0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bore Coffi Mwya’r Byd: cacen siocled gyfoethog gan Plas Ynyshir

Rydych chi’n gwybod y bydd y bwyd yn dda ym Mhlas Ynyshir ym Machynlleth, gan fod gan y gwesty seren Michelin a gwobrau gan gynnwys Gwesty’r Flwyddyn yr AA yng Nghymru 2014-15 a lle yn 50 Tŷ Bwyta Gorau 2015-16 The Good Food Guide.

Mae Gareth Ward, y prif gogydd, yn creu bwydlenni blasu Prydeinig modern ac arloesol sydd ag arlliw o Japan, gan ddefnyddio cynnyrch a llysiau lleol, yn ogystal â chynnyrch gorau Prydain.

Mae’r gacen siocled hon yn ysgafn ond eto’n llaith, gan fod hufen wedi’i suro ynddi, ac mae’r sglein siocled ar ei phen yn gwneud iddi edrych yn soffistigedig. Mae’n berffaith er mwyn creu argraff mewn unrhyw fore coffi.

Mae’r rysáit hon yn un o chwech sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobwyr Cymru er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.

Cewch weld sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu dewch o hyd i’r digwyddiadau sy’n digwydd yn eich ardal, yma.

Cynhwysion 

Ar gyfer y gacen (tymheredd y ffwrn 180 gradd C):

400g o flawd plaen

250g o siwgr mân euraidd

100g o siwgr ‘muscovado’ golau

50g o bowdr coco

2 lwy de o bowdr codi

1 llwy de o soda pobi (bicarbonate of soda)

1/2 llwy de o halen

3 wy mawr

140ml o hufen wedi’i suro

1 llwy fwrdd o rinflas fanila (vanilla extract)

175g o fenyn heb halen wedi’i doddi a’i oeri ychydig

125ml o olew blodau’r haul

300ml o ddŵr wedi’i oeri

Ar gyfer y sglein siocled

580g o ddŵr

740g o siwgr

480g o hufen

50g o gelatin

220g o bowdr coco

I wneud y cacennau

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180C ac irwch ddau dun cacen 8 modfedd.
  2. Cymysgwch y blawd, y siwgr, y coco, y powdr codi, soda pobi, a’r halen gyda’i gilydd mewn powlen fawr.
  3. Mewn powlen arall chwisgiwch yr wyau, yr hufen wedi’i suro a’r fanila.
  4. Mewn powlen fawr arall, cymysgwch y menyn wedi’i doddi a’r olew, yna ychwanegwch y dŵr.
  5. Ychwanegwch gynnwys powlen un (y blawd, y siwgr, y powdr codi, y soda pobi a’r halen) at bowlen tri (y menyn wedi’i doddi, yr olew a’r dŵr) ar yr un pryd a’u cymysgu’n araf gyda’i gilydd.
  6. Ychwanegwch gynnwys powlen dau (yr wyau, yr hufen wedi’i suro a’r fanila) at weddill y cymysgedd ac yna cymysgwch y cyfan gyda’i gilydd.
  7. Rhannwch y cymysgedd yn gyfartal rhwng y ddau dun 8 modfedd a’u coginio am 50-55 munud.
  8. Trowch y cacennau allan i oeri’n llwyr ar hambyrddau weiren.

I wneud y sglein

  1. Rhowch yr hufen, y dŵr, y siwgr a’r coco mewn sosban fawr, dewch â’r cyfan i’r berw ac ychwanegwch y gelatin.
  2. Cymysgwch, rhidyllwch a’i oeri.
  3. Pan fydd y cacennau’n oer, rhowch yr eisin i mewn rhwng haenau’r gacen a thros y tu allan.
  4. Addurnwch â mefus ffres ac addurniadau siwgr (neu beth bynnag rydych chi eisiau!)

Plas Ynyshir, Eglwysfach, Machynlleth, Powys, SY20 8TA

Leave a Comment