Chwech diod blasus perffaith ar gyfer her Go Sober
Mae ymgyrch Go Sober for October Cymorth Canser Macmillan yn herio pobl sy’n yfed yn gymdeithasol i roi’r gorau i alcohol am fis.
Bydd yr arian a godir yn helpu Cymorth Canser Macmillan i barhau i ddarparu gwasanaethau. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys ariannu nyrsys, ffisiotherapyddion, cynghorwyr budd-daliadau lles a chanolfannau gwybodaeth yn rhai o ysbytai Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros well gofal canser i gleifion. Bydd un mewn tri ohonom yn cael canser, ac mae dros 130,000 o bobl yn byw gyda a thu hwnt i ganser yng Nghymru ar hyn o bryd.
Os ydych chi’n ceisio penderfynu beth i’w yfed nawr nad yw alcohol ar gael am y mis nesaf, dyma chwe syniad ardderchog gan rai o fariau gorau Caerdydd.
Piña Colada – gan Grill & Shake, Canolfan y Ddraig Goch, Bae Caerdydd
I weini 2
120ml hufen cnau coco
120ml sudd pinafal
2 gwpanaid o iâ
- Rhowch yr hufen cnau coco a’r sudd pinafal mewn cymysgydd a’u cyfuno nes eu bod yn llyfn.
- Arllwyswch dros yr iâ, rhoi sleisen o binafal ffres ar ei ben a’i weini ar unwaith.
Ysgytlaeth mefus – gan Grill & Shake, Canolfan y Ddraig Goch, Bae Caerdydd
I weini 2
300ml o laeth cyflawn
225g mefus ffres
3 pelen o hufen iâ
I addurno
2 fefusen
Hufen wedi’i chwipioWhipped cream
Saws siocled neu fefus
- Cyfunwch y llaeth, mefus a hufen iâ mewn cymysgydd a throi nes bod y gymysgedd yn llyfn.
- Arllwyswch i ddau wydr tal wedi eu hoeri.
- Rhowch yr hufen wedi’i chwipio, mefusen ffres a saws ar ben bob diod a’u gweini ar unwaith.
Mwythau Mefus a Mintys – gan Elliot Ley, goruchwylydd bar a bwyty Marriott Caerdydd
I weini 1
50ml sudd oren
50ml sudd llugaeron
12.5ml sudd ‘gomme’
Cordial cwrens duon
3 mefusen ffres
5 deilen mintys
Sleisen o leim ffres
- Arllwyswch y cynhwysion i gyd (ac eithrio’r mintys) i gymysgydd a’u troi nes bod yn gymysgedd yn llyfn.
- Gosodwch y dail mintys mewn gwydr, arllwys y ddiod drostynt ac addurno’r gwydr â gweddill y mintys y mefus a’r sleisen leim. Iechyd da!
Shirley Temple – gan Elliot Ley, goruchwylydd bar a bwyty Marriott Caerdydd
I weini 1
12.5ml cordial blodau’r ysgaw
12.5 ml grenadin
50ml sudd afal
Lemonêd
2 sleisen dew o afal coch
- Rhowch y sudd afal a’r cordial mewn gwydr ysgwyd a’u cymysgu’n dda.
- Hidlwch yr hylif i wydr sy’n llawn iâ ac arllwys lemonêd ar ei ben.
- Yn ofalus, arllwyswch y grenadin dros y ddiod a’i haddurno â’r sleisiau afal. Ffres!
Ffrwythau ffrwydrol, gan Corey Palmer, rheolydd Steinbeck & Shaw, Caerdydd
25ml sudd ffres neu puree granadila (passion fruit)
12.5ml sudd lemon ffres
12.5ml surop grenadin
75ml sudd oren ffres
75ml sudd pinafal ffres
- Defnyddiwch giwbiau iâ i gymysgu cynhwysion y ddiod a’i hidlo i wydr 15 owns oer tu hwnt.
- Addurnwch â sleisen oren ac ymbarél bapur a mwynhewch!
Mojito Diniwed gan Polo Venetsianos, Dirprwy Reolydd Bar, Laguna Kitchen and Bar, Caerdydd
2 dalp leim ffres
Siòt o sudd leim
6–8 deilen mintys ffres
Joch o surop siwgr
Siòt ddwbl o sudd afal
Joch o ddŵr soda
Iâ wedi’i falu
Sleisen o lemon i addurno (yn ôl eich dant)
- Yn gyntaf, rhowch y leim ffres a’r surop siwgr mewn gwydr a’u cymysgu at ei gilydd.
- Ychwanegwch sudd y leim a’r dail mintys at y gymysgedd a llenwi’r gwydr yn llwyr ag iâ wedi’i falu.
- Ychwanegwch y sudd afal a chymysgu’r cyfan at ei gilydd.
- Ychwanegwch ragor o ia a’r dŵr soda.
- Addurnwch â sleisen lemon a sbrigyn bach o ddail mintys yn ôl eich dant.