0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Sarah Davies yw gweithiwr proffesiynol cyntaf Macmillan i gyflawni’r Safon Ansawdd Rheoli Gwirfoddolwyr

Llongyfarchiadau i un o’n gweithwyr Macmillan Sarah Davies, sef y gweithiwr Macmillan proffesiynol cyntaf yng Nghymru i dderbyn y Safon Ansawdd Rheoli Gwirfoddolwyr (MVQS).

Derbyniodd Sarah ei gwobr mewn cyflwyniad a fynychwyd gan staff a gwirfoddolwyr yng Ngwasanaeth Cefnogi Gwybodaeth Macmillan yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae’r MVQS, yn cydnabod y datblygiad a’r gwelliant mae Sarah wedi’i wneud i brofiad y gwirfoddolwyr yn y tair canolfan gwybodaeth mae hi’n eu rhedeg.

Mae Sarah yn cael ei chefnogi gan gyfanswm o 18 o wirfoddolwyr ar draws y tri safle yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty’r Brifysgol Llandochau ac Ysbyty’r Barri.

Mae’r gwirfoddolwr Clive Hall yn gwirfoddoli gyda Sarah ers mis Tachwedd 2018. Yn un o drigolion Caerdydd, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, penderfynodd Clive i ymuno â’r tîm pan argymhellodd ei gymydog sydd eisoes yn gwirfoddoli gyda Sarah ei fod yn rhoi cynnig arni.  Yn anffodus, roedd Clive wedi colli ei chwaer i ganser ac roedd yn teimlo bod hyn yn ffordd dda i roi rhywbeth yn ôl.

Wrth siarad am ei waith gwirfoddol, dywedodd Clive: ‘Y rhannau gorau hefyd yw’r rhai mwyaf heriol – yn aml rydych chi’n sgwrsio gyda rhywun, ac yn llythrennol 30 munud cyn hynny maen nhw wedi cael diagnosis o ganser. Rydych chi’n gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i’r person hwnnw, hyd yn oed os mai dim ond drwy wrando arnynt a rhoi rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iddyn nhw fynd gyda nhw.”


Llun o Sarah a Clive gydag aelodau o’r tîm Gwasanaeth Gwirfoddol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a wnaeth ddathlu eu dyfarniad gyda nhw.

Mae’r MVQS yn rhaglen ddatblygu dewisol mae Macmillan yn ei chynnig i staff a gweithwyr proffesiynol. Mae’n cael ei gyflawni drwy hyfforddi un-i-un dros gyfnod o 12 mis.

Mae Sarah wedi bod yn rheoli gwirfoddolwyr ers nifer o flynyddoedd, ond penderfynodd y llynedd y byddai’n ymgymryd â MVQS.

“Roeddwn i eisiau gwneud y cymhwyster i wella’r gwasanaeth ar gyfer gwirfoddolwyr a’r bobl sy’n cael budd ohono, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y profiad gorau posibl”.

Gan fyfyrio ar sut mae MVQS wedi ei helpu, dywedodd Sarah:

“Mae’n bendant wedi fy helpu i wneud newidiadau. Er enghraifft, rwyf wedi dechrau cofnodi oriau gwirfoddoli fel ffordd o ddangos faint o adnoddau ychwanegol mae’r gwirfoddolwyr yn ei ychwanegu at y ganolfan a rhoi pethau fel cylchlythyr gwirfoddol a’r bwrdd sylwadau yn eu lle”.

Gan fyfyrio ar ei brofiad yn gwirfoddoli gyda Sarah yn y ganolfan wybodaeth, dywedodd y gwirfoddolwr Clive: “Sarah yn bendant yw’r person iawn ar gyfer y swydd! Mae’n ymddiried ynom ni i fwrw ymlaen gyda phethau, ond mae hi bob amser yna (neu gallwn ei ffonio) os byddwn ni ei hangen.

