0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Defnyddio therapi seicolegol i helpu pobl

Mae Rachel Criddle, Seicolegydd Clinigol Meddygol Macmillan, yn esbonio sut, gyda chymorth grant hyfforddiant Macmillan, y gwnaeth hyfforddiant therapi Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR) sydd yn helpu cleifion i symud ymlaen o’u profiad o ganser.

Mae trallod seicolegol yn broblem sylweddol a pharhaus i gleifion canser. Mae sgil-effeithiau emosiynol a seicolegol hirdymor canser a’i driniaeth yn cynnwys iselder, gorbryder, problemau’r cof, anhawster yn canolbwyntio, problemau rhywiol a llai o sgiliau cymdeithasol.

Gall cleifion hefyd gael teimladau o iselder, anobaith, gorbryder a dicter a gorfod addasu i golli a newidiadau i weithrediad corfforol, newid mewn ymddangosiad corfforol, hunan-barch a’r syniad o’r hunan, gweithrediad rhywiol ac agosatrwydd, cydberthynas bersonol a chymdeithasol a rolau a dyheadau mewn bywyd. Mae cleifion hefyd yn cael anhawster yn byw gydag ansicrwydd am eu dyfodol a’u disgwyliad oes.

Fel rhan o fy swydd fel Seicolegydd Clinigol Macmillan, mae cleifion sydd wedi dioddef trawma yn sgil diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser yn cael eu hatgyfeirio ataf.

Er mwyn gallu helpu’r cleifion hyn i brosesu a dod i delerau â’u profiadau o ganser, rwyf yn defnyddio therapi seicolegol o’r enw Therapi Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR).

Mae Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR) yn ddull seicotherapi integredig sydd wedi cael ei ymchwilio’n helaeth ac mae wedi cael ei brofi i fod yn effeithiol wrth weithio gydag atgofion trallodus neu drawmatig.

Y theori y tu ôl i EMDR yw bod llawer o anawsterau seicolegol o ganlyniad i brofiadau trallodus mewn bywyd sydd wedi cael eu storio yn y cof a heb eu prosesu neu wedi eu rhwystro. Gall fod angen prosesu’r atgofion trawmatig hyn, ac mae EMDR yn un ffordd o wneud hynny.

Roeddwn yn gallu cael hyfforddiant ar gyfer y therapi hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer anawsterau seicolegol sy’n ymwneud â thrawma gan ddefnyddio Grant Dysgu a Datblygu unigol Macmillan.

Gyda’r hyfforddiant hwn rwyf wedi gallu helpu llawer o gleifion i symud ymlaen o’u profiadau.

(Mae’r astudiaethau achos yr wyf yn eu rhannu i gyd wedi cytuno i’w straeon ymddangos yn y blog hwn.)

Mrs D – Ôl-fflachiau / ail-fyw dihuno ar ôl llawdriniaeth

Cafodd Mrs D ei hatgyfeirio gan gwnselydd o elusen ganser leol, gan fod y cwnselydd o’r farn bod anawsterau’r claf yn gymhleth ac felly’n gofyn am ymyrraeth lefel 4 (cymorth a ddarperir gan seicolegwyr a seicotherapyddion cymwys).

Cafodd Mrs D ddiagnosis o diwmor y chwarren bitẅidol a chafodd lawdriniaeth ar yr ymennydd i dynnu’r tiwmor hwn. Roedd Mrs D yn cael ôl-fflachiau/yn ail-fyw’r profiad (yn arbennig yn y nos) o’r ITU (Uned Therapi Dwys) wrth ddihuno o’i llawdriniaeth, yn rheolaidd.

Er enghraifft, roedd yn ail-fyw ei hatgof o deimlo’n ddryslyd, yn aflonydd ac yn ofnus wrth iddi ddihuno, heb wybod ar yr adeg honno ble’r ydoedd a pham yr oedd yno, ac o weld a chlywed offer yr ysbyty o’i hamgylch a gweld staen gwaed.

Defnyddiwyd EMDR dros ddwy neu dair sesiwn ac ar ôl hyn, dywedodd Mrs D wrthyf yn ein sesiwn olaf ei bod yn teimlo llawer gwell.

Nid oedd yn cael ôl-fflachiau/yn ail-fyw ei phrofiadau yn yr ITU bellach ac nid oedd yn teimlo’n ofnus rhagor.

Mrs R – pryder am lawdriniaeth i wrthdroi stoma

Roedd gan Mrs R, sydd yn dri deg pedwar oed, ganser y coluddyn a chafodd ei hatgyfeirio i gael therapi gan ei Nyrs Gofal Stoma.

Dywedodd Mrs R ei bod yn teimlo trawma ar ôl ei llawdriniaeth ar gyfer canser ac o ganlyniad roedd yn teimlo’n bryderus iawn am ei llawdriniaeth i wrthdroi stoma.

Defnyddiwyd EMDR i’w helpu i brosesu ei hatgofion trawmatig o lawdriniaeth flaenorol ac i gynllunio ar gyfer y nesaf.

Dywedodd Mrs R ei bod bellach yn dawelach ei meddwl a bod yr atgofion yn llai trawmatig ac yn fwy fel atgof arferol, ac mae’n teimlo’n fwy hyderus am ymdopi gyda’i llawdriniaeth.

Mr D – atgofion annifyr am ddihuno ar ôl llawdriniaeth

Dyn 50 oed yw Mr D gyda chanser y pen a’r gwddf (tafod) a gafodd ei atgyfeirio gan Nyrs Glinigol Arbenigol.

Dywedodd Mr D ei fod ef hefyd yn cael ei boeni yn y nos gan ôl-fflachiau/ail-fyw ei brofiad yn yr ITU.

Roedd ganddo atgofion annifyr o’r rhithdybiaethau a’r rhithweledigaethau a brofodd wrth ddihuno ar ôl llawdriniaeth.

rachel-criddle

Roedd Mr D yn dod ymlaen yn dda gyda’r EMDR, ond mae ein sesiynau wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd am ei fod wedi bod yn sâl.

Yn 2015, yng Nghymru, cafodd 61 o weithwyr proffesiynol Macmillan Grant Dysgu a Datblygu Unigol.  Mae arian ar gyfer hyfforddiant a datblygiad yn gyfyngedig iawn yn aml yn ein sefydliadau partner ac mae’r grant hwn yn galluogi ein gweithwyr proffesiynol i gael pa hyfforddiant bynnag sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw a’u swydd ac mae’n gwella’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig i’w cleifion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganser, siaradwch â’n Llinell Gymorth ar 0808 808 0000 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 8pm) neu ewch i’n gwefan: www.macmillan.org.uk am wybodaeth a chymorth.

Gallwch ddarllen mwy am waith Rachel gyda Chymorth Canser Macmillan yma: http://www.macmillan.org.uk/aboutus/healthandsocialcareprofessionals/newsandupdates/macvoice/winter2015/howaclinicalpsychologistcansupportshareddecision-making.aspx

Leave a Comment