I Fore Coffi Mwya’r Byd Macmillan yn y Senedd
Mewn Bore Coffi Macmillan a gynhaliwyd yn y Senedd yn ddiweddar ym Mae Caerdydd, mwynhaodd mwy na hanner 60 Aelod y Cynulliad baned o goffi a thamaid o gacen a sgwrs gyda rhai o arbenigwyr gweithlu canser yr elusen – gan gynnwys nyrsys Macmillan, arbenigwyr cymorth gwybodaeth a chynghorwyr budd-daliadau lles.
Wnaethon nhw hefyd gyfarfod gyda rhai o wirfoddolwyr Macmillan Cymru a rannodd eu profiadau gyda chanser a’r rhesymau y maen nhw’n buddsoddi eu hamser ychwanegol i gefnogi’r elusen.
Dyma’r 28ain mlynedd mae’r digwyddiad codi arian i Macmillan yn cael ei gynnal, ac fe gododd dros £26 miliwn yn y DU y llynedd.