0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Go Sober for October: 13 awgrym am nosweithiau allan heb alcohol yng Nghymru

Mae ymgyrch Go Sober for October Cymorth Canser Macmillan yn herio pobl sy’n yfed yn gymdeithasol i roi’r gorau i alcohol am fis.

Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd peidio ag yfed os yw’ch bywyd cymdeithasol yn golygu treulio amser yn y dafarn neu yfed gyda ffrindiau. Felly dyma 13 awgrym am nosweithiau allan yng Nghymru sy’n gymaint o hwyl nes rydyn ni’n addo na fyddwch chi’n gweld eisiau alcohol o gwbl.

Bydd yr arian a godir yn helpu Cymorth Canser Macmillan i barhau i ddarparu gwasanaethau. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys ariannu nyrsys, ffisiotherapyddion, cynghorwyr budd-daliadau lles a chanolfannau gwybodaeth yn rhai o ysbytai Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros well gofal canser i gleifion. Bydd un mewn tri ohonom yn cael canser, ac mae dros 130,000 o bobl yn byw gyda a thu hwnt i ganser yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ymgyrch i godi arian yw Go Sober for October, a’i nod yw herio pobl sy’n yfed yn gymdeithasol i newid eu harferion am fis a gwneud newidiadau iachus i’w ffordd o fyw.

Os oes achlysur arbennig wedi’i drefnu eisoes pan fydd yn anodd osgoi cael diod, gallwch chi roddi isafswm o £15 am Docyn Aur, sy’n  rhoi noson rydd i chi ac yn parhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser.

Rydyn ni’n annog pobl i yfed mewn ffordd gyfrifol a glynu at y canllawiau dyddiol argymelledig am weddill y flwyddyn. Buasem yn cynghori pobl sy’n yfed yn drwm neu sy’n ddibynnol ar alcohol i siarad â’u meddyg teulu cyn ymrwymo i ymgyrch Go Sober.

Am wybodaeth neu gefnogaeth gan Macmillan, ffoniwch ni’n rhad ac am ddim ar 0808 808 00 00 (Llun i Gwener, 9am-8pm) neu ewch i wefan www.macmillan.org.uk.

Mwynhau noson o ddiwylliant yn y theatr

Mae Mamma Mia yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (11 Hydref-13 Tachwedd), Ghost The Musical (17-22 Hydref) a Dead Sheep (11-15 Hydref), sy’n olrhain hanes cwymp Margaret Thatcher, y ddwy sioe yn y Theatr Newydd, Caerdydd. Mae Buddy – The Buddy Holly Story yn Theatr y Grand Abertawe (18-22 Hydref); The Woman In Black (5-22 Hydref), a ddisgrifir fel y ddrama lwyfan fwyaf brawychus y byd, yn Theatr Torch Aberdaugleddau; ac Aberystwyth Mon Amour (1 a 2 Hydref), yn seiliedig ar nofel drosedd-gomedi Malcolm Pryce yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bownsio mewn parc trampolîn

Ewch yn ôl i ddyddiau’ch plentyndod a threulio noson yn neidio ar lond y lle o drampolinau. Nid yn unig fyddwch chi ddim yn yfed, ond byddwch yn cynyddu’ch ffitrwydd hefyd. Yng Nghaerdydd, mae Go Air ac Infinity; mae Jump Jam ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Hangar Five yn Hwlffordd.

Byddwch yn arwrol mewn antur go iawn

Datryswch y cliwiau a churo’r cloc i ddianc o ystafell dan glo mewn gêm fyw. Mae Break Out Cardiff, Escape Rooms Cardiff; City Mazes; Xscape Reality ac Adventure Rooms Cardiff yng Nghaerdydd, Break Out Swansea a Lock and Key Swansea yn Abertawe ac Ultimate Escape yn Llandudno. Ceir rhestr gyflawn o’r canolfannau yn y DU sy’n cynnal y gemau yma

Cyffro a chyflymder hoci iâ byw

Mae tîm hoci iâ Cardiff Devils yn chwarae gemau cartref cyson. Ewch draw i Arena Iâ newydd Cymru i’w gwylio’n cystadlu yng Nghynghrair Elît Hoci Iâ Prydain.

