0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Bwyd, canser a diwedd oes: rôl dietegydd lliniarol Macmillan

Pan ddechreuais ar fy swydd fel dietegydd gyda Macmillan yn y tîm gofal lliniarol arbenigol  doeddwn i ddim wir yn siŵr beth i’w ddisgwyl na beth oedd gofal lliniarol yn y bôn, ond roeddwn i’n gwybod ei bod hi’n mynd i fod yn swydd ‘arbennig’.

Felly beth mae Dietegydd gofal lliniarol yn ei wneud mewn gwirionedd?

  • Mae pobl yn cael eu cyfeirio ataf i’n bennaf oherwydd eu bod nhw wedi colli archwaeth at fwyd ac am eu bod yn colli pwysau.  Oherwydd effeithiau canser ar y corff, yn enwedig pan fydd yn y cyfnod olaf, mae’n amhosibl magu pwysau eto.  Mae colli archwaeth at fwyd yn cyd-fynd â hyn yn aml.
  • Fel dietegydd allaf i ddim newid y broses gorfforol hon ond mae llawer o bethau y gallaf eu gwneud i gynorthwyo cleifion a’u gofalwyr yn y maes anodd hwn, sy’n aml yn un emosiynol.
  • Gyda fy nghydweithwyr nyrsio a meddygol, rwy’n gweithio i wella symptomau eraill a all effeithio ar gymeriant bwyd a diod. Er enghraifft, teimlo’n sâl neu broblemau treulio eraill.

Mae iechyd y geg yn bwysig iawn; os oes gan rywun geg dost neu sych, gall bwyd flasu’n ofnadwy a gall bwyta fod yn boenus.  Mae llawer o gleifion yn colli’r gallu i flasu unrhyw beth, mae cleifion yn aml yn dweud bod bwyd yn, ‘blasu fel cardfwrdd’ felly mae bwyta’n ddiflas ac yn anodd. Rwy’n gallu argymell fitaminau penodol gan y gall hyn fod oherwydd diffyg, a hefyd rwy’n rhoi cyngor ar fwydydd addas.

  • Rwy’n rhoi cyngor arbenigol yn rhan o dîm ar symptomau gastroberfeddol mwy cymhleth gan fod gen i flynyddoedd o brofiad clinigol yn y meysydd hyn o’m gwaith mewn swyddi blaenorol.
  • Rwy’n rhoi cyngor ar wella cyfansoddiad pa bynnag faeth y mae cleifion yn gallu ei gymryd, er enghraifft drwy roi cyngor syml am atgyfnerthu bwyd neu am fwyta dewisiadau mwy syml. Mae llawer o bobl yn ofni bwydydd braster uchel, uchel mewn calorïau oherwydd y negeseuon bwyta’n iach sydd o’n cwmpas i gyd ond yn yr achos hwn bydden nhw’n hynod briodol.
  • Hefyd rwy’n argymell ychwanegion maethol ar bresgripsiwn er mwyn rhoi maeth ar ffurf sy’n gallu cael ei dioddef ar y pryd hwnnw ac er mwyn gwella’r maeth sy’n cael ei gymryd yn gyffredinol.
  • Yn bennaf oll rwy’n teimlo mai’r peth pwysicaf rwy’ wedi’i ddarganfod yw’r effaith seicolegol sylweddol y gall colli archwaeth a cholli pwysau ei chael ar glaf a’i anwyliaid. Mae’r rhan hon o’u clefyd yn eu hatgoffa’n weledol o’r salwch ei hun ac mae’n achosi ystod eang o emosiynau. Gall y rhain gynnwys galar a cholled na fydd hoff ddilledyn byth yn fitio neu na allan nhw wisgo eu modrwy briodas eto, yr ofn fod y salwch yn mynd rhagddo, trallod, rhwystredigaeth a dicter nad yw’r person yn gallu bwyta a mwynhau bwyd fel roedden nhw’n arfer ei wneud.
  • Mae bwyd yn mynegi cariad ac mae’n rhan o’r broses o ofalu.  Mewn cyfnod o ymyriadau meddygol dwys, dyna’r cyfan y mae teuluoedd yn teimlo y gallan nhw ei wneud dros eu hanwyliaid. Yn aml mae perthnasau’n gallu teimlo ymdeimlad enfawr o golled os yw’r rôl hon yn cael ei cholli.
  • Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod colli pwysau a cholli archwaeth yn symptom o’r canser ei hun a’i fod y tu hwnt i reolaeth y person – rhywbeth rydyn ni fel gweithwyr proffesiynol yn ei gymryd yn ganiataol. Weithiau mae esbonio hyn yn unig, er ei fod yn gysyniad anodd, yn gallu achosi rhyddhad mawr i’r cleifion a’r gofalwyr. Gall gael gwared ar wrthdaro adeg bwyd fel y gall pobl dreulio eu hamser gwerthfawr gyda’i gilydd mewn heddwch ac nid yn dadlau ynghylch faint i’w fwyta a’i yfed.

Yn wir, mae bod yn ddietegydd gofal lliniarol yn swydd arbennig; mae’n tynnu ar fy sgiliau personol, clinigol a seicolegol i gyd ac yn fy ngyrru i geisio gwella’r hyn sy’n bosibl i glaf a’r teulu ar adeg anodd.
Rwy’n ystyried fy mod i’n ffodus iawn, oherwydd y gefnogaeth barhaus rwy’n ei chael gan Macmillan a’r cyfleoedd rwyf wedi’u cael, yn enwedig wrth weithio gyda thîm gwych hynod arbenigol a’r fraint o weithio yn y gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Byddem wrth ein boddau’n clywed eich sylwadau am y blog yma.

Leave a Comment