0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“YR WYF yn ymladdwr. Ac mi giciais ben ôl canser.”

Mae geiriau’n rymus. Mae ganddynt y pŵer i’n codi, a’r grym i’n rhoi i lawr. Cafodd Ali o Sir Ddinbych ddiagnosis o ganser ceg y groth yn 2015. Y cyntaf yn ein cyfres o flogiau ar iaith canser, Ali hi’n archwilio’r geiriau a helpodd hi trwyddo, yn ogystal a’r sgyrsiau na fuodd yn gymorth iddi.

Ali:  Rwyf yn ymladdwr. Fe wnes i guro canser. Dwi’n falch o gael fy ngalw’n oroeswr.

Gwn y gallai’r gair hynny fod yn annifyr, neu hyd yn oed achosi gofid i lawer o bobl. Fel yr holl eiriau rydyn ni’n eu taflu’n fras am ganser, fydd dim dau berson yn ymateb yn yr un ffordd.

Mae geiriau fel ‘ ymladdwr ‘, ‘ brwydr ‘ a ‘ goroeswr ‘ wir fel Marmite – rydych naill ai’n eu caru ac yn eu dal yn daer i’ch helpu trwyddo, neu rydych yn eu casáu am eu gallu i’ch rhoi i lawr.

Doedd gen i erioed ddim problemau wrth ddisgrifio, neu clywed pobl eraill yn disgrifio neu siarad am fy nghanser fel brwydr.

Roeddwn i’n fam sengl. Roedd clywed y newyddion fod gen i ganser yn fy arswydo. I’m plentyn, fy rhieni, fy ffrindiau ac i bawb roeddwn yn gweld yn annwyl, ac ar gyfer fy sant-rwydd fy hun, roedd gwir angen i mi weld hyn fel brwydr.

Er fy mod yn gwybod nad yw llawer o bobl yn hoffi gair diffoddwr, i mi roedd yn rhywbeth i angori fy hun arno.

Helpodd i gysoni fy ysgwyddau, i ddod allan yn ddiymgeledd, ac i gymryd rhywfaint o reolaeth dros fy niagnosis a’m triniaeth canser. Helpodd i gadw’n fi’n bositif.

Ie, fel pawb sydd wedi mynd drwy hyn gwn yn iawn nad yw canser yn rhywbeth sy’n cael ei ymladd. Mae’n salwch. Mae modd ei drin, neu nid ydyw.

Mae deilliannau’n amrywio’n fawr ar gyfer pob unigolyn, ac mae’r ffordd rydym yn ymateb a sut rydym yn ymdopi hefyd yn amrywio’n eang.

Dyna pam ei bod mor bwysig cael sgwrs arferol bob dydd gyda’r unigolyn sydd â chanser. Gadewch iddynt ei arwain ychydig, a gyda’n gilydd gallwch ddod o hyd i’r iaith sy’n gweithio orau.

I mi, y geiriau o gydymdeimlad neu bechod a’m rhwystrodd fwyaf. Fe’m gadawodd yn teimlo fy mod yn cael fy nileu, fel petai fy nghanser a’i driniaeth yn rhywbeth a oedd y tu hwnt i’m rheolaeth.

Roedd pobl o hyd yn dweud “sori”. Am beth? Nid oedd ganddynt unrhyw reswm i ymddiheuro.

Ces wybod am hanesion gan bobl a oedd yn adnabod rhywun arall a oedd â chanser, fel arfer am ‘ sut y cawsant fath arall, fel ar ôl ichi gael canser, rydych yn fwy tueddol o gael un arall ‘. Doedd dim angen i mi ei glywed o gwbl. Roedd gen i ddigon o bethau i ddelio â nhw’n barod!

Yr unigolyn sy’n bwysig mewn gwirionedd. Nid oes ateb cywir nac anghywir. Er fy mod yn fy nosbarth fy hun fel goroeswr, gwn hefyd yn rhy dda sut y gall y term ei hun frifo.

Roedd fy nghymydog a minnau’n dioddef o ganser ar yr un pryd. Roedd hi hefyd yn brwydro’n galed a chryf ac roedd ganddi agwedd gadarnhaol. Ond ‘ collodd ‘ hi.

Nid yw byth yn ymwneud mewn gwirionedd â cholli neu rywsut ennill, ac rwyf bob amser wedi teimlo cymaint o euogrwydd pan welaf feibion fy nghymydog. Cymaint o euogrwydd dwi dal o gwmpas er dydy eu mam ddim.

Nid ydynt erioed wedi bod yn gefnogol o gwbl. Trwy fy holl brosiectau y maent wedi bod wrth fy ochr i godi arian i Macmillan ac i anrhydeddu cof eu mam. Ond mae’r euogrwydd yno o hyd.

Mae geiriau’n bwerus iawn. Bydd rhai yn eich codi yn union pan fydd ei angen arnoch. Gall eraill wneud i chi deimlo’n isel a gallech hyd yn oed eich atal rhag gofyn am yr help sydd ei angen arnoch.

Ond i mi, roedd yn well gen i pan soniodd y bobl o’m hamgylch am ymladd canser, am ei ymladd gyda’n gilydd. Helpodd fi i deimlo fy mod i wedi eu cael criw o bobl yn fy nghornel pan roeddwn i’w hangen fwyaf.