Cymerwch Naid dros Macmillan

Mae eleni’n flwyddyn naid a pha ffordd well o dreulio’r diwrnod ychwanegol na rhoi eich cefnogaeth i Macmillan. Dywed Nikki James, ein Rheolwr Codi Arian Ardal yng Nghymru, y gallwch fod yn rhan o Naid dros Macmillan.
Mae eleni’n flwyddyn naid a pha ffordd well o dreulio’r diwrnod ychwanegol na rhoi eich cefnogaeth i Macmillan. Dywed Nikki James, ein Rheolwr Codi Arian Ardal yng Nghymru, y gallwch fod yn rhan o Naid dros Macmillan.
Soniwch wrthym am Naid dros Macmillan?
Gan fod eleni’n flwyddyn naid, roeddem am herio pobl – am sut byddan nhw’n defnyddio eu diwrnod ychwanegol. Os mai dynes ydych chi, mae’n bosibl y byddwch chi’n cynllunio i ofyn i’ch cariad eich priodi. Ond, gobeithio y bydd pobl yn dymuno defnyddio eu diwrnod i gefnogi Macmillan – gallai hynny fod yn codi arian, gwirfoddoli, rhannu eich stori neu hyd yn oed ymgyrchu
Sut gall pobl gymryd rhan?
Ewch i’n gwefan www.macmillan.org.uk a chliciwch ar gymryd rhan. Mae llawer o syniadau a hoffem glywed gennych. Efallai yr hoffech gynnig eich achlysur eich hun, rydym wrth ein bodd yn clywed am syniadau newydd! Ewch i
https://www.macmillan.org.uk/get-involved/fundraising-events/organise-your-own – event i weld y cymorth y gallwn ei gynnig.
Ai dim ond ar ddydd Sadwrn 29 Chwefror y galla i gymryd rhan. Beth os ydw i’n brysur y diwrnod hwnnw?
Mae gan bawb ohonom ddiwrnod ychwanegol eleni, felly does dim rhaid i chi gymryd rhan ar 29 Chwefror – dewiswch ddiwrnod sy’n gyfleus i chi!
Sut mae pobl yn rhannu gyda Macmillan yr hyn y maen nhw’n ei wneud dros ‘Naid dros Macmillan’?
Rhowch wybod i ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #NaidDrosMacmillan a pheidiwch ag anghofio rhoi gwybod i ni ar @macmillancymru.
Sut galla i ddysgu mwy am gyfrannu neu roi o’m hamser i gefnogi Macmillan yng Nghymru?
Gallwch gyfrannu ar ein Tudalen Just Giving https://www.justgiving.com/fundraising/leapformacmillan2020. Edrychwch ar ein gwefan i gael gwybodaeth, ffoniwch ni ar 0300 1000 200 neu DM ni – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Diolch yn fawr iawn i Ffilmiau F9 a roddodd o’u hamser yn garedig iawn i wneud hyn i ni. Diolch!