0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Sesiwn holi ac ateb gyda Paula, swyddog gwybodaeth a chymorth i deuluoedd Macmillan

Heddiw yw dechrau Wythnos y Gofalwyr felly fe wnaethom ofyn i Paula Hall, sydd yn Swyddog Gwybodaeth a Chymorth i Deuluoedd gyda Macmillan, i ddweud ychydig wrthym am ei swydd.  Mae Paula, sydd wedi ei lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig cymorth holistaidd i bobl a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ganser a salwch arall sy’n cyfyngu ar eu bywyd.

Dywedwch ychydig wrthym am eich swydd?

Fi yw Swyddog Gwybodaeth a Chymorth i Deuluoedd Macmillan. Rwy’n rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol i ofalwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwyf yn cyfarfod pobl yn eu cartrefi, neu yn y ganolfan gofalwyr, mewn ysbytai, neu hyd yn oed dros y ffôn. Er enghraifft, rwyf yn mynd allan i Uned Macmillan yn Y Bwthyn Newydd unwaith yr wythnos i godi ymwybyddiaeth, ac i gyfarfod â theuluoedd pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser i roi gwybodaeth a chymorth.

Mae llawer o ofalwyr heb arfer â rhywun yn gofyn, “Sut ydych chi?” Anaml y mae pobl yn gofyn amdanynt – mae fel arfer yn ymwneud â’r person y maent yn gofalu amdanynt.

Rwyf yno i helpu i gyfeirio pobl at gymorth arbenigol yn ymwneud â’r gyfraith, arian a budd-daliadau.

Pan fyddaf yn mynd i weld gofalwr, rwyf bob amser yn dechrau’r sgwrs trwy ddweud “Wel, nid wyf yn feddygol. Nid wyf wedi cael hyfforddiant mewn ysbyty ac maent yn dweud “Mae hynny’n braf.  Dydw i ddim eisiau gweld nyrs arall na meddyg ac ymgynghorydd arall!”

Rydych yn cynnig mwy na chymorth emosiynol a chyfeirio yn unig yn d’ydych? Dywedwch ychydig wrthym am y gweithgareddau sy’n cael eu trefnu a’r therapïau y gall pobl eu cael yn y ganolfan?

Mae gennym raglen eang o weithgareddau a chymorth i apelio at bob gallu a diddordeb.

Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau cymdeithasol yn cynnwys teithiau dydd, te hufen, cwtsh llyfrau wythnosol, crefftau a lliwio i oedolion hyd yn oed!

Yn ddiweddar, cawsom benwythnos encil ioga yng Nghanolfan Ddarganfod Margam, gafodd dderbyniad gwych. Mae Gail Needham, ein hathrawes ioga ragorol, yn dod i mewn ac yn teilwra ei dosbarth i oed a gallu’r bobl sydd yma.  Nid ioga yn unig ydoedd, roedd ymwybyddiaeth ofalgar, cerdded a thechnegau anadlu hefyd i helpu pobl i leihau straen.

Mae cylchlythyr yn cael ei anfon at 3,000 o ofalwyr ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Ynddo ceir dyddiadur gyda gwerth pedwar mis o weithgareddau. Felly ym mis Awst, os ydych ar ein cronfa ddata, byddwch yn cael cylchlythyr Medi i Ragfyr.  Yn fras, mae’n dweud wrth ofalwyr beth sydd yn digwydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yn y ganolfan.

Gallwch ddarllen y cylchlythyr yma

Mae gennym hefyd glinig traed bob penwythnos, ac mae therapïau holistaidd yn dod i’r ganolfan i gynnig triniaeth fel reiki ac adweitheg.

A yw pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser yn gallu cael rhai o’r rhain yn eu cartrefi eu hunain?

Ydyn, gall therapydd ddod gyda mi i ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi os oes rhywun yn y gwely ac yn sâl iawn. Rydym yn cael cyllid i ddarparu’r gwasanaethau hyn felly bydd yn mynd allan ac yn gwneud Reiki ac adweitheg.

Mae yna ddyn y mae’n ei weld trwom ni sydd â thraed gwael iawn o ganlyniad i’w driniaeth cemotherapi. Mae’n rhoi therapi iddo yn ei gartref.  Mae’n wych!

A yw pobl yn llithro’n raddol i fod yn ofalwyr?

Weithiau mae dod yn ofalwr yn daith araf a graddol iawn iawn ac weithiau mae’n argyfwng ar unwaith! Rwy’n gweld gofalwyr o ddau begwn y sbectrwm.

Weithiau, y gofalwr sydd wedi cael diagnosis o ganser.  Ydych chi’n credu eu bod yn wynebu problemau penodol?

Ydw, gall y gofalwr fod wedi cael diagnosis o ganser – nid yw hynny’n sefyllfa anghyffredin. Heddiw, rwyf yn trefnu cyfarfod â menyw sy’n gofalu am ei gŵr sydd ag arwyddion cynnar o ddementia. Mae wedi bod yn gofalu amdano ers sawl blwyddyn ond mae wedi cael diagnosis o ganser y coluddyn ers hynny.  Mae gofalwyr yn gallu dioddef sawl math gwahanol o salwch hefyd – iselder er enghraifft.

A yw pobl weithiau’n gwrthod y label gofalwr?

Mae’n rhaid i chi fod yn ofalus iawn wrth gwrs pan fyddwch yn gofyn i bobl a ydynt yn gofalu am rywun.  Mae rhai pobl yn dweud “Na, hi yw fy ngwraig i, dyna fy ngwaith, fy nyletswydd felly wrth gwrs nad fi yw ei gofalwr.”

Mae’n rhaid i chi fod yn sensitif iawn am y label gofalwr.

Sut gall gofalwyr ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â chi?

Y ffordd orau o gysylltu yw ffonio Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 658 479 yn ystod oriau swyddfa.

Mae fy swydd yn un rhan-amser, a natur fy swydd yw fy mod allan cryn dipyn ond bydd rhywun yn cymryd neges a byddaf yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallaf.

Neu galwch heibio i ddweud helo. Ein cyfeiriad yw 87 Stryd y Parc. Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AZ.

Leave a Comment