0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Sarah Wilson ar greu man ‘hamddenol a myfyriol’ i Macmillan

Y dylunydd gerddi, Sarah Wilson, yw’r gallu creadigol y tu ôl i Ardd Gymynroddion Macmillan.  Fe wnaethom ofyn i Sarah ddweud ychydig wrthym am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ddyluniad ei gardd a heriau ymarferol adeiladu gardd arddangos.

Gallwch ymweld â Gardd Gymynroddion Macmillan yn Sioe Flodau RHS Caerdydd rhwng Dydd Gwener 7 a Dydd Sul 9 Ebrill 2017.

Beth yw heriau dylunio gardd ar gyfer Cymorth Canser Macmillan?

Mae’r heriau yr un peth i bob gardd arddangos; cyflwyno gardd brydferth ar amser ac o fewn y gyllideb!

Ond gyda’r Ardd Gymynroddion, roedd yn hanfodol fy mod yn bodloni’r cyfarwyddyd o greu gardd sy’n cysylltu’n ôl i gysyniad canolog Cymynroddion.

Cymerodd amser i ganfod sut y gellid archwilio’r thema trwy bob agwedd ar yr ardd ond rwy’n teimlo’n hapus y bydd ymwelwyr â’r ardd yn gallu cysylltu’r ardd â’r cysyniad a bydd yn annog pobl, gobeithio, i feddwl am eu cymynroddion eu hunain.

Beth ydych eisiau i bobl deimlo pan fyddant yn dod i’r ardd?

Quote - The true meaning of life is to plant trees, under show shade you do not expect to sit.

Dyluniais yr ardd i fod yn ofod hamddenol a myfyriol. Mae’r dyfyniad sy’n mynd i’r afael â’r syniad o’r hyn yr ydych yn ei adael ar ôl unwaith y byddwch wedi mynd yn ganolog i’r ardd a thrwy ei ddarllen, gobeithio bydd pobl yn cymryd eiliad i ystyried yr ystyr y tu ôl i’r dyfyniad.

Dywedwch ychydig wrthym am y cerflun sydd yng nghanol yr ardd?

Y cerflun yw’r nodwedd ganolog gyda gweddill yr ardd yn treiddio ohono. Mae’r dyfyniad wedi ei argraffu o amgylch y cerflun ac er mwyn adlewyrchu’r teimlad yn y dyfyniad, mae’r ardd yn llythrennol yn ymestyn o’r fan hon mewn cylchoedd i gyfleu effaith crychau. Mae’r crychau’n cynrychioli canlyniadau pellgyrhaeddol gweithredoedd y presennol sydd yn bodoli hyd yn oed pan na fydd person yma bellach.

Beth mae creu gardd ar gyfer Sioe Flodau RHS yng Nghaerdydd yn ei olygu? Pwy arall sydd yn gysylltiedig?

Caiff yr ardd ei chreu gan dîm cyfan o bobl gan ddechrau gyda’r rheiny ym Macmillan a wnaeth yr holl beth yn bosibl. Bydd fy nhirlunwyr gweithgar, Smartscape, yn adeiladu’r ardd ac mae gennyf ystod o feithrinfeydd rhagorol fydd yn darparu planhigion.

Mae’r deunyddiau wedi cael eu rhoi yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Selco a Kinley Systems yn y drefn honno a rhoddwyd y fainc trwy garedigrwydd The Garden Furniture Centre.

Heb waith caled a charedigrwydd y cwmnïau hyn, ni fyddai’r ardd wedi cael ei chreu felly rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd yn gysylltiedig.

Faint o amser fydd hi’n cymryd i osod Gardd Gymynroddion Macmillan?

Bydd yr ardd yn cymryd tua naw diwrnod i’w chwblhau.

Dywedwch rywbeth wrthym am y ffordd y gwnaethoch ddechrau dylunio gerddi?

Dechreuais ddylunio gerddi ar ôl newid gyrfa i arddwriaeth tua wyth mlynedd yn ôl. Roeddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn gofalu am erddi yr oedd pobl eraill wedi eu dylunio a phenderfynais y byddwn yn hoffi dylunio mannau fy hun. Fy nod yw creu gerddi sy’n gweithio i bobl lle gall eu syniadau ddod yn fyw.

A oes gennych unrhyw gysylltiadau â Chymru?

Treuliais wythnos anhygoel mewn lle o’r enw Stout Hall ar Benrhyn Gŵyr pan oeddwn yn yr ysgol. Aethom ar deithiau o amgylch yr ardal a threulio amser yn yr awyr agored a syrthiais mewn cariad â Chymru o ganlyniad i hynny.

Gallwch ganfod mwy am Ardd Gymynroddion Macmillan ar wefan Sioe Flodau RHS Caerdydd.