“Mae effaith ariannol canser yn aruthrol”
Dim ond 35 oed oedd Meinir pan gafodd hi ddiagnosis o ganser y fron.
Heddiw, wrth i ni gyhoeddi ein hadroddiad No Small Change, mae Meinir yn egluro’r effaith ariannol syfrdanol y gall canser ei gael ar fywydau pobl.
Clywed y newyddion
Yn Seland Newydd oeddwn i pan ddes i o hyd i’r lwmp y tro cyntaf.
Ro’n ni yn ein fan fach. Mae fy mhartner a fi wrth ein boddau efo chwaraeon eithafol, a ro’n ni’n cael amser gwych yn teithio o gwmpas ac yn rhoi cynnig ar bob dim.
Mi ges i ddiagnosis o ganser y fron (breast cancer) pan ddois i adre.
Ro’n i’n 35 oed, yn ffit, yn iach a newydd ddychwelyd o deithio’r byd. Roedd clywed bod gen i ganser y fron yn andros o sioc.
Amser i ffwrdd o’r gwaith
Wrth i mi geisio dod i delerau â’r diagnosis, fy sefyllfa ariannol oedd un o’r pryderon cyntaf a ddaeth i’r meddwl.
Mi wyddwn i y buaswn i’n wynebu misoedd o gemotherapi cyn cael llawdriniaeth ac yna radiotherapi.
Mi es i banig ar unwaith, gan feddwl ‘O na, fedra i ddim gweithio.’
Mae’r offer dwi’n ei gario fel gwraig gamera lawrydd yn llwyth trwm, ac mae’r teithio’n ddi-ball. Mi sylweddolais i’n fuan iawn na fyddwn i’n medru ymdopi ag agweddau corfforol y gwaith.
Yn y diwedd, bu’n rhaid i mi ganslo’r cytundebau ro’n i wedi gweithio mor galed i’w trefnu, ac mi fues i’n absennol o’r gwaith am yn agos at flwyddyn rhwng y driniaeth a’r cyfnod o wella.
Mi gollais i ffynhonnell fy incwm.
Pryderon ariannol
Efallai nad pres ydy’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl pan fod pobl yn meddwl am ganser, ond mi gafod y salwch effaith aruthrol ar fy sefyllfa ariannol.
Pan rydych chi’n byw gyda chanser, mae dal angen talu’r morgais, prynu bwyd a dillad, cadw car ar yr heol a thalu biliau nwy a thrydan.
Ar un adeg, roedd y straen a’r pryder o boeni am y sefyllfa ariannol yn fwy na’r pryder am y canser ei hun, hyd yn oed.
Mae pob dime goch yn chwarae ar eich meddwl o hyd, yn yr union gyfnod pan rydych chi wedi blino’n lân yn gorfforol ac yn feddyliol yn sgil y driniaeth.
Does dim byd yn waeth na cheisio rhagweld sut rydych chi’n mynd i gadw to uwch eich pen, neu fforddio cyrraedd eich sesiwn driniaeth nesaf, a hynny wrth i chi geisio dod i delerau â’ch salwch yr un pryd.
Dod o hyd i gefnogaeth
Roedd fy nheulu a fy ffrindiau’n werth y byd. Mi helpodd fy mam i dalu’r morgais. Roedd ffrindiau’n dod heibio efo parselau bwyd a gofal i mi.
Mi ges i gefnogaeth gan Macmillan hefyd.
Drwy eu canolfan gwybodaeth a chefnogaeth yn y man lle’r o’n i’n cael fy nhriniaeth, mi ges i fy nghyfeirio at wasanaeth cyngor budd-daliadau a lles Macmillan.
Roedd yn help i leddfu’r baich ar unwaith. Mi dderbyniais i grant, ac mi ddefnyddiais hwnnw i yswirio Emyr, fy mhartner, i yrru fy nghar er mwyn iddo fedru mynd â fi i fy apwyntiadau yn yr ysbyty.
Mi helpodd Macmillan fi i wneud cais am Lwfans Cefnogi Cyflogaeth. Fues i’n derbyn £200 yr wythnos, oedd yn andros o help efo’r gwariant oedd yn mynd allan.
Y ffaith amdani ydy nad oes amser da i dderbyn diagnosis o ganser. Does dim byd yn fwy annymunol, nac yn fwy anodd ei ragweld.
Yn 35 oed, do’n i ddim wedi hyd yn oed wedi ystyried y gallwn i golli’r gallu i weithio.
Hyd yn oed heddiw, flynyddoedd ar ôl y diagnosis a’r driniaeth, dwi’n gweithio oriau gwirion i ailosod seiliau cadarn i fy sefyllfa ariannol.
Cyngor
Mi fuaswn i’n cynghori unrhyw un sydd â chanser i ofyn am gyngor ariannol cyn gynted ag y gallan nhw.
Mae ’na gefnogaeth ar gael drwy Macmillan. Mi allan nhw leddfu’r pwysau sydd arnoch chi, a gadael i chi ganolbwyntio ar eich gwellhad.
Am wybodaeth bellach, ewch i macmillan.org.uk/moneyworries.