0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“Mae’r cymorth mwyaf i’w ganfod yn aml yn y gweithredoedd bach, syml”

Pan gafodd Gale Kidman o Aberpennar ddiagnosis o ganser y fron prin yn 2012, dechreuodd ar daith anodd o driniaeth ac adferiad. 

Heddiw, ar Ddiwrnod Canser y Byd, mae’n siarad am bwysigrwydd cyfeillgarwch a dod o hyd i gymorth.

Ar gael diagnosis o ganser

Hyd yn oed yn y cyfnodau cynnar, pan dim ond teimlad oedd gen i fod rhywbeth mawr o’i le, mae cyfeillgarwch wedi bod yn hynod o bwysig.

Roeddwn wedi mynd o fod yn fenyw heini, iach ac egnïol i fod yn fwy a mwy blinedig.  Roedd codi i fynd i’r gwaith yn frwydr.

Ffrind da i mi, oedd yn dechrau poeni, wnaeth ddwyn perswâd arnaf i fynd yn ôl at y meddyg er bod yr holl brofion yn dweud fy mod yn iach.

Pan gefais y diagnosis, cwympodd fy myd yn ddarnau.  Roedd y lwmpyn yn fy mron yn fwy na’r disgwyl.  Roedd y gair ‘chemo’ fel ergyd fawr a sylweddolais gyda braw fod ‘hyn yn digwydd i mi go iawn’.

Rydych yn teimlo eich bod ar ben eich hun yn sydyn.  Wedi eich ynysu gan y salwch hwn nad oes unrhyw un arall yn ei ddeall.

Ar gyfeillgarwch

Ar adeg y diagnosis roeddwn yn byw ar fy mhen fy hun.  Roedd cael diagnosis yn fy ynysu yn syth – roedd hyd yn oed ceisio dod o hyd i’r geiriau iawn i esbonio fy nghanser i’r teulu yn anodd.

Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli fy mod wedi arfer bod yn fenyw annibynnol, abl ac yn cael anhawster yn gofyn, neu’n derbyn, cynnig o gymorth.

Roeddwn wedi arfer bod mor gryf i mi a’m teulu fel ei fod yn anodd iawn gadael y rhan hon o’m hunaniaeth i fynd.

Ond symudais i fyw gyda hen ffrind agos am ychydig wythnosau ar ddechrau fy nhriniaeth. Ei chefnogaeth hi oedd yr hyn oedd ei angen arnaf, ac fe wnaethom chwerthin a chrio gyda’n gilydd.

Nid wyf yn siŵr sut y byddwn wedi ymdopi heb gymorth ffrindiau, hen a newydd.

Ar ddod o hyd i gymorth

Yn ystod fy nhriniaeth, roeddwn i ffwrdd o’r gwaith am fwy na blwyddyn.

Yr hyn wnaeth fy synnu oedd pa mor anodd oedd hi i rai pobl gynnig cymorth.  Roedd fel pe bai siarad am fy nghanser mor anodd ei fod yn haws dweud dim o gwbl.

Fe wnaeth ffrindiau a systemau cymorth leihau.  Roedd pobl yn cael anhawster yn bod yn gyson o ran bod o gwmpas, dweud y peth iawn neu wybod beth oedd y peth iawn i’w wneud.

Roedd hyn ynddo’i hun yn ynysu.  Roedd gennyf yrfa brysur ac fe wnaeth colli cysylltiad â hynny, yn ogystal â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, i gyd gael effaith sylweddol arnaf i a’m hunigrwydd.

I unrhyw un sydd yn adnabod rhywun â chanser, y cymorth mwyaf yn aml yw’r gweithredoedd bach syml o ddydd i ddydd.

Llythyr neu neges destun cyflym i roi gwybod i’r person eich bod yn meddwl amdanynt.  Cynnig gwneud swper, neu waith tŷ neu fynd i’r siop – gweithredoedd o gymorth a charedigrwydd o ddydd i ddydd fydd yn lleddfu’r pwysau ac yn cynnig rhywfaint o gwmni.

Ar Macmillan

Un o’r ffynonellau cymorth mwyaf oedd cymuned ar-lein Macmillan.

I mi, roedd yn gas gennyf beidio gwybod beth i’w ddisgwyl.  Roeddwn eisiau gwybod beth oedd yn dod nesaf gyda fy nhriniaeth a sut y gallai effeithio arnaf.  Mae’n ymwneud â pharatoi eich hun.

Ar yr adegau hyn y rhoddodd gymuned ar-lein Macmillan garedigrwydd, gwybodaeth a chymorth emosiynol rhagorol.

Fel y bydd unrhyw un sydd wedi cael canser yn dweud wrthych, mae pob profiad yn wahanol.  Rydym i gyd yn ymateb, yn feddyliol ac yn gorfforol, mewn ffyrdd gwahanol iawn.

Ond pan oeddwn gartref, gyda’r pedair wal yn cau amdanaf, fe wnes i droi at gymuned ar-lein Macmillan.

Dyma’r lle y cefais y cymorth oedd ei angen arnaf gymaint, trwy siarad ag eraill oedd yn mynd trwy’r un profiadau â mi.  Byddwn yn dweud wrth bobl â chanser, peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth.  Mae’r cymorth a’r cyfeillgarwch sydd ei angen arnoch ar gael.

Ewch i gymuned ar-lein Macmillan neu ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00.