Rhaglen gwella taith ganser ym Mhowys

Gofynnir i bobl sy’n byw gyda chanser ym Mhowys i rannu eu profiadau trwy raglen arloesol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru – gyda’r nod o wella sut mae gofal a chefnogaeth canser yn cael eu darparu yn y sir.
Mae Gwella Taith Ganser ym Mhowys yn bartneriaeth rhwng Cymorth Canser Macmillan, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae’r bartneriaeth am sicrhau bod pob oedolyn yn y sir sydd â diagnosis o ganser yn gallu cael sgwrs â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig am eu hanghenion a sut y gellir diwallu’r rhain orau.

Dywedodd Cerys Humphreys, Arweinydd Rhaglen Gwella’r Daith Ganser: “Rydym am i bawb ym Mhowys sy’n byw gyda chanser fyw bywyd mor llawn ag y gallan nhw. Trwy ddarparu cefnogaeth ymarferol, gorfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol ein bwriad yw y gall pobl wireddu’r hyn sydd o’r pwys mwyaf iddyn nhw. Mae gwrando ar straeon, profiadau a chanfyddiadau pobl am eu taith ganser yn rhan hanfodol o’r rhaglen Gwella Taith Ganser.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn ymgysylltu â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys staff, er mwyn deall pa gefnogaeth holistaidd sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd i unigolion sy’n byw gyda chanser. Rydym hefyd am gael sylwadau a syniadau ar sut beth fyddai model gofal integredig ym Mhowys er mwyn sicrhau fod llais gan unigolion sy’n byw gyda chanser, a bod eu anghenion yn cael eu diwallu.”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Macmillan yng Nghymru:
“Yn aml mae cael diagnosis o ganser yn creu nifer o bryderon – nid dim ond gofidiau am sut y bydd eu triniaeth yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles, ond hefyd pethau ymarferol megis dychwelyd i’r gwaith, talu biliau a byw gyda’r effeithiau tymor hir. Mae hyn yn arbennig o wir gan ein bod bellach yn wynebu effaith Covid-19 sy’n effeithio ar bob agwedd o’n bywydau.”
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â thîm y rhaglen ar ICJPowys@powys.gov.uk neu cysylltwch â Sue Ling, Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu ar 01597 826043.