“Mae hi’n gwybod pryd i roi’r tegell ymlaen a chael sgwrs hefyd os ydym wedi cael sgwrs heriol gyda rhywun.”

Pan ofynnwyd beth oedd y dyfarniad MVQS yn ei olygu i’r tîm, dywedodd Clive:

“Mae’n dda gwybod bod gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi. Mae Sarah yn rhoi llawer o amser i sicrhau bod gennym ni’r hyn rydyn ni ei angen, felly er enghraifft pan wnes i ddechrau ni fyddai’n fy ngadael ar fy mhen fy hun yn y ganolfan i gyfarch pobl oedd yn galw heibio, nes ein bod ni’n dau yn hapus fy mod i’n barod.”

Fel y gweithiwr proffesiynol cyntaf yng Nghymru i dderbyn y dyfarniad MVQS, mae Sarah nawr yn awyddus i rannu’r profiad ac ysbrydoli cydweithwyr eraill yn Macmillan i weithio gyda gwirfoddolwyr i ymgymryd â’r safon ansawdd.

“Byddwn yn ei argymell yn bendant. Rwyf wedi derbyn llawer o gefnogaeth ar hyd y ffordd o ran yr hyfforddiant rwyf wedi’i dderbyn gan Sandy, ac mae’r adnoddau wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i fyfyrio ar sut y gallwn i wneud newidiadau i wella pethau ar gyfer gwirfoddolwyr.”

Mae Macmillan yn gweithredu nifer o safonau sicrwydd ansawdd sy’n sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i’r ansawdd gorau posibl i bobl sy’n byw gyda chanser a phobl yr effeithir arnynt gan ganser.

Mae Sarah a’i thîm o wirfoddolwyr yn falch iawn o gwblhau eu safonau Marc Amgylchedd Ansawdd Macmillan (MQEM) a Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Ansawdd Macmillan (MQUISS) hefyd eleni.

Mae’r fframweithiau ansawdd hyn yn ymwneud â safon yr ‘amgylchedd’ yn y ganolfan ei hun, a sut maen nhw’n darparu eu gwasanaethau. Mae’r safonau yn cwmpasu pob math o bethau fel pa mor gyfforddus a glân yw’r canolfannau, i’r mathau o lyfrynnau gwybodaeth sydd ar gael iddynt a sut maen nhw’n cyfeirio pobl at wasanaethau eraill megis cyngor budd-daliadau lles.

Mae Sarah a’i thîm gwirfoddoli yn hynod o falch o fod wedi ennill y tri safon ansawdd mewn un flwyddyn, ac mae hyn yn dyst i waith caled pawb sy’n gysylltiedig.

Gan fyfyrio ar sut maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ychwanegodd Sarah: “O weithio gyda thîm o wirfoddolwyr, rydych chi’n sylweddoli faint mae pawb yn ei gyfrannu mewn ffyrdd gwahanol, yn aml gyda’r profiad bywyd sydd ganddyn nhw. Mae un o’r tîm, Sheila, wedi teithio llawer ac mae hi’n wych yn rhoi cyngor ar sut y gall diagnosis o ganser yn effeithio ar wyliau ac yswiriant teithio, sy’n dod i’r amlwg yn aml pan fydd pobl wedi cael diagnosis. Mae gwirfoddolwr arall, Steve, yn wych am gefnogi pobl sydd â diabetes ac sy’n poeni am beth allai hyn ei olygu ar gyfer eu taith canser, gan fod ganddo ddiabetes ei hun.”

Clive Hall, Sarah Davies a Sandy Clubb

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol Macmillan yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ac yr hoffech chi ddysgu mwy am MVQS, cysylltwch â Sandy, byddai wrth ei bodd yn sgwrsio gyda chi.

Ac os yw’r blog hwn wedi eich ysbrydoli i wirfoddoli i Macmillan, edrychwch ar y cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru ar ein Pentref Gwirfoddolwyr