0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bore Coffi Mwya’r Byd: Drømme kage gan Y Popty Danaidd

Drømme kage, neu ‘cacen breuddwydion’, yw un o gacennau enwocaf Denmarc. Mae’n dod o Hjallerup, tref fach yn Nenmarc, lle’r enillodd menyw o’r enw Jyette Anderson gystadleuaeth bobi a gynhaliwyd gan gwmni bwyd mawr yn 1960, gyda rysáit cacen breuddwydion ei mam-gu.

Mae’r gacen yn feddal ac fel sbwng gyda blas fanila, ac mae’r haen uchaf yn gyfuniad meddal, trwchus o garamel a chnau coco.

Mae’r rysáit hon wedi cael ei rhannu â Chymorth Canser Macmillan yng Nghymru gan Betina Skovbro, sy’n rhedeg Brød, The Danish Bakery, sydd ar ffiniau maestrefi ffasiynol Tregana a Phontcanna yng Nghaerdydd

Symudodd Betina, sy’n wyres i bobydd, i Gymru o Ddenmarc yn 1998. Er iddi deimlo’n gartrefol yn fuan iawn yma, roedd hi’n gweld eisiau bara a chacennau crwst Danaidd, gymaint felly fel yr aeth ati’r llynedd i sefydlu’r popty.

Wrth wraidd Brød (sy’n golygu bara) mae cysyniad ‘hygge’ (sy’n cael ei ynganu fel hyn: hŵ-ga), nad oes gair sy’n cyfateb iddo yn Gymraeg, ond mae’n cyfleu’r teimlad o ddod ynghyd mewn awyrgylch gynnes a chlyd gyda theulu neu ffrindiau, gyda chacennau traddodiadol o Ddenmarc a choffi a the da.

Byddai’r rysáit hon yn ychwanegiad gwych ac anarferol i unrhyw Fore Coffi Mwya’r Byd. Cewch wybod rhagor am sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal, drwy fynd i’r wefan.

Mae’r rysáit hon yn un o chwe rysáit cacennau sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobyddion Cymru. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.

cake-photos-danishdreamcake-by-betina-skovbro-brod

Cynhwysion

Ar gyfer y toes

250g o flawd plaen

50g o fenyn

200g o siwgr mân

100g o farsipán wedi’i ratio*

4 wy

150ml o laeth

2½ llwy de o bowdr codi

2 llwy de o siwgr fanila

Ar gyfer yr haen uchaf

100g o gnau coco wedi’u sychu (dessicated coconut)

150g o fenyn

50ml o laeth

260g o siwgr brown

Hefyd bydd angen tun pobi crwn 26cm, wedi’i iro a’i leinio

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 200C.
  2. Cymysgwch y siwgr a’r fanila mewn powlen fawr. Ychwanegwch un wy ar y tro, gan ddal ati i gymysgu. Gadewch ychydig o fwlch rhwng ychwanegu pob wy a daliwch ati i gymysgu tan bydd y cymysgedd yn ysgafn braf.
  3. Toddwch y menyn mewn sosban, gyda’r llaeth, a gadewch iddyn nhw oeri cyn eu hychwanegu at y cymysgedd siwgr/fanila/wyau.
  4. Ychwanegwch y powdr codi ar y blawd a chymysgwch tan y byddan nhw wedi’u cyfuno. Ychwanegwch hwn yn ofalus at y cytew, yna ychwanegwch y marsipán wedi’i ratio. Daliwch ati i droi hyd nes bod gennych gytew llyfn.
  5. Arllwyswch i’r tun pobi a’i goginio am 35-40 munud.
  6. Yn y cyfamser, gwnewch yr haen uchaf o gnau coco. Rhowch y cynhwysion i gyd mewn sosban a dewch â nhw i’r berw, yna mudferwch hyd nes ei fod yn gymysgedd llyfn.
  7. Rhowch hwn ar ben y gacen a choginiwch hi am 5-10 munud arall ar 230C.
  8. Gadewch y gacen yn y tun tan iddi oeri.

* Mae Brød yn mewnforio marsipán o Ddenmarc, sy’n cael ei wneud yn bennaf â chnewyll bricyll a bricyll, ond mae marsipán arferol o siop yng Nghymru yn gwneud y tro’n iawn.

Brød, The Danish Bakery Ltd, 126 Wyndham Crescent, Caerdydd, CF11 9EG