Bore Coffi Mwya’r Byd: cacennau mwg meringue lemwn a taffi gludiog gan Gwesty Hilton Caerdydd
Mae Gwesty Hilton Caerdydd yn enwog am ei gacennau blasus – ar ei fwydlen a la carte ac yn nhe’r prynhawn, lle cewch wledda ar frechdanau bys tair haen, sgonau gyda hufen a jam, a detholiad o gacennau a chacennau crwst bach.
Yn ddiweddar, mae Mark Freeman, prif gogydd Gwesty Hilton Caerdydd, wedi bod yn gweithio ar ryseitiau cacennau mwg newydd, ffordd ddifyr o weini cacennau unigol.
Mae’n rhannu’r ryseitiau ar gyfer dwy gacen mwg o flasau gwahanol er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan.
Mae saws cyfoethog meddal a blasus dros y gacen fwg taffi gludiog, ac mae ceuled lemwn melys a siarp ynghanol y gacen fwg meringue lemon, i roi syrpréis hyfryd i’ch gwesteion.
Byddai’r ddwy gacen yn creu argraff fawr yn eich Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan. Cewch wybod rhagor am sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu wybodaeth am ddigwyddiadau yn eich ardal, drwy fynd i https://coffee.macmillan.org.uk/
Cacen fwg meringue lemwn (digon i 4)
Cynhwysion
85g o fenyn wedi’i feddalu (a rhagor er mwyn iro)
85g o siwgr mân
Croen wedi’i gratio a sudd hanner lemwn
1 wy mawr, wedi’i guro’n ysgafn
85g o flawd codi
6-8 llwy fwrdd o geuled lemwn
Haen uchaf
2 wyn wy
115g o siwgr mân
- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190oc/3750f Nwy rhif 5.
- Irwch 4 x 200ml cwpan te neu ddysgl ramecin sy’n gallu mynd i’r ffwrn.
- Rhowch y menyn, y siwgr mân a chroen y lemwn mewn powlen fawr a’u cymysgu hyd nes eu bod yn ysgafn braf.
- Yn raddol cymysgwch yr wy yna rhidyllwch y blawd; gan ddefnyddio llwy fetel, cymysgwch yn ofalus i’r cymysgedd gyda’r sudd lemwn.
- Rhowch y cymysgedd yn y cwpanau a’u rhoi ar dun pobi.
- Pobwch yn y ffwrn sydd wedi’i chynhesu am 15 munud neu hyd nes eu bod wedi codi ac yn teimlo’n gadarn.
- Tra bydd y cacennau’n pobi gwnewch yr haen meringue.
- Rhowch y gwynnwy mewn powlen heb saim a’u cymysgu â chymysgydd trydan nes bydd yn gadarn.
- Yn raddol chwisgiwch y siwgr mân i mewn fel bod y meringue yn gadarn ac yn sgleinio.
Ceuled Lemwn
4 wy
200g o siwgr
125g hufen dwbl
75g sudd lemwn
Mewn powlen, chwisgiwch yr wy a’r siwgr, ychwanegwch y sudd lemwn ac yna ychwanegwch yr hufen dwbl.
Rhowch mewn bain marie ar y popty a’u coginio nes bod y cymysgedd yn drwchus.
Rhowch ar naill ochr i oeri.
Defnyddiwch declyn tynnu canol afal i dynnu ychydig o ganol y cacennau allan. Llenwch nhw â cheuled lemwn, troellwch hwn dros y meringue. Rhowch nhw’n ôl yn y ffwrn am 5 munud tan y byddan nhw’n euraidd.
Cacen fwg taffi gludiog (mae’n gwneud 6)
85g o ddatys sych heb gerrig, wedi’u torri
½ llwy de o soda pobi (bicarbonate of soda)
100ml o ddŵr
85g o fenyn wedi’i feddalu (a rhagor er mwyn iro)
85g o siwgr brown tywyll meddal
1 llwy de o rin fanila (vanilla extract)
2 wy wedi’u curo’n ysgafn
Saws taffi
85g o siwgr brown tywyll meddal
55g o fenyn
4 llwy fwrdd o hufen dwbl
- Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180oc, irwch â menyn 6 chwpan te neu ddysgl ramecin sy’n gallu mynd i’r ffwrn.
- Rhowch y datys, y soda pobi a’r dŵr mewn sosban fach a dewch â’r cymysgedd i’r berw. Tynnwch o’r gwres a’i roi ar naill ochr i oeri.
- Rhowch y menyn, y siwgr a’r fanila mewn powlen.
- Cymysgwch nhw hyd nes eu bod yn ysgafn braf.
- Curwch yr wy i mewn yn raddol.
- Rhidyllwch y blawd, yna gan ddefnyddio llwy fetel, rhowch y blawd yn ofalus i mewn i’r cymysgedd ac yna ychwanegwch y cymysgedd datys.
- Rhowch y cymysgedd yn y cwpanau.
- Rhowch y cwpanau ar dun pobi.
- Pobwch yn y ffwrn sydd wedi’i chynhesu am 20-25 munud neu hyd nes eu bod wedi codi ac yn teimlo’n gadarn.
Ar gyfer y saws
- Rhowch y cynhwysion i gyd mewn sosban fach a chynheswch hyd nes i’r menyn doddi, mudferwch am 5 munud, gan droi bob hyn a hyn.
- Gan ddefnyddio sgiwer, gwnewch ychydig o dyllau yn y cacennau mwg cynnes, yna arllwyswch ychydig o saws drostyn nhw.
Gwesty Hilton Caerdydd, Ffordd y Brenin, Caerdydd, CF10 3HH (029 2064 6300). Ewch i’r wefan yma.