0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bore Coffi Mwya’r Byd: cacen pannas gan St Pierre

Mae pannas, afalau a chnau pecan yn gwneud i’r gacen hon fod yn feddal braf, a blas y cnau’n berffaith ar gyfer yr hydref.

Mae’r sbeis cymysg yn rhoi blas cynnes, tra mae’r mascarpone’n cael ei gymysgu â syryp masarnen (maple), fel bod y canol yn naturiol felys a hufennog.

Mae’r rysáit hon wedi’i rhannu â Chymorth Canser Macmillan gan Anthony Barnes, prif gogydd yng Ngwesty a Chlwb Gwledig Marriott St Pierre yng Nghas-gwent.

Mae St Pierre, mewn plasty Cymreig wedi’i addasu o’r 14eg ganrif mewn 400 erw o barcdir yn Nyffryn Gwy, ac mae’n enwog am de’r prynhawn.

Byddai’r gacen hon yn destun trafod hyfryd mewn unrhyw Fore Coffi Mwya’r Byd, wrth i’ch gwesteion geisio dyfalu pa lysieuyn yw’r cynhwysyn syrpréis. Cewch weld sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu’r digwyddiadau yn eich ardal, yma.

Mae’r rysáit hon yn un o chwech sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobwyr Cymru er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.

Cynhwysion

175g o fenyn wedi’i feddalu (a rhagor er mwyn iro)

250g o siwgr demerara

100ml o syryp masarnen (maple)

3 wy mawr

250g o flawd codi

2 lwy de o bowdr codi

2 lwy de o sbeis cymysg

250g o bannas, wedi’u crafu a’u gratio

1 afal bwyta canolig ei faint, wedi’i grafu, wedi tynnu ei ganol a’i ratio

50g o gnau pecan, wedi’u torri’n fras

croen 1 oren bach

siwgr eisin, er mwyn gweini

Ar gyfer y llenwad

250g o mascarpone

3-4 llwy fwrdd o syryp masarnen

  1. Cynheswch y ffwrn i 180C/160C ffan/nwy 4.
  2. Irwch 1 x tun pobi a leiniwch y gwaelod â phapur pobi (baking parchment).
  3. Toddwch y menyn, y siwgr a’r syryp masarnen mewn sosban dros wres isel, yna gadewch i’r cymysgedd oeri ychydig.
  4. Chwisgiwch yr wyau i’r cymysgedd hwn, yna cymysgwch y blawd, y powdr codi a’r sbeis cymysg i mewn, wedyn ychwanegwch y pannas a’r afal wedi’u gratio, y cnau pecan wedi’u torri, a’r croen oren.
  5. Arllwyswch y cymysgedd i’r tun pobi, yna pobwch am 25-30 munud nes bod y top yn sboncio’n ôl pan fyddwch yn ei wasgu’n ysgafn.
  6. Oerwch y gacen ychydig yn y tun cyn ei throi allan i resel oeri i oeri’n llwyr.
  7. Ychydig cyn gweini’r gacen, cymysgwch y mascarpone a’r syryp masarnen. Taenwch hwn dros ben y gacen a’i droelli i greu patrwm.

St Pierre Marriott Hotel & Country Club, St Pierre Park, Cas-gwent, NP16 6YA.