0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“Gall canser gymryd llawer oddi wrthych. Ni ddylai gymryd eich cydberthynas hefyd.”

Gall canser droi bywydau pobl ben i waered.  Yn aml, nid y driniaeth na’r salwch ei hun sy’n cael yr effaith mwyaf ond y sgil effeithiau y mae’n gallu gadael ar ei ôl.

Yn ein cyfres blog ddiweddaraf, rydyn ni’n delio â’r pynciau ‘tabŵ’ sydd, bob blwyddyn, yn gadael miloedd o bobl â chanser naill ai’n rhy bryderus, neu’n rhy embaras i ofyn am yr help y maen nhw ei angen.

Awgryma pôl piniwn diweddar gan Macmillan mai rhyw a chydberthynas yw’r tabŵ rhif un yng Nghymru gyda dros hanner y bobl yn dweud y bydden nhw’n ei chael hi’n anodd eu trafod.

Cwnselydd Macmillan yw Julie Armytage.  Yn y cyntaf o’n blogiau ‘tabŵ’ canser, mae’n egluro pam dylid trafod pryderon am ryw ac agosatrwydd.

Julie: Bum yn Gwnselydd Macmillan am dros 4 blynedd. Fy  ngwaith yw cefnogi pobl sy’n dioddef gan effeithiau seicolegol ac emosiynol y gall canser eu cael ar eu bywydau.

Er bod effeithiau canser yn eang, gwn o brofiad nad yw nifer o’r effeithiau hyn yn cael eu trafod, eu clywed na’u datrys.

Fel y mae pôl piniwn diweddar Macmillan yn awgrymu, gwyddom y gall rhyw ac agosatrwydd deimlo fel pynciau anghyfforddus sy’n achosi embaras wrth i bobl siarad amdanyn nhw.

Mae nifer o bobl yn ei chael hi’n anodd gwybod at bwy i droi ac, yn aml, maen nhw’n ei chael hi’n anodd siarad gyda’u câr mewn modd agored a gonest.

Ni ddylai unrhyw un orfod wynebu’r teimlad hwn o unigrwydd neu arwahanrwydd heb gymorth.

Mae rhyw ac agosatrwydd yn emosiynau a swyddogaethau dynol, naturiol. Maen nhw’n rhan hanfodol o’n bywydau.

Mae teimlo’n analluog i drafod agosatrwydd ar ôl diagnosis a thriniaeth canser yn creu risg o greu cynifer o broblemau eraill.

O gyfnodau cynnar diagnosis hyd at driniaeth ac adferiad, mae pobl â chanser yn aml ar eu mwyaf bregus. 

Mae’n sefyllfa lle mae’r un peth y mae cynifer o bobl â chanser yn rhy embaras i’w drafod, yn aml yr un peth y maen nhw ei angen yn fwy nag erioed.

Maen nhw ynghanol sefyllfa sy’n aml yn frawychus – sefyllfa lle gall agosatrwydd, y syniad o gysur a hyder yn eu cydberthynas, wneud cymaint i’w helpu i oresgyn hyn.

Er nad yw rhyw ac agosatrwydd bob amser yn cael eu trafod yn gyhoeddus – yn sicr nid i’r graddau gonest ac agored y dylen nhw – gwyddom eu bod yn aml yn un o’r problemau mwyaf cyffredin y mae canser yn ei greu.

Pa un ai oherwydd sgil effeithiau corfforol fel analluedd neu anymataliad neu broblemau seicolegol fel delwedd corff neu iselder ysbryd, mae ymchwil yn awgrymu bod tua 43% o gleifion canser yn credu bod eu bywyd rhyw wedi dioddef oherwydd eu salwch.

Gall teimlo’n rhy embaras i’w drafod gael effaith dwfn iawn ar iechyd meddwl, lles a gallu pobl i ymdopi gyda’u profiad canser ehangach.

Dyna pam ei bod mor bwysig i bobl drafod yn agored.

Nid yn unig gall canser gael effaith negyddol ar sut byddwch chi’n teimlo am ryw ac agosatrwydd, gall wneud hyn ar adeg pan ei bod mor bwysig i allu mynegi cariad, agosatrwydd a theimlo cysur.

Mae help ar gael.  Help fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl addasu i anawsterau a adawyd gan eu canser ac i ddelio â materion am ddelwedd corff,  lludded, colli awydd neu boen.

Drwy drafod materion fel rhyw ac agosatrwydd, gall pobl ddarganfod sut i oresgyn yr effaith a gaiff canser o fewn eu cydberthynas.

Gall helpu i ddelio â materion fel dicter, pryder ac iselder ysbryd ynghyd â materion fel euogrwydd neu alar.  O wneud hyn, gall helpu pobl i lunio eu disgwyliadau am ailddechrau neu gynnal eu bywyd rhyw ac ail ddarganfod y teimlad hanfodol o agosatrwydd a hyder gyda’u ceraint.

Y realaeth yw y gall canser gymryd llawer oddi wrth bobl. Ni ddylai gymryd eu cydberthynas hefyd.

Mae’n bosibl na fydd trafod rhyw ac agosatrwydd yn hawdd, ond gall wneud cymaint i helpu rhywun gyda’u hiechyd meddwl, eu lles emosiynol a’u hunan-barch. O wneud hyn, gall helpu gyda’u hadferiad ehangach.

Er mwyn cael gwybodaeth, cymorth neu rywun i siarad â chi hyd yn oed, gallwch ffonio 0808 808 0000 neu ewch i macmillan.org.uk

Leave a Comment