0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Thomas, chemo a fi…

Pan wnaeth Becky drydar bod ei chath Thomas wedi ei helpu drwy ei thriniaeth chemotherapi ar #ddiwrnodcathodybyd, roedd angen canfod mwy. Yma, mae Becky, gafodd ddiagnosis o ganser y colon a’r rhefr gyda lledaeniad metastatig i’w iau yn 2015, yn dweud sut mae cath ddu a gwyn o’r enw Thomas wedi ei helpu drwy gyfnodau anodd:

Dywedasoch fod Thomas wedi eich helpu trwy “sesiynau chemo anodd” Sut gwnaeth Thomas eich helpu chi?

Yn ystod fy nhriniaeth chemo, datblygodd fy ffrindiau a’m teulu rota er mwyn sicrhau bod rhywun gyda fi y rhan fwyaf o’r amser! Mae’r rhan fwyaf o fy ffrindiau’n gweithio sifftiau ac felly nid oedd bob amser yn bosibl i rywun fod gyda mi a dyna’r adegau yr oedd Thomas yn camu i mewn! Ni fyddai’n mynd allan ac roedd bob amser yn ‘cwtsho’ i fyny ataf. Mae ei ffwr mor feddal a chysurus fel tedi bêr a byddai gwres ei gorff yn dileu’r angen am botel dŵr poeth oedd yn helpu i leddfu anesmwythdra’r niwropathi yn fy nwylo a’m traed.

Beth roddodd treulio cymaint o amser gyda Thomas i chi nad yw treulio amser gyda phobl yn gallu ei wneud?

Rwy’n caru fy ffrindiau ac maent wedi bod yn anhygoel yn ystod y daith, ond roedd fy amser gyda Thomas yn heddychlon ac yn dawel. Dim ‘yfa hwn’ ‘bwyta hwn’ ‘paid gwneud hynna’, rwy’n gwybod eu bod yn poeni ac yn teimlo eu bod yn helpu. Roedd ei ganu grwndi’n fy swyno ac yn fy esmwytho ac yn fy helpu i ymlacio. Mae’r ddau ohonom yn hapus yng nghwmni’n gilydd

thomas and his smart new dickie bow

Oherwydd eich canser roedd yn rhaid i chi gael llawdriniaeth ac weithiau roedd yn boenus cael Thomas yn gorwedd arnoch. Ydych chi’n credu iddo sylweddoli bod yn rhaid iddo ymddwyn yn wahanol tra’ch bod yn gwella, neu a oedd rhaid ei atgoffa? Mae Thomas yn gath mor gariadus ac weithiau mae eisiau bod mor agos â phosibl atoch! Felly byddai angen ei atgoffa’n barhaus nad oedd yn gallu gorwedd ar fy stumog ond byddai’n dod o hyd i ran arall ohonof lle gallai orwedd yn gyflym iawn.

A yw Thomas yn ymddwyn yn wahanol tuag atoch chi nawr?

Mae’n siŵr ei fod, fi yw’r unig berson all ei godi a’i gwtsho. Mae’n gorffwys ei bawennau ar fy ysgwydd ac rwy’n ei nyrsio fel babi!!

Thomas wnaeth ddod o hyd i chi? Dywedwch sut y daeth i mewn i’ch bywyd?

Cyn Thomas roedd gennym gath o’r enw LuLu. Roedd yn hen gath sarrug ac nid oedd yn hoffi pobl, ond roeddem yn ei charu’r un peth. Un diwrnod, ymddangosodd Thomas yn ein gardd gefn. Roedd yn edrych fel petai wedi cael gofal felly roeddem yn credu mai pasio heibio ydoedd.

Dros yr wythnosau byddai’n cael ei weld yn yr ardd yn amlach ond byddai LuLu’n aml yn ei erlid! Fe wnaethom ddechrau gadael darnau o fwyd iddo am y byddai’n syllu drwy’r drws cefn yn gwylio LuLu’n bwyta ac roedd yn edrych ar goll braidd. Roedd LuLu’n hen ac yn eiddil ac yn pylu’n ddyddiol. Tristwch mawr oedd gorfod mynd â LuLu at y milfeddyg i’w rhoi i gysgu.

Roedd Thomas yn dal i ymweld â ni yn rheolaidd ac yn y pen draw, fe wnaethom benderfynu y byddem yn rhoi cartref iddo! Mae’n gymaint o gymeriad ac mae ganddo ffordd wych o roi gwybod i ni beth yw ei anghenion, er enghraifft os yw eisiau mynd allan bydd yn neidio o flaen y teledu ac yn eistedd yno nes bod un ohonom yn codi ac yna mae’n ein harwain at y drws cefn! Rwy’n sicr ei fod yn siarad â ni hefyd!!

A’r cwestiwn anodd… mewn tri gair… beth oedd Thomas yn ei olygu i chi / ei roi i chi pan oeddech yn cael eich triniaethau am ganser?

Fe yw FY FFRIND GORAU!

Leave a Comment