Cefnogi cleifion â coronafeirws sydd wedi’u hynysu oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau
Mae cleifion â coronafeirws yn aml yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r dillad maen nhw’n eu gwisgo yn unig. Ni chaniateir i aelodau’r teulu ymweld, ac mae llawer yn cael eu hunain heb gyflenwadau sylfaenol, fel brwsys dannedd a dillad nos.
Mae Sarah Davies, Hwylusydd Gwybodaeth a Chefnogaeth Canser Cymorth Canser Macmillan, yn rhan o’r Tîm Profiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r tîm wedi bod ar flaen y gad yn yr ymdrechion i gasglu, sicrhau a dosbarthu cyflenwadau i’r cleifion hynny yn yr ysbytai sydd ar eu pennau eu hunain mewn wardiau ysbyty heb angenrheidiau.
Mae Sarah yn dal i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser trwy gyfeirio pobl at gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor lleol er bod Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan, sydd wedi’i lleoli yng nghyntedd Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd bellach yn storfa .
Wrth siarad am yr heriau o redeg tîm o Ganolfan Macmillan, dywedodd Sarah: “Gall fod yn eithaf heriol fel tîm i weithio yn yr ystafell fach hon. Mae angen i ni barchu’r canllaw dau fetr ar gyfer cadw pellter cymdeithasol – felly dim ond un person all fod yn yr ystafell ar y tro.”
Mae dwy ganolfan gasglu arall – un yng Nghanolfan Gwybodaeth Cymorth Canser Macmillan yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac un yn Woodlands House.
Cyn y cyfyngiadau symud ledled y DU, roedd Sarah eisoes wedi cau canolfan wybodaeth Macmillan.
“Lle bach ydyw,” meddai Sarah, “ac nid oeddwn am gael pobl i mewn yno yn cyffwrdd ac yn rhannu ein taflenni gwybodaeth a chymorth.”
Roedd pobl oedd yn chwilio am Wybodaeth a Chymorth Canser Macmillan yn cael eu cyfeirio i wefan Macmillan yn www.macmillan.org.uk.
Wrth siarad am y gefnogaeth maen nhw wedi’i chael, dywedodd Sarah: “ Rydym wedi cael cefnogaeth wych hyd yma gan sefydliadau ac unigolion. Un enghraifft wych yn unig, yw Ysbyty Deintyddol y Brifysgol sydd wedi rhoi brwsys dannedd i ni ar gyfer y cleifion.”
Mae’r tîm yn chwilio am gefnogaeth bellach gan bobl ac wedi sefydlu tudalen Just Giving.
Mae nifer o wirfoddolwyr fel arfer yn helpu i gefnogi Canolfannau Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan, ond fe wnaeth Sarah ofyn iddyn nhw sefyll i lawr yn gynnar yn yr argyfwng. Roedd angen i lawer o’i gwirfoddolwyr hunan-ynysu ond mae rhai’n parhau i fod yn awyddus i helpu pobl eraill o hyd.
Wrth siarad am gynlluniau yn y dyfodol i ddefnyddio sgiliau ei gwirfoddolwyr Macmillan, dywedodd Sarah: “Mae gan Ysbyty Athrofaol Cymru ei wasanaeth gwirfoddoli ei hun, a chredaf fod yna gwpl o’r gwirfoddolwyr Macmillan a fyddai’n wych yn cefnogi cleifion fel rhan o wasanaeth Chatterline y Bwrdd Iechyd.
“Dyma lle mae gwirfoddolwyr yn ffonio cleifion sy’n ynysu. Mae’n ffordd wych o frwydro yn erbyn unigrwydd a’r effaith y gall hyn ei chael ar les claf.”
Mae Sarah hefyd mewn trafodaethau ag uwch weithwyr proffesiynol Macmillan eraill i ddechrau nodi a datblygu ffyrdd y gallant gefnogi Arbenigwyr Nyrsio Canser yn ystod yr amser tyngedfennol hwn.
Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am bob math o ganser, gan gynnwys diagnosis, triniaethau a chyffuriau, ynghyd â chyngor i helpu gyda’r gwahanol ffyrdd y gall canser effeithio ar eich bywyd, ewch i Wefan Cymorth Canser Macmillan.
Rydym yn deall bod pobl sy’n byw gyda chanser yn poeni am coronafeirws. Mae gennym wybodaeth a chyngor yma ar ein gwefan.