0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Tudalen we i wella gwybodaeth am y Rhaglen Ganser

ICJ Webpage

Bydd preswylwyr Powys sy’n byw gyda chanser yn gallu cael gwybodaeth am raglen arloesol o’r enw “Gwella’r Daith Canser ym Mhowys” (ICJ Powys) drwy fewngofnodi i ddolen we newydd a grëwyd i rannu diweddariadau a gwybodaeth am nodau ac uchelgeisiau’r rhaglenni.

Rhaglen partneriaeth tair ffordd yw ICJ Powys a ariennir gan Gymorth Canser Macmillan ac sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Dywedodd Dr Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae’r rhaglen Gwella’r Daith Ganser yn cefnogi Strategaeth Iechyd a Gofal y sir sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r pedwar clefyd mawr sy’n cyfyngu ar fywyd ein preswylwyr.  Canser yw un o’r rhain a’n nod yw cyflwyno dull holistaidd o ymdrin â’r gofal a’r cymorth y mae pobl yn eu derbyn yn dilyn diagnosis.

“Mae ein tudalen we yn rhoi trosolwg, ynghyd â fideo sy’n amlygu sut y daeth y rhaglen hon i fodolaeth a rhai dolenni defnyddiol i gefnogi sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bracken, PAVO a Credu. Mae yna hefyd rai fideos gan feddygon teulu a phreswylydd sy’n siarad am ei thaith canser.  Gall pobl gael mynediad drwy ddolen i’n sianel You Tube. Rwy’n gobeithio y bydd unrhyw un sy’n byw gyda chanser yn ei gweld yn adnodd defnyddiol y byddwn yn ei ddiweddaru wrth i ni symud ymlaen gyda’n prosiectau peilot.”

Fel sir wledig heb ysbyty cyffredinol mae preswylwyr Powys yn cael eu cyfeirio at un o tua 14 o ysbytai ar gyfer asesiadau a thriniaeth gychwynnol a all fod naill ai yn rhai tymor byr neu dymor hir.  

Nod pennaf y rhaglen yw sicrhau y cynigir asesiad anghenion holistaidd dilynol i bob oedolyn sy’n cael diagnosis o ganser. Gellir cwblhau hyn ar-lein yng nghysur cartref yr unigolyn.  Mae’n rhoi’r cyfle iddynt ystyried a thynnu sylw at unrhyw bryderon mawr sydd ganddynt p’un a yw hynny’n ymwneud â chymhwysedd i gael budd-daliadau, gwneud ewyllys neu ddod o hyd i grŵp cymorth lleol.

Ar ôl ei gyflwyno, mae gweithiwr cyswllt lleol yn nodi’r cymorth a’r gwasanaethau allweddol a all ddiwallu anghenion yr unigolyn ac yn cael sgwrs i’w harwain a’u cyfeirio.  Mae cwblhau’r fersiwn ar-lein hefyd yn rhoi mynediad at ystod o daflenni gwybodaeth Macmillan sy’n cynnig cyngor ar y pynciau a ddewisiwyd. 

I fynd i’r dudalen ICJ, ewch i:  https://cy.powysrpb.org/icjpowys

Mae Llinell Gymorth Macmillan ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am-8pm ar 0808 808 00 00 neu ewch i macmillan.org.uk.

Logos for Powys Teaching Health Board, Powys County Council and Macmillan Cancer Support