Diwrnod arall llawn hwyl yn Ysbyty Bwthyn Pontypridd
Ar 17 Mai ymwelais ag Ysbyty’r Bwthyn ar gyfer ail gam y broses ymgynghori â chleifion a staff yr ysbyty. Nod yr ymweliad hwn oedd cael gwell dealltwriaeth o’r mathau o blanhigion yr oedd pawb eisiau eu gweld ym mlaen y murluniau yr wyf yn eu dylunio a dangos i bawb sut roedd fy syniadau dylunio yn datblygu.
Ar y diwrnod, cynhaliais weithdy gan ddefnyddio blodau gwylltion, gweiriau a rhedyn oedd i’w canfod o amgylch yr ysbyty bwthyn. Buon ni’n argraffu defnydd gan ddefnyddio’r dechneg trosglwyddo â gwres, sy’n rhoi canlyniadau cyflym a hynod o effeithiol. Roedd y gweithdy yn hygyrch i bawb, a bu staff a chleifion yn cymryd rhan.
Y bwriad oedd cynnal dau weithdy awr o hyd, ond aeth y gweithdy ymlaen yn hwy na’r bwriad, wrth i bob aelod o staff oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw, fwy na heb, ddod i greu print! Yn y pen draw fe oerodd y wasg argraffu a chafodd ei chario allan ar wely ysbyty yn ôl i gist y car ac adref i Gaerfaddon!
Ar derfyn diwrnod prysur iawn aeth pawb â darn unigryw o ddefnydd adref gyda hwy. Roedd rhai cleifion yn sôn am fframio eu defnydd i greu llun, ac eraill yn cynllunio prosiectau creadigol eraill, megis pyrsiau neu fagiau bach. Rwy’n siŵr y cytunwch fod y canlyniadau’n brydferth…
Cefais ddiwrnod gwych yn Ysbyty’r Bwthyn yn ôl ym mis Mai ac fe’m cynorthwyodd i gael llawer gwell dealltwriaeth o ba mor arbennig yw’r uned i’r cleifion a’r staff fel ei gilydd. Des i adnabod y cleifion yn llawer gwell a chefais bleser yn dangos fy llyfrau sgetsio a’m dyluniadau cychwynnol i bawb.
Fel bob amser, hoffwn ddiolch o galon i’r ymgynghorwyr celfyddydau Willis Newson am fy nghynnwys yn y prosiect gwych hwn.
Bydd y gwaith celf a grëwyd yn ysbrydoli’r gwaith celf sy’n cael ei greu ar gyfer Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS Macmillan y Bwthyn y mae Cymorth Canser Macmillan yn ei hadeiladu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf mewn partneriaeth â’r National Garden Scheme. Dilynwch y ddolen hon i ddarllen Rhan 1 y stori hon.
Kate Bond
Ymddangosodd y blogiad hwn gyntaf ar flog Seam Collective. Diolch i Kate am roi caniatâd inni ei ddefnyddio.