0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Jo: pam rwyf yn cerdded Macmarathon Gŵyr

Dydd Sadwrn 17 Medi, bydd cannoedd o gefnogwyr Macmillan yn cymryd rhan ym Macmarathon Gŵyr – taith gerdded odidog o 22, 14 neu ddwy filltir ar draws traethau prydferth Penrhyn Gŵyr.

Y llynedd, cododd y digwyddiad £174,000 anhygoel – digon i ariannu nyrs Macmillan am dros dair blynedd.

Mae’r daith gerdded eleni’n argoeli i fod yr un mor llwyddiannus gyda 1189 o gerddwyr wedi cofrestru a degau o filoedd o bunnoedd eisoes wedi eu codi mewn nawdd.

Un o’r rheiny sydd yn cymryd rhan yw Jo Attfield, athrawes o Sgeti yn Abertawe.

Mae hi’n cerdded 14 milltir er cof am ei merch, Bethan, a fu farw 10 mlynedd yn ôl i’r mis yma o lewcemia a hithau ond yn bump oed.

Mae Jo yn esbonio, “Cafodd Bethan ddiagnosis ar ddechrau Medi pan oedd ar fin dechrau blwyddyn un (yn yr ysgol). Bu farw’n gyflym – nid oedd yn ymateb yn iawn i’r driniaeth – dair wythnos a hanner yn ddiweddarach.

“Roedd gennym ferch arall, Rosie, oedd yn fabi ar y pryd ac sydd bellach yn 10 oed. Mae hi wedi cael ei magu heb ei chwaer ond mae ganddi frawd saith oed, Gruff, na wnaeth adnabod Bethan erioed.

“Mae pen-blwydd ei marwolaeth bob amser yn gyfnod anodd o’r flwyddyn. Nid yw poen ei marwolaeth byth yn mynd i ffwrdd, er ein bod yn byw’n ddigon hapus ar y cyd â hynny.

Bydd tri ffrind yn ymuno â Jo ar y daith, sef Rachel a Linda, cwpwl o Gaerdydd, a’i chyfaill cerdded, Kate, o Abertawe.

Dywed Jo, “Mae codi arian i gofio am Bethan yn hyfryd ac mae pobl, yn garedig iawn, wedi cofio amdani ar fy nhudalen Just Giving.

“Mae mor bwysig i ni bod pobl yn siarad amdani ac yn ei chofio.”

Dywedodd Kathryn Morgan, Rheolwr Codi Arian Ardal De Orllewin Cymru ar gyfer Cymorth Canser Macmillan, “Cafodd tîm cyfan Macmillan eu cyffwrdd pan glywsant fod Jo yn cymryd rhan yn Macmarathon Gŵyr er cof am Bethan.

“Nid yw’r boen o golli plentyn byth yn mynd i ffwrdd, ond rydym yn llawn edmygedd bod Jo yn parhau i gadw’r cof amdani’n fyw trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn i godi arian ar gyfer cleifion canser eraill.

“Hoffem ddymuno’n dda i Jo yn Macmarathon Gŵyr Dydd Sadwrn ac rydym yn diolch o waelod calon iddi hi, a’r holl gerddwyr eraill sydd yn cymryd rhan, am eu hymdrechion anhygoel yn codi arian i Macmillan.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru, fel ariannu gweithwyr proffesiynol Macmillan i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, ein canolfannau gwybodaeth yn rhai o ysbytai Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros ofal canser gwell ar gyfer cleifion.”

Gallwch noddi Jo yma, neu anfon neges ati i’w chefnogi isod neu ar ein tudalen Facebook.

Ydych chi’n cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Macmillan? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich stori. Gallwch drydar @MacmillanCymru neu fynd i’n tudalen Facebook yn https://www.facebook.com/macmillan.cymruwales/