Bore Coffi Mwya’r Byd: cacen mafon a siocled ‘heb rai cynhwysion’ gan Westy a Sba Dewi Sant
Dydy’r ffaith nad ydych chi’n cael bwyta rhai pethau ddim yn golygu na allwch chi fwynhau sleisen enfawr o gacen siocled yn eich Bore Coffi Mwya’r Byd. Y cyfan sydd ei angen yw’r gacen iawn ichi ei mwynhau.
Drwy lwc, mae Martyn Watkins, Prif Gogydd yng Ngwesty a Sba Dewi Sant – unig westy Caerdydd sydd wedi cael 5 seren gan yr AA – wedi creu’r gacen mafon a siocled hyfryd hon, sydd heb gynnyrch llaeth, heb glwten, heb wyau, ac sy’n fegan.
Fel y dywed Martyn, “Fel cogydd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol gacennau, er mwyn dod o hyd i gacen y gallaf ei defnyddio sy’n addas i ystod eang o ofynion dietegol, ond sy’n dal i flasu’n anhygoel ac i edrych yn wych.
“Dwi wrth fy modd gyda’r gacen hon oherwydd mae’n blasu cystal ag y mae’n edrych, ond heb wyau, cynnyrch llaeth a glwten. Mae’n amlwg yn un arbennig ac mae bob amser yn cael derbyniad da adeg te’r prynhawn rydyn ni’n ei weini yma yng Ngwesty a Sba Dewi Sant.”
Mae’r rysáit hon yn un o chwech sy’n cael eu rhannu â ni gan rai o brif gogyddion a phobwyr Cymru er mwyn cefnogi Bore Coffi Mwyaf y Byd. Cewch weld y ryseitiau eraill yma.
Cewch weld sut mae cynnal eich bore coffi eich hun, neu dewch o hyd i’r digwyddiadau sy’n digwydd yn eich ardal, yma.
Cynhwysion
Margarin fegan, er mwyn iro
300g o flawd plaen heb glwten
50g o bowdr coco
1 llwy de o bowdr codi
1 llwy de o soda pobi (bicarbonate of soda)
1/2 llwy de o halen
300g o siwgr arferol
375ml o laeth soia
125ml o olew had rêp
7 llwy fwrdd o jam mafon heb hadau
1 llwy de o rinflas fanila (vanilla extract)
Ar gyfer yr eisin
40ml o laeth soia
85g o siocled tywyll fegan, wedi’i dorri’n ddarnau mân
60g o siwgr eisin
1 llwy fwrdd o syryp masarnen (maple syrup)
Mafon ffres, i addurno
- Cynheswch y ffwrn i 180°C/nwy rhif 4.
- Irwch dun cacennau 23cm/9 modfedd a’i leinio â phapur pobi.
- Rhidyllwch y blawd, y coco, y powdr codi a’r soda pobi i bowlen gymysgu fawr a throwch yr halen a’r siwgr i mewn.
- Arllwyswch y llaeth soia i sosban o faint canolig ac ychwanegwch yr olew, y jam mafon a’r rhinflas fanila. Rhowch hwn dros wres canolig a chwisgwch i gymysgu’r cyfan. Ychwanegwch y cynhwysion sych a chymysgwch nhw’n drylwyr.
- Rhowch yn y tun wedi’i baratoi a’i bobi yn y ffwrn wedi’i chynhesu am 45 munud, neu hyd nes bydd sgiwer wedi’i roi yn y canol yn dod allan yn lân.
- Gadewch y gacen i oeri’n llwyr ar resel oeri cyn rhoi’r eisin arni.
- I wneud yr eisin, twymwch y llaeth soia mewn sosban fach tan iddo ferwi, yna cymysgwch y siocled tan iddo doddi. Tynnwch oddi ar y gwres a chwisgiwch y siwgr eisin a’r syryp masarnen i mewn. Rhowch ar naill ochr i oeri cyn rhoi’r eisin ar y gacen.
- Rhowch ychydig o fafon ar ben y gacen ac ysgeintiwch hi â siwgr eisin.
Gwesty a Sba Dewi Sant, Stryd Havannah, Caerdydd, CF10 5SD