0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“Effaith mwyaf canser oedd yr un na wnes i erioed ei drafod”

Yn aml, effaith mwyaf canser yw nid y driniaeth na’r salwch ei hun , ond y sgil effeithiau newid bywyd y gall eu gadael ar ôl.

Yn ein cyfres blog ddiweddaraf, rydyn ni’n delio â’r pynciau ‘tabŵ’ sydd, bob blwyddyn, yn gadael miloedd o bobl â chanser naill ai’n rhy bryderus, neu’n rhy embaras i ofyn am yr help y maen nhw ei angen.

Awgryma pôl piniwn diweddar gan Macmillan mai rhyw a chydberthynas yw’r tabŵ rhif un yng Nghymru gyda dros hanner y bobl yn dweud y bydden nhw’n ei chael hi’n anodd eu trafod.

Cafodd Ali ddiagnosis o ganser cerfigol yn 2015.  Mae’n egluro sut roedd y syniad o golli ei ffrwythlondeb a phryderon am agosatrwydd yn pwyso’n llawer trymach na’i diagnosis o ganser.

Ali: Yn 2015 euthum i gael prawf ceg y groth arferol.  Arweiniodd hyn at ddiagnosis o ganser cerfigol.

Mae’n wir na all unrhyw beth eich paratoi ar gyfer yr amser y byddwch chi’n clywed y geiriau hynny “mae gennych ganser.” Gwn, yn sicr, nad oeddwn i’n barod amdano.

Ond, drwy’r holl ddagrau – bod yn gryf i eraill a’r munudau preifat lle’r oeddwn yn teimlo bod fy mywyd i’n chwalu – mae’n bosibl bod yr effaith a gafodd canser arna i ddim yr hyn y byddai pobl yn ei ddisgwyl.

Credaf iddo ddechrau adeg y diagnosis.

Yn gyntaf, roeddwn i’n ffodus.  Roedd gen i opsiwn o driniaeth a byddaf bob amser yn ddiolchgar am hyn. Erbyn hyn, rydw i bellach wedi goroesi am bedair blynedd.

Ond, pan gyflwynwyd fy opsiwn o driniaeth i mi, dw i ddim yn meddwl i unrhyw un drafod yr effaith y byddai’n ei gael arnaf i go iawn.

Roedd yn rhaid i mi gael hysterectomi. Nid peth bach yw hyn.  Yn sicr nid i rywun fel fi oedd wedi bod mor siŵr fy mod i’n mynd i gael babi arall. 

Ond, roeddwn i’n 37 oed, yn sengl, ac roedd gen i fab yn barod oedd werth y byd i gyd i mi. Mae’n siŵr bod pawb yn tybio y byddwn yn iawn gyda’r driniaeth, a’r holl bethau y byddai’n eu cymryd oddi wrthyf. 

Ni allen nhw fod wedi bod ymhellach o’r gwirionedd.

Nid effaith mwyaf poenus y canser oedd y salwch na’r driniaeth na’r pryder. Ond, y peth nad oedd byth yn cael ei drafod – fy rhyddid i ddewis a’r gobaith o blentyn arall oedd y pethau a gymerodd y driniaeth canser oddi arnaf.

Nid oedd yn cael ei drafod, nid oedd yn cael ei resymu, ei ystyried na’i bwyso a’i fesur hyd nes i mi gyfarfod â fy nyrs Macmillan Jane a allodd greu gofod i mi ddod i delerau â hyn gyda’r cyffyrddiad dynol.

Ac nid oedd yn peidio gyda fy syniad o golli fy ffrwythlondeb.

Nid oes unrhyw un yn trafod sut mae triniaeth fel hysterectomi’n gwneud iddyn nhw deimlo go iawn na’r effeithiau y gallant eu cael ar gydberthynas, ar fywyd rhyw ac ar hunan-barch.

Ar un llaw, roeddwn mor falch bod y driniaeth canser yn llwyddiannus ond, ar y llaw arall, roeddwn yn dioddef cymaint oherwydd yr hyn a deimlwn i mi golli.

I mi, roeddwn yn dechrau teimlo’n llai fel dynes rywsut, fy mod wedi colli fy menyweidd-dra.

O edrych yn ôl, roeddwn hyd yn oed yn dechrau gwneud pethau fel gwisgo colur bob dydd, buddsoddi mewn aeliau llygaid ffals a lliw haul artiffisial – pob un i geisio gwneud iawn am ran ohonof y teimlwn i mi ei golli.

Roedd fy hyder o safbwynt cydberthynas wedi’i ddifetha ac roedd y syniad o gyfarfod rhywun newydd yn frawychus. 

Ni allwn beidio â gofyn cwestiynau i mi fy hun, rhai fel “a fyddai dynion yn fy ngweld i’n llai o ddynes, a fydden nhw’n fy ngweld yn ddeniadol ac a fyddai’r ffaith na allwn gael plant fod yn broblem iddyn nhw?”

Roedd meddwl am ryw’n frawychus.  Roeddwn i’n bryderus a fyddai popeth yn gweithio i lawr yn fanna, a fyddai hynny’n boenus ac a fyddai unrhyw sgil effaith anghyfforddus i boeni amdano.

Roedd y rhain i gyd yn gwestiynau yn fy mhen, cwestiynau oedd yn pwyso’n drwm ar fy hyder a’m hunan-barch – cwestiynau nad oedd gennyf syniad i bwy y dylwn eu gofyn na sut i gael atebion iddyn nhw. 

Yn dilyn cyngor gan fy nyrs Macmillan, cefais weld cwnselydd oedd yn helpu o safbwynt fy ffrwythlondeb. 

Cefais atebion i’m cwestiynau a’m pryderon am agosatrwydd dim ond pan roeddwn i’n cyfarfod â rhywun newydd – nid oeddwn erioed wedi teimlo mor hunan-ymwybodol nac ofnus yn fy mywyd.

Mae’n bedair blynedd ers hynny ac os byddwn yn gallu cael unrhyw beth, byddwn am i unrhyw un arall beidio â chael eu hunain yn yr un sefyllfa unig.

Ni ddylai unrhyw un gael eu harteithio gan gwestiynau y maen nhw’n rhy hunan-ymwybodol i’w gofyn na bod angen cymorth y maen nhw’n teimlo rhy embaras i ofyn amdano.

Mae’n rhaid i ni fod yn fwy agored a gonest. Os ydy canser wedi dysgu unrhyw beth i fi, mae wedi dysgu i mi gymryd bywyd yn fy nwy law a’i fyw mor llawn ag sy’n bosibl.  Os oeddwn i’n llawn hwyl cynt, yna rydw i’n byw bywyd i’r eithaf erbyn hyn.

Mae’r holl faterion hyn fel rhyw, agosatrwydd, arian, emosiynau a iechyd meddwl – nid yw’r rhain yn tabŵ.  Maen nhw’n bethau bob dydd, maen nhw’n bethau naturiol mae pawb eu hangen ac yn pryderu amdanyn nhw.

Siaradwch amdanyn nhw. 

Dim ond pan oeddwn i’n dechrau trafod pethau’n fanwl a dechrau delio â rhai o’r pethau roedd canser wedi’u cymryd oddi arna i, y dechreuodd fy mhroses o wella go iawn.

I gael gwybodaeth, cymorth neu rywun i siarad â chi hyd yn oed, gallwch ffonio 0808 808 00 00 neu ewch i macmillan.org.uk

Leave a Comment