0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Mae adroddiad a chanllawiau newydd gan Gymorth Canser Macmillan yn dangos bod rhagsefydlu cyn triniaeth am ganser yn grymuso cleifion, yn eu gwneud yn fwy gwydn ac yn gwella eu hiechyd a’u lles yn yr hir dymor

Cawsant eu lansio’n ddiweddar yng Nghymru mewn digwyddiad yng Nghaerdydd, gyda phrosiect ‘Cancer and Nutrition Collaboration’ Cymorth Canser Macmillan, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion (RCoA) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn galw am newidiadau i’r modd y darperir gofal canser ledled y DU, er mwyn rhoi rhagor o bwyslais ar ragsefydlu.

Mae rhagsefydlu yn galluogi i bobl â chanser baratoi ar gyfer eu triniaeth trwy hyrwyddo ymddygiadau iach a thrwy ragnodi cymorth o ran ymarfer corff, maeth a seicoleg ar sail angen. Ei nod yw grymuso cleifion a sicrhau eu bod yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer eu triniaeth am ganser, gan wella eu rhagolygon o ran eu hiechyd a’u lles yn yr hir dymor.

Mae 70 y cant o’r 1.8 miliwn o bobl yn y DU sy’n byw gyda chanser hefyd yn byw gydag un neu ragor o gyflyrau iechyd eraill hirdymor. Mae adroddiad a chanllawiau Macmillan, Prehabilitation for people with cancer, yn annog ailddylunio’r gwasanaeth canser er mwyn ymgorffori rhagsefydlu yn rhan o’r llwybr canser. Dywed y dystiolaeth wrthym fod rhagsefydlu yn cyfrannu at:

  • gleifion yn teimlo eu bod wedi cael eu grymuso, a bod ansawdd eu bywydau yn well
  • sicrhau bod cleifion mor wydn â phosibl yn gorfforol ac yn seicolegol cyn cael triniaethau am ganser, a
  • gwell iechyd a lles yn yr hir dymor.

Nid oes angen aros am ddiagnosis canser gofal eilaidd cyn cychwyn rhagsefydlu. Mae’n gwbl bosibl cychwyn ar hyn yn llawer cynharach, ar y pwynt cyfeirio i lwybr canser carlam. Dyma adeg lle gellir addysgu cleifion, ac mae astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru wedi dangos bod rhoi cyngor a chyfeirio at ymyriadau rhagsefydlu adeg cyfeirio yn ymarferol ac yn effeithiol. Er y bydd llawer o’r cleifion hyn yn canfod nad oes canser arnynt ar hyn o bryd, bydd gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw ar yr adeg hon yn lleihau eu risg o ddatblygu canser a chyflyrau hirdymor eraill yn y dyfodol.

Yng Nghymru, mae optimeiddio iechyd a rhagsefydlu cyn triniaeth yn cael eu crybwyll yn benodol yn y Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru 2016-2020. Mae hyn yn golygu mai Cymru, o blith gwledydd y DU, sydd â’r llwyfan polisi cryfaf er mwyn cyflwyno rhagsefydlu ar raddfa eang. Adeg cyhoeddi ein hadroddiad, mae’r trafodaethau’n parhau â Llywodraeth Cymru ynghylch ariannu a chyflwyno rhagsefydlu mewn modd cynaliadwy yn y tymor hir. Felly, beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol agos, mae rhagsefydlu yn debygol o ddod yn nodwedd barhaol ar bolisi canser yng Nghymru.


Argymhellion yr adroddiad:

  • dylai ymyriadau wedi’u targedu tuag at wella iechyd corfforol ac/neu feddyliol ddechrau cyn gynhared â phosibl a chyn unrhyw driniaeth am ganser (nid dim ond y driniaeth gyntaf am ganser)
  • dylai pob triniaeth am ganser gael ei harwain drwy dimau canser amlddisgyblaethol, a dylai’r bobl sy’n darparu’r rhagsefydlu fod wedi’u cynrychioli ar y timau hynny, gan roi trosolwg o anghenion rhagsefydlu’r person er mwyn sicrhau bod rhagsefydlu’n digwydd
  • dylai pawb sydd â chanser gael cynllun gofal rhagsefydlu personol wedi’i ddatblygu ar y cyd â hwy yn rhan o’u gofal cyffredinol
  • dylai addysg ym maes maeth, ymarfer corff, seicoleg a newid mewn ymddygiad gael ei chynnwys ledled yr hyfforddiant israddedig ac uwchraddedig i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal
  • dylai gwasanaethau sy’n darparu rhagsefydlu gael eu dylunio a’u creu ar y cyd â chleifion a gofalwyr
  • dylai’r gwaith o gyflwyno darpariaeth rhagsefydlu a’i heffeithiolrwydd gael eu harchwilio yn rhan o fframwaith sicrhau a gwella ansawdd a gyflwynir ac yr adroddir yn ei gylch ar sail safonau cydnabyddedig

Bydd yr holl argymhellion uchod yn grymuso cleifion ac yn eu galluogi i berchnogi eu profiad.

Greg Pycroft, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru

Leave a Comment