0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bore Coffi Mwya’r Byd: cacen mafon a siocled ‘heb rai cynhwysion’ gan Westy a Sba Dewi Sant

Dydy’r ffaith nad ydych chi’n cael bwyta rhai pethau ddim yn golygu na allwch chi fwynhau sleisen enfawr o gacen siocled yn eich Bore Coffi Mwya’r Byd. Y cyfan sydd ei angen yw’r gacen iawn ichi ei mwynhau.

Drwy lwc, mae Martyn Watkins, Prif Gogydd yng Ngwesty a Sba Dewi Sant – unig westy Caerdydd sydd wedi cael 5 seren gan yr AA – wedi creu’r gacen mafon a siocled hyfryd hon, sydd heb gynnyrch llaeth, heb glwten, heb wyau, ac sy’n fegan.

Fel y dywed Martyn, “Fel cogydd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol gacennau, er mwyn dod o hyd i gacen y gallaf ei defnyddio sy’n addas i ystod eang o ofynion dietegol, ond sy’n dal i flasu’n anhygoel ac i edrych yn wych.

“Dwi wrth fy modd gyda’r gacen hon oherwydd mae’n blasu cystal ag y mae’n edrych, ond heb wyau, cynnyrch llaeth a glwten. Mae’n amlwg yn un arbennig ac mae bob amser yn cael derbyniad da adeg te’r prynhawn rydyn ni’n ei weini yma yng Ngwesty a Sba Dewi Sant.”

Mae’r rysáit hon yn un o chwech sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobwyr Cymru er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwyaf y Byd. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.

Cewch weld sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu dewch o hyd i’r digwyddiadau sy’n digwydd yn eich ardal, yma.

Cynhwysion

Margarin fegan, er mwyn iro

300g o flawd plaen heb glwten

50g o bowdr coco

1 llwy de o bowdr codi

1 llwy de o soda pobi (bicarbonate of soda)

1/2 llwy de o halen

300g o siwgr arferol

375ml o laeth soia

125ml o olew had rêp

7 llwy fwrdd o jam mafon heb hadau

1 llwy de o rinflas fanila (vanilla extract)

Ar gyfer yr eisin

40ml o laeth soia

85g o siocled tywyll fegan, wedi’i dorri’n ddarnau mân

60g o siwgr eisin

1 llwy fwrdd o syryp masarnen (maple syrup)

Mafon ffres, i addurno

  1. Cynheswch y ffwrn i 180°C/nwy rhif 4.
  2. Irwch dun cacennau 23cm/9 modfedd a’i leinio â phapur pobi.
  3. Rhidyllwch y blawd, y coco, y powdr codi a’r soda pobi i bowlen gymysgu fawr a throwch yr halen a’r siwgr i mewn.
  4. Arllwyswch y llaeth soia i sosban o faint canolig ac ychwanegwch yr olew, y jam mafon a’r rhinflas fanila. Rhowch hwn dros wres canolig a chwisgwch i gymysgu’r cyfan. Ychwanegwch y cynhwysion sych a chymysgwch nhw’n drylwyr.
  5. Rhowch yn y tun wedi’i baratoi a’i bobi yn y ffwrn wedi’i chynhesu am 45 munud, neu hyd nes bydd sgiwer wedi’i roi yn y canol yn dod allan yn lân.
  6. Gadewch y gacen i oeri’n llwyr ar resel oeri cyn rhoi’r eisin arni.
  7. I wneud yr eisin, twymwch y llaeth soia mewn sosban fach tan iddo ferwi, yna cymysgwch y siocled tan iddo doddi. Tynnwch oddi ar y gwres a chwisgiwch y siwgr eisin a’r syryp masarnen i mewn. Rhowch ar naill ochr i oeri cyn rhoi’r eisin ar y gacen.
  8. Rhowch ychydig o fafon ar ben y gacen ac ysgeintiwch hi â siwgr eisin.

Gwesty a Sba Dewi Sant, Stryd Havannah, Caerdydd, CF10 5SD