0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Dewch i gwrdd â thîm Gwasanaeth Oncoleg Acíwt newydd Macmillan yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedwch rywfaint wrthyf am eich tîm. Pwy sy’n rhan o’r tîm? Beth mae pob aelod o’r tîm yn ei wneud?

Dim ond dau ohonom sydd yn y tîm: fi (Louise Hymers) fel Nyrs Arbenigol Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Macmillan a Claire Butcher, sef Cydlynydd Gwasanaeth Oncoleg Acíwt Macmillan. Er mai dim ond tîm bychan ydym ni, rydym yn cael cefnogaeth dda gan eraill yn yr ysbyty.

Beth mae’r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud a sut mae’n helpu pobl y mae canser yn effeithio arnynt?

Yn syml iawn, mae’r Gwasanaeth Oncoleg Acíwt yn Ysbyty Tywysoges Cymru yma i roi cyngor a chymorth arbenigol i dri grŵp allweddol o bobl, sef y rheini sy’n cael diagnosis o ganser wrth gael eu derbyn i’r ysbyty, y rheini sydd yn yr ysbyty oherwydd cymhlethdodau yn sgil canser, a’r rheini sydd yn yr ysbyty oherwydd cymhlethdodau yn sgil triniaeth yn erbyn canser.

Rydym ni hefyd yma i roi cyngor a chymorth pan fydd pobl yn cael diagnosis o ganser newydd pan gânt eu derbyn i’r ysbyty â chyflwr acíwt.

Rhan allweddol arall o’n gwaith yw hwyluso cyfathrebu â’r tîm sy’n trin canser y person, fel eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa. Yn aml bydd pobl yn cael eu gofal canser mewn ysbyty arall. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun yn mynd i Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd am ei driniaeth, ac yna’n cael ei dderbyn i Ysbyty Tywysoges Cymru os bydd yn sâl oherwydd mai dyma ei ysbyty lleol.

Os caiff rhywun ei dderbyn i’r ysbyty yn ystod cylch o driniaeth byddwn yn cysylltu â’i dîm canser i aildrefnu apwyntiadau yn ôl yr angen.

Byddwn hefyd yn archwilio cydymffurfiaeth â thargedau lleol a chenedlaethol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ac yn defnyddio’r data hyn i wella’r gofal i gleifion yn ôl yr angen

Pryd y cafodd y Gwasanaeth Oncoleg Acíwt ei sefydlu a beth oedd yr angen?

Gwasanaeth newydd yw hwn; dechreuwyd cymryd atgyfeiriadau ddechrau mis Tachwedd eleni.

Yn y blynyddoedd diweddar mae sawl adroddiad allweddol yn y DU wedi tynnu sylw at yr angen i sefydlu gwasanaethau o’r fath mewn ysbytai acíwt. Yng Nghymru mae’n rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser sydd gan Lywodraeth Cymru.

Y ffactor allweddol o ran sefydlu Gwasanaethau Oncoleg Acíwt ledled Cymru yw gwella gofal, profiad a chanlyniadau cleifion canser pan gânt eu derbyn i’r ysbyty fel achosion brys.

aos crop 02 1024
Claire Butcher a Louise Hymers

Rydych chi’n dîm newydd mewn gwasanaeth newydd mewn ysbyty nad ydych erioed wedi cael eich lleoli ynddo o’r blaen – beth yw’r heriau?

Rwy’n meddwl mai’r her fwyaf yw cyflwyno ein hunain a’r gwasanaeth i bawb yn yr ysbyty. Oherwydd natur y gwasanaeth rydym yn gweld cleifion ym mhob pob maes cleifion mewnol ac yn yr uned ddamweiniau ac achosion brys felly, fel y gallwch ddychmygu, mae hynny’n llawer o bobl i gwrdd â nhw!

Sut mae Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru wedi helpu’r gwasanaeth hwn?  

Mae Macmillan wedi bod yn rhan o’r holl broses o ddatblygu’r gwasanaeth, ymhell cyn i fi na Claire fod yn ein swyddi!

Rydym yn cael ein hariannu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd gan Macmillan. Mae cael cefnogaeth Macmillan wrth ddatblygu gwasanaeth newydd mor ddefnyddiol – mae’n rhoi haen ychwanegol o gefnogaeth yn ogystal ag adnoddau ychwanegol a chyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol fel y gallwn roi’r gofal gorau posibl i bobl sydd â chanser.

Beth yw eich dyheadau ar gyfer y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf?  

Hoffem ddod yn rhan annatod o’r ysbyty a bod yn rhan werthfawr o’r tîm i gleifion mewnol. Hefyd, hoffem allu dangos sut rydym wedi cael effaith ar ofal, profiad a chanlyniadau cleifion yn ystod y cyfnod hwn.

Beth mae gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr angen ei wybod am eich gwasanaeth?  

Ein bod ni yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen unrhyw gyngor am glaf canser sydd mewn cyflwr acíwt, cysylltwch â ni.

Beth yw’r peth gorau am sefydlu gwasanaeth newydd fel hwn? A’r peth mwyaf heriol?

Mae sefydlu gwasanaeth newydd yn heriol ac yn rhoi boddhad fel ei gilydd. Y peth gorau am sefydlu gwasanaeth yw gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth pan fydd rhywun yn cael ei dderbyn i’r ysbyty ar adeg sydd, yn naturiol, yn un bryderus. Un o’r heriau mwyaf yw integreiddio â thimau ehangach a dod yn adnodd gwerthfawr i broffesiynau iechyd eraill yn yr ysbyty. A dyma hefyd un o’r pethau gorau am sefydlu gwasanaeth newydd – pan fydd yr atgyfeiriadau yn dechrau cyrraedd a’ch bod chi’n gwybod eich bod yn dod yn rhan o’r tîm!

Leave a Comment