0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Mynd â chyngor a gwasanaethau canser i’r gymuned

Michelle Lloyd yw Rheolwr Prosiect Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn Macmillan gyda  Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Yn ei blog, mae Michelle yn ysgrifennu am bwysigrwydd cynnal digwyddiadau iechyd a lles y tu allan i’r lleoliad clinigol ac yn y gymuned.

Rydyn yn aml yn sôn am bwysigrwydd cyflwyno gofal yn nes at y cartref (lle mae’n briodol gwneud hynny!). Rwy’n credu bod yr un peth yn wir am sut rydym yn ymgysylltu â’n cymuned leol – mae angen inni fod allan yno’n cynnig cymorth a chefnogaeth mewn ffyrdd sy’n hawdd i’n cymuned gael mynediad atynt. Felly, does unman gwell i fynd na Chlwb Gweithwyr Tonyrefail yn y Porth.

Ddydd Gwener, 4 Tachwedd, bu’r Clwb Gweithwyr yn lleoliad delfrydol inni gwrdd â’n cleifion canser, â’u perthnasau ac â’u gofalwyr. Nod  y digwyddiad oedd cynnig cyngor iechyd a lles i rai sy’n byw gyda chanser a sicrhau eu bod yn cael y gofal gorau posibl yn ôl eu hanghenion.

Yn ystod y tair awr a dreulion ni yno, llwyddon ni i siarad â chleifion, perthnasau a gofalwyr, gan gyfeirio llawer at wybodaeth ac at rwydweithiau cefnogi eraill. At ei gilydd, cofrestrodd 46 o bobl ar y digwyddiad ac i rai, roedd yn gyfle gwych i gael gwybod am bethau fel y Cynllun Cyfeirio i Ymarfer Cenedlaethol neu Raglen Gweithgareddau Macmillan.

Roedd yr adborth cyffredinol o’r diwrnod yn syml. Fel y dywedodd un claf, y peth pwysig iddo oedd “gallu siarad â rhywun a chael cyngor”.

Mae’n bwysig fod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda a’u bod yn cael digon o wybodaeth. Mae’n sicrhau bod gan gleifion yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal ac i’w helpu i allu rheoli eu cyflyrau eu hunain yn well.

At ei gilydd, roedd yn ddigwyddiad buddiol dros ben a alluogodd cleifion canser nid yn unig i siarad â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ond hefyd i dreulio amser yn siarad â chleifion eraill a’u teuluoedd am eu profiadau nhw eu hunain.

Byddwn ni’n sicr yn gwneud rhagor o’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol!

Yn y cyfamser, os ydych chi’n adnabod unrhyw un sydd eisiau rhywun i siarad ag ef/hi am ganser, yna ffoniwch Cymorth Canser Macmillan am ddim ar 0808 808 00 00  neu ewch i macmillan.org.uk