0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

‘Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl…’

Roedd Jen yn 19 oed, ac yn y brifysgol, pan gafodd ddiagnosis Lymffoma Hodgkin. Ar ôl ei diagnosis, cafodd Jen help gan Gymorth Canser Macmillan. Yn ei blog, mae Jen yn dweud pam ymunodd hi â’i phwyllgor codi arian Macmillan lleol a pham mae “rhoi rhywbeth yn ôl yn rhoi cymaint o foddhad”.

Peth yw eich profiad canser?

Cefais ddiagnosis Lymffoma Hodgkin bron i 10 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n 19 oed. Roeddwn i yn y brifysgol ar y pryd ac roeddwn i wedi bod yn dioddef o nifer o wahanol symptomau gan gynnwys salwch, peswch drwy’r amser, blinder, colli pwysau a brech.

Yn y pen draw cefais fy nghyfeirio at arbenigwr ar ôl datblygu lympiau o dan fy ngheseiliau ond roeddwn i’n dangos symptomau am dros ddwy flynedd cyn imi gael diagnosis.

Roedd cael y diagnosis yn sioc enfawr ond roedd fy nheulu a fy ffrindiau’n gymorth gwych.

Symudais yn ôl adref wrth imi gael cwrs chwe mis o driniaeth ABVD.

Pan ddechreuais y driniaeth roeddwn i’n teimlo’n well mewn gwirionedd gan fy mod i wedi mynd yn eithaf sâl gyda’r symptomau roeddwn i’n eu dioddef.

Roedd y driniaeth yn llwyddiannus, a flwyddyn i ddyddiad fy sesiwn cemotherapi olaf, rhedais farathon Llundain dros yr elusen Leukemia CARE.

Wedyn cefais fy ngweld yn gyson tan fis Mawrth 2012 pan gefais y newyddion bod ‘popeth yn glir’ a bues i’n dathlu gyda llawer gormod o siampên!

Nawr rwy’n oedolyn normal, ar y cyfan. Rwy’n credu fy mod i’n dioddef o ‘ymennydd cemo’ o bryd i’w gilydd, a dydw i ddim yn ymdopi’n dda â blinder ond heblaw am hynny dydw i ddim yn cwyno.

Rwy’n poeni y gallai fy salwch ddod yn ôl ond rwy’ bob amser yn dweud wrth fy hunan am gymryd un dydd ar y tro ac i geisio peidio â phoeni am y pethau na allaf eu newid.

Pam penderfynoch chi godi arian dros Gymorth Canser Macmillan?

Gydol fy mhrofiad o gael diagnosis, y driniaeth a byw’r tu hwnt i ganser, mae Macmillan wedi bod yno bob amser.

Efallai ei fod yn swnio’n ‘cheesy’ ond roedd gen i nyrs Macmillan yn yr ysbyty a oedd â’r amser i ddweud wrtha i sut byddai’r driniaeth, ac i gysuro fy rhieni.

Cefais help ariannol ar gyfer y biliau yr oeddwn i’n methu eu talu a hyd yn oed nawr mae gwefan Macmillan yn dal i fod yn ffynhonnell wybodaeth hynod werthfawr imi.

Roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i helpu rhywun yn yr un sefyllfa.

Beth ddenodd chi i ymuno â Grŵp Codi Arian Macmillan ‘Cardiff Capital‘?

Yn 2012, cysylltodd y rheolwr codi arian Macmillan lleol â mi; roedd wedi gweld erthygl yn y papur newydd am daith feicio elusennol yr oeddwn i wedi’i gwneud dros Macmillan, o Nairobi yn Kenya i warchodfa bywyd gwyllt yn Tanzania.

Cwrddais â Becs (Rebecca Parke – Rheolwr Codi Arian, Caerdydd a’r Fro) i gael coffi ac esboniodd hi beth roedd y grŵp yn ei wneud. Roedd diddordeb gen i’n syth!

Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl sydd hefyd wedi cael eu heffeithio gan ganser, ac rydyn ni’n gallu gwneud cymaint yn fwy gyda’n gilydd nag y gallwn i ei wneud byth ar fy mhen fy hun.

Dwedwch ychydig wrtha i am eich pwyllgor – Codi Arian ‘Cardiff Capital’?

Rwy’n hoffi meddwl ein bod ni’n gyfeillgar ac yn hwyliog! Grŵp o bobl broffesiynol ydyn ni sy’n cwrdd fwy neu lai bob mis i drafod unrhyw beth sy’n gysylltiedig â Macmillan, o gynnal casgliadau â bwcedi i drefnu digwyddiadau.

12074936_893520807370506_8060757797415354168_n

Beth yw’r uchafbwyntiau ers ichi ymuno â’r pwyllgor?

Ers imi ymuno rydyn ni wedi trefnu dwy noson gwis tafarn a dwy noson gomedi ymysg digwyddiadau eraill.

Mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn rhoi cymaint o foddhad i mi – yn sicr maen nhw’n straen ar brydiau wrth drefnu comedïwyr, neu wobrau raffl. Ond ar y noson mae’n wefr gweld cymaint o bobl yn dod, yn cael noson hwyliog ac yn rhoi beth allan nhw i Macmillan.

Rydych chi’n gwirfoddoli i roi eich amser hamdden i godi arian i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Ydy hyn yn cymryd llawer o’ch amser?

Mae pawb sydd ar ein pwyllgor yn gweithio felly rydyn ni i gyd yn gwybod bod codi arian a gweithio’n gallu bod yn heriol. Oherwydd hynny rydyn ni’n hyblyg iawn a does byth unrhyw bwysau ar neb i wneud mwy nag y gallan nhw.

Rydyn ni’n gwneud yr hyn allwn ni, dyna i gyd! Ar rai penwythnosau, efallai y byddaf i’n treulio pedair awr yn gwneud casgliad bwced ar fore Sadwrn, ac wedyn efallai na fyddaf i’n gallu gwneud un arall am fis. Mae hynny’n golygu bod cydbwysedd.

Oes unrhyw beth wedi eich synnu am fod yn aelod o’r pwyllgor?

Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan es i i’m cyfarfod cyntaf a chefais syndod o weld oedran y grŵp (tua diwedd yr 20au yw’r cyfartaledd) a hefyd pam mor wybodus oedd y grŵp. Mae gennym dudalen Facebook, cyfrif Twitter, cyfrif e-bost a blog hyd yn oed!

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth rywun oedd yn ystyried cysylltu â’u pwyllgor codi arian Macmillan lleol?

Byddwn i’n dweud, rhowch gynnig arni. Mae’r Pwyllgorau rydw i wedi cwrdd â nhw ar hyd y daith wedi bod mor gyfeillgar, a phawb yn canolbwyntio ar nod cyffredin. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl a siarad am ein profiadau, sydd ddim mor hawdd bob amser. Hefyd, mae’n rhoi cymaint o foddhad imi fod yn rhoi rhywbeth yn ôl. Mae ychydig oriau mewn archfarchnad yn gallu codi cannoedd ac mae hynny’n ei wneud yn werth chweil.

Pe hoffech wybod rhagor am eich grŵp codi arian Macmillan lleol, chwiliwch ein map rhyngweithiol.