0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Cwestiynau am ganser? Siaradwch â David

Fis diwethaf bu inni lansio pod gwybodaeth a chymorth canser newydd yn Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr.

Gwaith David Watkins yw gwneud yn siŵr ei fod yn rhedeg yn esmwyth.

Mae David yn Arbenigwr Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan sydd wedi ei hyfforddi’n drylwyr, ac mae’n egluro pam mae hi mor hynod o bwysig i bobl sydd â chanser gael y wybodaeth a’r cymorth y mae arnynt eu hangen.

Esbonia wrthym sut yr wyt ti’n gallu helpu pobl sydd â chanser.

Rwy’n Arbenigwr Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan.

Rwy’n gweithio yn y pod newydd yn Ysbyty’r Tywysog Charles, ond rwyf hefyd yn gyfrifol am safleoedd ysbyty ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Mae diwrnod nodweddiadol i mi yn golygu helpu pobl sydd â chanser i gael y wybodaeth y mae arnynt ei hangen, a hynny, gobeithio, ar yr adeg pan fydd arnynt fwyaf o angen y wybodaeth honno.

Dyna’r hyn yr wyf yn ei wneud – rwy’n cynnig gwybodaeth ddibynadwy, o ansawdd uchel, i helpu pobl sydd â chanser i reoli’r amrywiaeth eang o effeithiau y gall cael diagnosis o ganser eu cael ar fywyd person.

Ar ddiwrnod nodweddiadol byddaf yn cyrraedd y pod gwybodaeth ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn llawn o’r wybodaeth arbenigol am ganser y mae ar bobl ei hangen.

Yna byddaf yn gwirio pa ymholiadau am wybodaeth yr wyf wedi’u cael, ac yn ymdrin â’r rhain naill ai trwy drefnu apwyntiad i ymweld â’r pod, neu trwy gyfeirio’r claf ymlaen at wasanaeth cymorth mwy arbenigol megis ein tîm budd-daliadau lles Macmillan lleol.

Rwy’n cael hyd at 15 o ymweliadau’r dydd â’r pod newydd. Yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu yw bod pob ymholiad, a phob person â chanser sy’n cerdded i mewn i’r pod newydd, yn wahanol.

Mae gan bobl sydd â chanser, a’u hanwyliaid, oll anghenion ac amgylchiadau unigol cymhleth a chwbl wahanol i’w gilydd. Rwy’n ceisio rhoi cymorth sydd wedi’i deilwra iddynt.

Boed yn glinigol, yn ariannol, yn ymarferol neu’n emosiynol – fy ngwaith i yw helpu pobl i fyw eu bywydau, ac i ymdrin â’r pwysau y mae canser yn eu hachosi, trwy eu cynorthwyo i gael y wybodaeth a’r cymorth y mae arnynt eu hangen.

Beth sy’n dy ysgogi di yn dy swydd gyda Macmillan?

Yn Macmillan rydyn ni’n gwybod, bob dau funud, y bydd rhywun yn clywed y geiriau ‘mae canser arnoch’.

Fel cynifer o bobl eraill, rwyf wedi gorfod gwylio nifer o aelodau fy nheulu fy hun yn gorfod dod i delerau â’u diagnosis eu hunain o ganser.

Mae wedi fy ysgogi i fod eisiau gwneud gwahaniaeth.  Mae arnaf eisiau bod yno i adael i bobl wybod am y cymorth ehangach sydd ar gael. Mae arnaf eisiau cynnig rhai atebion lle bo modd.

Mae fy swydd yn fy rhoi mewn sefyllfa freintiedig. Dyw hi ddim bob amser yn hawdd i bobl sydd â chanser fod yn agored, adrodd eu stori wrthyf a gofyn am gymorth.

Yr hyn sy’n fy ysgogi fwyaf yw’r awydd i ad-dalu eu hymddiriedaeth ynof trwy eu cyfeirio at gymorth neu ddarparu’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen.

Rwyf wir yn edrych ymlaen at ddod i’m gwaith ar y pod bob dydd.

Ers dechrau gweithio gyda Macmillan rwyf wir yn teimlo fy mod yn rhan o deulu. Mae’r croeso yr wyf wedi’i gael gan staff a chleifion ers i’r pod newydd agor wedi bod yn wych.

Beth yw’r foment yr wyt ti fwyaf balch ohoni yn dy waith gyda Macmillan hyd yma?

Mae’r hyn yr wyf yn ei wneud gyda Macmillan yn hynod o bersonol.

Yn fuan wedi imi ddechrau yn y swydd, daeth hen ddyn i mewn i’r pod am sgwrs.

Yn anffodus, roedd yn glaf gofal lliniarol ac nid oedd yn dda iawn. Mae gennyf deulu fy hun, roedd hi bron yn adeg y Nadolig ac roedd arnaf eisiau gwneud yn siŵr y byddai yntau gartref i fwynhau’r gwyliau gyda’i deulu hefyd.

Cysylltais â thîm y nyrsys ardal, trefnu ymweliadau parhaus iddo er mwyn sicrhau ei fod yn iawn yn y tymor hwy, a rhoddais gymorth iddo hefyd gyrraedd yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys er mwyn iddynt gael golwg arno.

Fis yn ddiweddarach, daeth ei chwaer yn ôl i’r adran cleifion allanol ar gyfer apwyntiad. Roedd hi mor ddiolchgar.

Cafodd yr hen ddyn ei gadw i mewn am rai dyddiau, ond fe dreuliodd y Nadolig gartref gyda’i deulu, a llwyddodd, hyd yn oed, i fynd ar ei ymweliad traddodiadol â’r siop fetio.

Roeddwn i’n teimlo’n eithriadol o falch o wybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth bychan i Nadolig y teulu hwnnw.

Yn dy eiriau dy hun, beth hoffet ti ei ddweud wrth y bobl sy’n darllen dy flog?

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am ganser, cofiwch gysylltu.

Boed chi’n galw heibio pod gwybodaeth a chymorth canser lleol fel yr un yn Ysbyty’r Tywysog Charles, neu’n galw ein llinell gymorth am ddim ar 0808 808 00 00, fe welwch fod Macmillan wastad yn barod i helpu.

Gall siarad â rhywun wneud gwahaniaeth mawr o ran eich cynorthwyo i gael atebion i’ch cwestiynau, a lleddfu rhywfaint ar y baich emosiynol a meddyliol.

MERTHYR_38

Dim ond yn sgil haelioni’r cyhoedd a’u hymdrechion codi arian diflino y gall Macmillan Cymru ariannu gwasanaethau fel y pod newydd yn Ysbyty’r Tywysog Charles.

I gymryd rhan mewn gwaith codi arian i Macmillan ffoniwch 0300 100 20 00 neu ebostiwch fundraising@macmillan.org.uk.

Leave a Comment