0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bore Coffi Mwya’r Byd: bisgedi Siocled Amrwd gan Anna

Os ydych chi’n chwilio am ddewis mwy iach ar gyfer eich Bore Coffi Mwya’r Byd, yna mae’r bisgedi siocled amrwd hyn yn ddewis perffaith.

Does dim siwgr, blawd, glwten na chynnyrch llaeth ynddyn nhw, eto mae iddyn nhw flas cyfoethog a dwfn o’r cyfuniad gludiog hyfryd o ddatys, cnau a choco amrwd, sy’n un o’r bwydydd gwych.

Maen nhw ar y fwydlen yn Anna Loka, bwyty 100% fegan cyntaf Caerdydd, a agorodd ar Ffordd Albany yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2015.

Mae’r enw’n dod o’r geiriau Sanskrit anna sy’n golygu bwyd, iechyd neu’r ddaear a loka sy’n golygu’r byd neu’r blaned, ac mae’r bwyty’n cynnig profiad bwyta eclectig, iach a moesegol, heb gyfaddawdu ar ansawdd neu flas.

Mae’r cogydd Adam El Tagoury wedi rhannu’r rysáit â ni er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan.

Mae’r bisgedi hyn yn boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid, a gallan nhw gymryd ychydig amser i’w paratoi oherwydd bod angen iddyn nhw oeri am o leiaf dair awr – ond gallwch chi eu storio mewn cynhwysydd wedi’i selio yn yr oergell am hyd at wythnos neu yn y rhewgell am hyd at fis.

Maen nhw’n ddewis arall gwych os yw unrhyw un o’ch gwesteion yn ceisio bwyta’n iach ar hyn o bryd.

Gallwch weld sut mae cynnal eich Bore Coffi Mwya’r Byd eich hun yma.

Mae’r rysáit hon yn un o chwech sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobyddion Cymru. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.

Cynhwysion (yn gwneud 12-16 bisged)

Gwaelod

2 1/4 cwpan (405g) o ddatys heb gerrig

1 cwpan (120g) o bowdr coco amrwd

1 cwpan (120g) o gnau almon cyfan amrwd

1 cwpan (120g) o gnau cashiw cyfan amrwd

1/3 cwpan (40g) o gnau cashiw wedi’u torri’n fras (i’w cymysgu drwodd)

1/4 cwpan (30g) o ffa coco mâl amrwd (i’w cymysgu drwodd)

Haen uchaf

3/4 cwpan (90g) o bowdr coco amrwd

1/2 cwpan (90g) o ddatys

2/3 cwpan (160ml) o laeth cnau coco braster llawn

1/4 cwpan (55g) o olew cnau coco, wedi’i doddi

1/4 cwpan o ddŵr cynnes

Dull

Ar gyfer y gwaelod

  1. Rhowch y cnau yn eich prosesydd bwyd heblaw am y cnau cashiw i’w cymysgu drwodd. Malwch nhw’n fras. Rhowch nhw i’r naill ochr.
  2. Ychwanegwch y datys at y prosesydd bwyd a malwch y datys nes eu bod yn troi’n bast.
  3. Ychwanegwch y cnau wedi’u malu eto gyda’r powdr coco a’r datys. Cymysgwch i ffurfio cymysgedd sydd fel cerrig mân ac sy’n dal at ei gilydd pan fyddwch yn ei wasgu rhwng eich bysedd.
  4. Ychwanegwch y ffa coco mâl a’r cashiws a gwasgwch fotwm y prosesydd bwyd dair gwaith i’w cyfuno.
  5. Gwasgwch y cymysgedd yn llyfn mewn tun sgwâr 8 modfedd wedi’i leinio. Mae angen iddo fod rai modfeddi o ddyfnder. Defnyddiwch roler crwst er mwyn gwneud i’r arwyneb fod yn llyfn.
  6. Rhowch yn yr oergell tra byddwch chi’n gwneud yr eisin.

Ar gyfer yr eisin

  1. Rhowch y datys yn y prosesydd nes eu bod yn troi’n bast.
  2. Ychwanegwch y llaeth cnau coco a’r powdr coco a’u cymysgu. Ychwanegwch y dŵr cynnes a chymysgwch nes bod popeth yn llyfn. Yn olaf ychwanegwch yr olew cnau coco wedi’i doddi. Proseswch nes ei fod yn llyfn ac yn sgleiniog.
  3. O’r dechrau i’r diwedd, dim ond 5-10 munud y dylai hi ei gymryd i wneud yr eisin, yn dibynnu ar eich prosesydd bwyd!
  4. Arllwyswch yr eisin dros waelod y bisgedi. Rhowch y tun yn ôl yn yr oergell i galedu am 3 awr neu dros nos.
  5. Tynnwch o’r tun pobi. Torrwch i’r nifer o fisgedi sydd eu hangen. Storiwch mewn cynhwysydd wedi’i selio yn yr oergell am hyd at wythnos neu yn y rhewgell am hyd at fis.

Anna, 114 Ffordd Albany, Caerdydd, CF24 3RU