0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Rydym yn gwneud gwahaniaeth ac yn bod yn ffrind

Gall rhoi ychydig oriau’r wythnos i gael paned a sgwrs, neu smwddio ychydig o bethau wneud y byd o wahaniaeth i rywun sydd â diagnosis canser. Mae Carrie Harris, Rheolwr Gwasanaethau Gwirfoddoli Uniongyrchol, yn esbonio sut gall gwasanaethau cymorth fel Bydis Cymorth Sir Gaerfyddin helpu rhai sydd wedi’u heffeithio gan ganser sydd wedi’u hynysu, sy’n unig ac sydd ag angen help llaw, efallai.

Mae Cymorth Canser Macmillan yn cydnabod y gall fod ar bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser angen cymorth mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae ein hymchwil yn dangos na fydd gan 1 o 4 o bobl sydd newydd gael diagnosis canser DU gymorth gan deulu neu ffrindiau yn ystod eu triniaeth a’u cyfnod adfer – mae hynny’n cynrychioli dros 4000 o bobl sydd newydd gael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae dros hanner y rhai sydd heb y cymorth hwn yn dweud bod hyn oherwydd bod eu teulu a’u ffrindiau’n rhy brysur i helpu neu oherwydd eu bod yn byw’n rhy bell i ffwrdd. Ac nid oes gan draean o’r bobl hyn unrhyw un yno i’w helpu.

Mae teimlo’n ynysig ac unig, fel bydd cymaint o bobl, yn gwneud i ganser fod hyd yn oed yn fwy anodd. Ac mae pobl yn aml yn teimlo’n analluog ac fel petaen nhw wedi colli rheolaeth ar bethau, ond does dim rhaid iddyn nhw fynd drwyddi ar eu pennau eu hunain. Mae gennym ni, Macmillan, amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i helpu pobl i deimlo’n llai unig – a theimlo’n fwy fel nhw eu hunain. Mae Bydis Cymorth Sir Gâr yn un o’r gwasanaethau cymorth a sefydlwyd i fod yno i rai sy’n teimlo’n ynysig, yn unig ac sydd ag angen help llaw, efallai.

Carrie Harris Macmillan and the volunteer group
Grŵp gwirfoddoli – (Canolfan Carrie Harris)

Ers 2010, mae nifer y rhai sy’n byw gyda chanser yn y DU wedi tyfu’n agos i hanner miliwn o bobl, i 2.5 miliwn ac erbyn 2030 bydd hyn yn cynyddu i 4 miliwn o bobl, y bydd gan nifer ohonyn nhw anghenion cymhleth.

Yr hyn sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd yn y rhai sy’n byw gyda chanser yw gwelliannau o ran goroesi a chanfod canser, a phoblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio. Cynyddodd nifer y rhai dros 65 oed sy’n byw gyda chanser bron i chwarter (23%) mewn pum mlynedd yn unig.

Mae Macmillan wedi adnabod a chydnabod y newidiadau hyn a’r angen am ddarparu cymorth mewn nifer o wahanol ffyrdd i’r rhai y mae ei angen arnyn nhw. Felly, aethon ni ati i chwilio am wahanol ffyrdd y gallwn gyrraedd pobl fel nad oes rhaid iddyn nhw wynebu canser ar eu pennau eu hunain.

Yn 2012 ymgymerodd Macmillan Cymru â digwyddiad ymgynghori yn Sir Gaerfyrddin i weld beth oedd anghenion cymorth pwysicaf pobl leol, yr oedd naill ai ganddyn nhw ddiagnosis canser neu a oedd yn gofalu am rywun, yn ogystal â pha wasanaethau a oedd ar gael yn rhwydd a ble roedd unrhyw fylchau.

Fy rôl i yw cwmpasu, datblygu, sefydlu a rheoli gwasanaethau cymorth ymarferol ac emosiynol fel Bydis Sir Gaerfyrddin. Cafodd y gwasanaeth y cais cyntaf am gymorth ym mis Mawrth 2014 ac mae wedi mynd o nerth i nerth fyth ers hynny.

Rydym wedi recriwtio a hyfforddi 37 gwirfoddolwr gyda 23 bydi sy’n weithredol ar hyn o bryd, rydym wedi rhoi cymorth i dros 50 o bobl gyda bron i 400 rhyngweithiad cymorth, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.

Mae’r cymorth y mae ein gwirfoddolwyr wedi’i roi yn cynnwys cyfeillio a chadw cwmni, mynd allan ar dripiau cymdeithasol, smwddio, golchi llestri, codi siopa, gwaith tŷ a garddio ysgafn, cludiant ad hoc a chyfeirio pobl at wasanaethau defnyddiol eraill. Mae’r adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’r rhai sy’n eu cyfeirio at y gwasanaeth mor gadarnhaol – mae’r gwirfoddolwyr yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, fel y dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth am ei bydi, “mae hi’n donig!”

Dywedodd un o’n gwirfoddolwyr o Lanelli wrtha i’n ddiweddar:

“Rwy’n cael cymaint o wirfoddoli, rydych chi’n gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd rhywun ond byddwch chi’n synnu hefyd cymaint y cewch chi allan ohono hefyd. Efallai bod gwirfoddolwyr yn meddwl nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi ond credwch fi rydyn ni’n cael ein gwerthfawrogi’n fawr iawn, am wneud yr hyn a wnawn ni.”

Mi wnaeth un o’n bydis eraill – gwirfoddolwr arwain, sy’n helpu i gydlynu’r gwasanaeth yn ogystal â rhoi cymorth, ddweud wrtha i pam dechreuodd hi gymryd rhan, “Mae canser yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon i. Mae fy rhieni, fy modrybedd a’m hewythrod i gyd wedi cael eu heffeithio. Roedd nyrs Macmillan gan fy mam ac rwy’n cofio ei bod hi’n ei galw hi’n ‘fy angel i’. Mae nyrs Macmillan yn berson arbennig iawn, yn fath gwahanol iawn o berson. Felly mae hi’n braf gwneud rhywbeth yn gyfnewid am hyn dros Macmillan.

“Nid yw pawb ar eu pennau eu hunain ond weithiau gall eu teuluoedd fod yn bell i ffwrdd neu’n methu ymweld bob dydd. Gyda’n gwasanaeth ni, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwirfoddoli ychydig oriau’r wythnos, cael paned a sgwrs neu efallai wneud ychydig o smwddio. Gall deimlo fel mynydd i rywun sydd wedi’i effeithio gan ganser, ond rydych chi yno’n gwneud gwahaniaeth ac yn bod yn ffrind – nid hud a lledrith mohono, ac rydych chi’n cael cymaint o fudd!”

Mae ein gwirfoddolwyr yno go iawn i bobl ar adeg pan fydd angen rhywun arnyn nhw – yn help llaw neu’n glust i wrando neu’r ddau! Rwy’n teimlo’n hynod falch ac yn freintiedig o fod yn rhan o’r gwasanaeth ac o weithio gyda’r gwirfoddolwyr anhygoel sy’n rhoi eu hamser a’u hymrwymiad i eraill fel nad ydyn nhw’n wynebu canser ar eu pennau eu hunain.

Cewch wybod rhagor am wirfoddoli gyda Macmillan ar ein gwefan.