weithio yn Ysbyty Glan Clwyd, nid oedd gan gleifion yng ngogledd Cymru ganolfan ganser. Roedd yn rhaid i gleifion deithio i Ganolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl neu Ysbyty Christie ym Manceinion ar gyfer triniaethau canser.
Ym 1994, dechreuodd Canolfan Clatterbridge gynnal clinig cleifion allanol wythnosol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ond nid oedd gan y tîm amlddisgyblaethol unrhyw nyrs gynorthwyol. Gwelodd Sharon gyfle ac ymunodd â’r tîm. O’r pwynt hwn y dechreuodd ffocws Sharon ar ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl sy’n byw gyda chanser. Dyma’r adeg benderfynodd Sharon hefyd ddod yn nyrs gofrestredig (RN).
Un diwrnod mewn cyfarfod, dywedodd nyrs gofrestredig yn y tîm wrth Sharon nad oedd angen ei barn. Yn syth ar ôl y cyfarfod, aeth Sharon i’r Ysgol Nyrsio ym Mangor i ddarganfod sut i gofrestru fel y gallai hithau hefyd ddod yn nyrs gofrestredig.
Derbyniwyd Sharon i astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor. Wrth siarad am ei phenderfyniad i ddilyn gyrfa nyrsio yn ei 40au, dywedodd Sharon: “Fe wnes i gymhwyso fel nyrs yn 2004 pan oeddwn i’n 47 mlwydd oed. Roeddwn i bob amser yn gwybod y byddai fy ngyrfa nyrsio yn fyr. Fe wnes i hyfforddi’n hwyr, ond doedd hynny ddim o bwys i mi. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n bendant eisiau gwneud gwahaniaeth i ansawdd y gofal roedd cleifion yn ei gael.”
Yn 2017, derbyniodd Sharon dair gwobr fawreddog i gydnabod ei gwaith arloesol. Gall rhai cleifion canser yr ofari yng ngham gofal lliniarol eu clefyd ddatblygu asgites malaen, sy’n groniad poenus o hylif yn leinin yr abdomen. Aeth Sharon ati i gyflwyno cathetrau parhaol ar gyfer cleifion canser yr ofari lliniarol – gwasanaeth sy’n newid bywyd sy’n caniatáu i gleifion ddraenio’r hylif asgites o’u abdomen gartref, yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty i gael eu draenio. Roedd y dull hwn yn lleihau nifer yr ymweliadau ysbyty a gynhaliwyd yn ystod camau olaf bywyd y claf ac yn rhoi mwy o amser i’r claf gyda’u hanwyliaid.
Wrth siarad am ei gyrfa nyrsio fel gweithiwr proffesiynol Macmillan, dywedodd Sharon: “Rwy’n falch iawn o gario teitl Macmillan yn fy rôl. Mae’r enw Macmillan yn uchel iawn ei barch. Mae cleifion, perthnasau ac aelodau o’r cyhoedd yn disgwyl y gorau gennych chi ac ni ddylent gael dim llai.
“Mae fy nghlaf a minnau eisoes wedi hyrwyddo Macmillan yn llwyddiannus. Rhannodd fy nghlaf a’i gŵr eu stori canser a siarad am sut yr oeddwn i, fel gweithiwr proffesiynol Macmillan, wedi eu cefnogi. Gwnaed ein stori yn llyfryn a’i hanfon at y cyhoedd yn gofyn am roddion. Fe wnaethom godi £430,000! Am waddol gwych y gadawodd fy nghlaf i’w theulu.
“Pan dwi’n myfyrio ar fy ngwaith, dwi’n teimlo’n freintiedig iawn. Rwyf wedi gofalu, ac ar hyn o bryd yn gofalu am rai merched hardd ar hyd eu taith canser. Rwy’n teimlo’n ostyngedig yn aml gan eu dewrder a’u gwydnwch. Y gwir arwyr yw’r merched hyn sy’n wynebu eu diagnosis canser gyda’r fath ddewrder ac urddas.”
Wrth sôn am ei rôl CNS bresennol, dywedodd Sharon:” Yn fwy nag erioed o’r blaen fel gweithwyr allweddol, rydym bellach yn canolbwyntio ar les unigol y claf. Un o’m rolau yw cefnogi’r claf, ei deulu neu ofalwr yn seicolegol o’r adeg pan fyddan nhw’n cael diagnosis, drwy driniaeth, dychweliad y clefyd, lleddfu a’r cleifion hynny sy’n byw gyda’u canser. Rydw i yno i’w galluogi i barhau â’u bywyd, gan wybod, os ydyn nhw fy angen i, y gallan nhw fy ffonio i.”
“Rwy’n 64mlwydd oed nawr ac yn bwriadu gweithio yn y swydd hon am y ddwy flynedd nesaf. Dydw i byth yn rhoi’r gorau i edrych a gofyn a allwn ni wneud pethau’n wahanol i wella gofal cleifion a byddaf yn mynd ati i wneud hynny nes i mi ymddeol.”
Meddai Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:
“Gyda balchder a phleser mawr gwelwn fod Mrs Sharon Manning wedi derbyn teitl darlithydd Er Anrhydedd yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n dda gweld bod cyn-fyfyriwr wedi mynd ymlaen i sicrhau canlyniadau a gwelliant gwych i wasanaethau i gleifion â chyflyrau Oncogynecolegol gan sicrhau eu bod ar flaen y gad o ran gofal ac mae ei dyfeisgarwch i wasanaethau i’w ganmol.
Yn ogystal, mae cael Sharon ar gael i helpu i gyflwyno ein cwricwlwm newydd a llunio gweithlu nyrsio’r dyfodol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys yn newyddion ardderchog.”
Wrth sôn am yrfa Sharon a’r effaith mae wedi’i gwneud fel gweithiwr proffesiynol Macmillan, dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau Macmillan yng Nghymru: “Mae Sharon yn nyrs eithriadol, ac yn fodel rôl gwych i unrhyw un sy’n dechrau ar yrfa mewn nyrsio.
“Mae Sharon yn rhoi anghenion ei chleifion wrth wraidd ei nyrsio, a’r ffocws hwn sy’n gyrru ei hangen i gael y gofal gorau i’w chleifion. Mae hi’n benderfynol ac yn arloesol ac rydym yn falch iawn ei bod yn nyrs Macmillan.
“Mae gan Sharon ddwy flynedd arall mewn nyrsio, felly mae’r ddarlithyddiaeth anrhydeddus a ddyfarnwyd gan Brifysgol Bangor eleni yn gyfle gwych i Sharon rannu ei phrofiad proffesiynol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys.”
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, ewch i’w gwefan yn https://www.bangor.ac.uk/.
Mae gan Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos) nyrsys ac arbenigwyr gwybodaeth canser sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig a all ddarparu gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â chymorth emosiynol, i helpu pobl â chanser i ymdopi â straen ychwanegol pandemig y coronafeirws.