Golff gwirion dan do

Ewch am dwll mewn un mewn gêm yn Treetops Adventure Golf yng nghanolfan siopau Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae dewis o ddau gwrs golff gwirion 18-twll, a thema drofannol neu archwilwyr hynafol. Maen nhw ar agor tan 11pm o nos Iau tan nos Sadwrn, a than 10pm pob noson arall.

Chef-tastig!

Cyfle i wella’ch sgiliau coginio mewn dosbarth nos. Cynhelir cwrs Angela Gray’s Fast Fish o 6-9pm dydd Iau 13 Hydref yng Ngwinllan Llanerch.

Taro deuddeg gyda bowlio deg

Gwisgwch yr esgidiau rhyfedd yna a tharwch y pinnau! Mae llwyth o ganolfannau yng Nghymru – Hollywood Bowl, Caerdydd; Bowlplex, Nantgarw; Tenpin, Abertawe; Ten Pin, Wrecsam; Flint Bowl; Xcel Bowl, Caerfyrddin, i enwi ond rhai.

Profiad arallfydol!

Ewch ar daith ysbrydion gyda Cardiff History ac archwilio rhai o adeiladau enwocaf De Cymru gyda’r nos, gan ymweld â pharthau lle gwelwyd ffenomena paranormal, a dysgu am chwedlau ac ofergoelion lleol sy’n ymwneud â byd ysbrydion.

Mynd ar helfa bywyd gwyllt gyda’r nos

Chwilio am ystlumod, gwyfynod a chreaduriaid nosol eraill mewn helfa bywyd gwyllt ar ôl iddi dywyllu. Cynhelir un yn Parc Slip, Pen-y-bont ar Ogwr nos Fercher 26 Hydref, o 5.30pm-8pm (£4).

Syllu ar y sêr mewn castell

Ewch am wibdaith o amgylch awyr y nos, gan ymweld â gwahanol glystyrau o sêr a dod o hyd i wrthrychau yn nyfnder yr awyr. Mae CADW yn cynnal digwyddiadau yn Abaty Ystrad Fflur, Ceredigion ar 7 Hydref (7.30pm-9.30pm; £5); a Chastell Harlech ar 21 Hydref (7.30pm-9.30pm; £10). Gallwch ddysgu sut i osod telesgop yn gywir cyn gwylio awyr y nos a thynnu lluniau ohono.

Chwiliwch am eich esgidiau dawns

Rydyn ni’n addo na fydd angen diod ddewrder arnoch chi i fagu’r hyder i godi ar eich traed a dawnsio. Mae Ceroc South Wales yn cynnal dosbarthiadau yn Abertawe, y Barri, Caerdydd, Casnewydd, Penarth, Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot sy’n gyfuniad o salsa, neuadd ddawns a lladin, Americanaidd, hip hop, dawns y stryd a mwy. Mae’n addas i ddechreuwyr a does dim angen i chi fynd â phartner.

Gwarchod plant teulu neu ffrindiau

Beth am gael noson allan o flaen teledu rhywun arall? Bydd eich ffrindiau sy’n rhieni’n hynod ddiolchgar i chi os cynigiwch chi warchod er mwyn iddyn nhw fynd allan am noson. Os ydych chi’n lwcus, efallai byddan nhw’n prynu pryd clud i chi i ddweud diolch.

Heriwch eich ffrindiau i dreulio noson sobor yn y dafarn

Mae diodydd ar wahân i alcohol ar werth mewn tafarndai, er gwybodaeth. Beth am ofyn i’ch ffrindiau gefnogi’ch her Go Sober drwy fynd am noson allan sobor yn eich tafarn leol? Efallai nad yw’r mis cyfan at eu dant, ond siawns na allan nhw’ch cefnogi chi am un noson. Gallai fod yn noson paned a chacen, neu gallech chi fynd am bryd o fwyd. Gofynnwch iddyn nhw roddi’r arian y buasent wedi ei wario ar alcohol at yr achos.