0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Akeem Griffiths yn rhannu gyda ni pam ei fod yn cefnogi Macmillan

Photo of Akeem Grffiths in Macmillan t-shirt

Ydych chi wedi gweld ein fideo gwych Naid Dros Macmillan gydag Akeem Griffiths? Bu Akeem yn ffrind gwych i Macmillan yng Nghymru felly teimlem y byddai’n braf clywed mwy am yr hyn sy’n ei yrru i roi o’i amser a’i egni i’n cefnogi ni.

Beth yw eich profiad chi o ganser a sut mae hyn wedi eich arwain i gefnogi Macmillan yng Nghymru?

Ers yn ifanc iawn, rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ar gyfer gwahanol elusennau. Un o’r rhain yw ‘Cymorth Canser Macmillan’ a’r rheswm am hyn yw fy mod wedi cael fy magu mewn cymdeithas sy’n ystyried ‘mai pwrpas bywyd yw nid dim ond bod yn hapus. Mae’n golygu bod yn ddefnyddiol, anrhydeddus, trugarog, ac i wneud rhywfaint o wahaniaeth eich bod wedi byw ac wedi byw’n dda’.

Dechreuodd Cymorth Canser Macmillan fel un o fy mhrif elusennau oherwydd iddyn nhw helpu ffrind da i mi yn ystod cyfnod hynod anodd yn ei fywyd pan gafodd ddiagnosis o Ganser y Ceilliau. Yn anffodus, deilliant y canser hwn oedd i James gael tynnu ei geilliau. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, arferai ef a fi siarad dros y ffôn bob min nos ac, ar un adeg, roedd wir yn meddwl bod ei fywyd wedi dod i ben. Gallwn deimlo ei emosiynau’n llifo drwy fy meddwl. Yna, cyrhaeddodd Macmillan. Oni bai i Macmillan helpu James yn gorfforol ac yn emosiynol, yna mae’n bosibl na fyddai yma heddiw. Ni allaf ddiolch digon iddyn nhw am yr hyn a wnaethon nhw.

Rwyf bob amser wedi bod eisiau bod yn llysgennad dros Macmillan ar sail yr hyn a wnaethon nhw dros fy ffrind agos a theimlaf fy mod yn dod yn nes at gyrraedd y gôl honno.

Akeem Griffiths

Heblaw am y fideo ‘Naid dros Macmillan’ (sy’n wych!) ydych chi’n gwneud unrhyw beth arall i godi arian i, a chodi ymwybyddiaeth am Macmillan yng Nghymru?

Rydw i ar hyn o bryd yn trafod fy nyddiadur ar gyfer 2020/ 2021 gyda fy rheolwr Lisa a gallwn gadarnhau bod gennym rai achlysuron mawr ar y gorwel. Un o’r achlysuron hynny yw ‘Marathon Wal Fawr Tseina’ yn 2021 ar gyfer Macmillan yng Nghymru. Bydd cyhoeddiadau ar fy sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Rwyt ti’n ffrind da i Macmillan yng Nghymru. Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth bobl eraill sy’n meddwl am roi o’i hamser a’i hegni i gefnogi Macmillan?

Rydw i’n falch o fod yn ffrind da i Macmillan yng Nghymru. Fy nghyngor i bobl eraill sy’n meddwl rhoi o’u hamser a’u hegni i gefnogi Macmillan yw EWCH AMDANI. Os byddwch chi’n meddwl y byddai her yn afrealistig, cofiwch ‘Unig derfynau eich bywyd yw’r rhai sy’n cael eu gosod gennych chi a chyhyd ag y byddwch yn ymdrechu’n ddigon caled, mae unrhyw beth yn gyflawnadwy’.

Yn olaf, os ydych yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi, cofiwch mai’r rheswm yr ydych yn gwneud hyn yn y lle cyntaf yw helpu’r sefydliad gwych hwn i gefnogi un o’ch ceraint. 

Diolch yn fawr iawn i F9 Films a roddodd o’u hamser yn garedig iawn i wneud hyn i ni. Diolch!