0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Cathy: pam rydw i’n gwneud her Go Sober for October

Mae Cathy wedi goroesi canser ac mae’n ymgyrchydd dros Macmillan. Yma, mae’n egluro pan mae hi’n cymryd rhan yn ymgyrch Go Sober for October a pham bod yr elusen mor bwysig iddi:

Dywedwch wrthon ni am eich siwrnai drwy ganser a’ch perthynas â Chymorth Canser Macmillan yng Nghymru

Mae Macmillan yn elusen arbennig iawn i mi. Pan ges i ddiagnosis o ganser y coluddyn graddfa 3 ym mis Rhagfyr 2012, ces i gyngor a chefnogaeth gan Macmillan gydol fy siwrnai drwy ganser, yn cynnwys cefnogaeth emosiynol, cyngor ariannol a chyngor cwbl hanfodol ar wahaniaethu ar sail canser yn y gweithle ac mewn deddfwriaeth.

Roedd y canser yn sail i wahaniaethu yn fy erbyn gan fy nghyflogwr blaenorol. Cynhaliwyd achos llys hynod anodd, gofidus a hirfaith, pan oedd cwmni rhyngwladol yn gwadu gwahaniaethu, a’i gyfreithiwr a’i fargyfreithiwr yn mynnu nad oedd gen i anabledd.

O’r adeg y cyflwynais i’r achos, ro’n i’n gwybod byddai’r gyfraith yn fy amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu, ac y byddai’n gwneud yn y dyfodol hefyd, gan fod gen i ganser.

Enillais yr achos ac mae gen i ddyfarniad o wahaniaethu yn erbyn y cwmni. Y peth gorau oedd clywed y barnwr, wrth grynhoi’r achos, yn dweud wrth y bargyfreithiwr ‘nad oedd e’n hyddysg yn y gyfraith’, a bod y ddeddfwriaeth yr oeddwn wedi dweud wrth bawb amdani yn fy amddiffyn, ac y bydd hi bob amser yn gwneud, am fy mod wedi cael canser.

Ers i mi gael canser a gwella, rwy wedi sylweddoli pa mor lwcus ydw i i fod wedi goroesi, a rwy wedi bod yn awyddus i godi arian i Macmillan i helpu pobl eraill fel ces i fy helpu.

Rydych chi’n ymgyrchu’n benodol dros well ddealltwriaeth o ganser a gwahaniaethu yn y gweithle. Ond pam penderfynu derbyn her Go Sober for October?

Mae fy ngyrfa hunangyflogedig fel cynllunydd safleoedd manwerthu yn waith trwm. Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o fy amser yn eistedd o flaen cyfrifiadur neu’n gyrru ledled y DU i ymweld â safleoedd gosod siopau, hyd yn oed ar benwythnosau,. O ganlyniad, does gen i ddim llawer o amser i wneud ymarfer corff a dyw fy lefelau ffitrwydd ddim yn dda.

Ers i mi gael llawdriniaethau mawr ychydig flynyddoedd yn ôl, mae ymarfer corff wedi bod yn anodd i mi, felly dydw i ddim yn ffyddiog y gallwn i redeg, seiclo na hyd yn oed cerdded am filltiroedd maith [i godi arian dros Macmillan].

Rwy wedi yfed yn gymdeithasol erioed, gan fwynhau nosweithiau allan gyda ffrindiau, bwyd da a gwinoedd da, ac ambell ddiod gyda fy ngŵr gyda’r nos ac ar benwythnos. Ond dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, rwy wedi bod yn yfed yn fwy cyson, ac wedi defnyddio alcohol yn rheolaidd yn gefn i mi yn ystod cyfnodau caletaf y canser, yr achos llys a’r problemau ariannol a ddaeth i’w dilyn.

Er bod y rhan fwyaf o’r anawsterau y tu cefn i mi erbyn hyn, pan fydda i’n cael diwrnod anodd, bydda i’n ymlacio â gwydraid mawr o win gyda’r nos. Ond mae llai o saib rhwng pob gwydraid bellach, a ro’n i’n teimlo fel petawn i’n mynd yn fwy dibynnol ar alcohol, a bod hyn yn effeithio ar fy iechyd, yn enwedig â phrognosis o ganser. Roedd yfed cymaint yn wael i fy iechyd ac roedd angen i mi wynebu’r broblem.

Sut mae pythefnos cyntaf yr her wedi mynd?

Roedd yr wythnos gyntaf yn wirioneddol anodd. Ro’n i mor flinedig nes ’mod i’n cysgu mor aml ag y gallwn i.

Roedd hi’n fwriad gen i fwyta’n iachach mewn ymgais i golli pwysau, ond pan ddechreuodd yr awch cyson am ddiod, troi at fwydydd melys wnes i, a llowcio hufen iâ, siocled a chacennau i ymdopi â’r awch. Mi weithiodd, ond dyw e ddim wedi helpu o ran colli pwysau!

Rwy wedi mynd i ambell ddigwyddiad cymdeithasol lle basen i fel arfer wedi cael diod – i’r bingo gyda ffrindiau, pan yrrais i ac yfed Coke, cinio dydd Sul tri chwrs arbennig gyda fy mab yn y Celtic Manor, a chiniawau teithiau busnes â bwyd da, ond ches i ddim gwin.

Ydych chi’n debygol o gyflawni’r mis cyfan, neu fyddwch chi’n prynu Tocyn Aur i gael noson i ffwrdd?

Rwy’n teimlo mai twyllo fyddai prynu Tocyn Aur, ac rwy am wneud y mis cyfan. Mae fy ffrindiau a fi wedi cael ein gwahodd i barti priodas wythnos nesa, ac rwy wedi cynnig gyrru os yw’r teithwyr yn fodlon gwneud rhodd. Rwy’n benderfynol tu hwnt, sydd wedi bod o gymorth yn fy ngyrfa ac wrth frwydro yn erbyn fy nghyflogwyr, ac rwy’n berson cryf iawn, felly unwaith rwy’n penderfynu gwneud rhywbeth, rwy’n siŵr o’i wneud!

Beth yw barn eich teulu a’ch ffrindiau am yr her?

Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn. Maen nhw’n gwybod am fy holl brofiadau â’r salwch a’r achos llys, a faint o gymorth ces i gan Macmillan, ac yn sgil hynny, pa mor bwysig yw’r codi arian i mi. Maen nhw’n gwybod faint dwi’n ei yfed hefyd, ac yn deall bod hwn yn her anodd iawn i fi.

Ydych chi’n teimlo’n iachach o beidio ag yfed?

Ydw. Mi gymerodd tua 10 diwrnod i’r alcohol adael fy system, ac erbyn hyn rwy’n teimlo’n llawer gwell. Mae fy mhen yn glir ac mae gen i fwy o egni.

Ydych chi’n credu bydd cymryd rhan yn ymgyrch Go Sober yn newid eich arferion yfed yn barhaol?

Ydw – rwy’n gobeithio medru yfed yn gymdeithasol ac ar benwythnosau mewn modd cymedrol, nid bob nos fel o’r blaen.

Am wybodaeth bellach ar ymgyrch Go Sober neu i gofrestru, ewch i’r wefan

Gallwch noddi Cathy yma: https://www.gosober.org.uk/users/cathy-simms

Am wybodaeth neu gefnogaeth gan Macmillan, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan am ddim ar 0808 808 00 0 (Llun – Gwener, 9.00a.m.-8p.m) neu ewch i wefan www.macmillan.org.uk.