0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“Os na wnewch chi rannu’r pethau hyn, wnewch chi ddim canfod y cymorth sy’n ofynnol.” – Stori Matt

Fel rhan o Wythnos Sgwrsio am Ganser rhwng 22 a 28 Ionawr 2018, rydym ni’n rhannu stori ysbrydolgar Matt.  Cafodd Matt ddiagnosis o ganser y ceilliau ym Mehefin 2016, a daeth y cemotherapi i ben yng Ngorffennaf 2017. Yn ystod ei brofiad o ganser, fe wnaeth Matt ganfod fod siarad am ei deimladau yn ei gynorthwyo i gael y cymorth emosiynol roedd arno ei angen.

Effaith emosiynol wedi’r driniaeth

Ni wnes i ddweud wrth neb am hyn oherwydd roeddwn i’n teimlo braidd yn euog – pam ddylwn i ddweud wrth ffrindiau fod canser arnaf i a fy mod i’n profi hyn oherwydd byddai’n faich sylweddol iddyn nhw.  Wrth edrych yn ôl, roedd hynny’n rhywbeth hynod o dwp oherwydd mae’n golygu y byddwch eich hun.

Rwy’n credu fod ychydig wythnosau, ychydig fisoedd wedi mynd heibio, cyn i mi sylweddol beth yw effaith emosiynol popeth roeddwn i wedi’i brofi arnaf i.

Roeddwn i wedi bod yn gweithio ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd ers tro, roedd popeth yn teimlo’n ormodol. Un diwrnod, roeddwn i mewn cyfarfod, a chefais i alwad ffôn gan y meddyg yn gofyn i mi wneud apwyntiad, ac roeddwn i’n meddwl, ‘jiw, beth yw hyn?’. Dim ond archwiliad oedd o ac fe wnes i ddechrau crïo, felly rhoddodd y Meddyg nodyn i mi a chefais i oddeutu 6 wythnos i ffwrdd o’r gwaith.

Wn i ddim pam, ond roeddwn i’n teimlo’n hynod o bryderus am bopeth.  Dywedodd y Meddyg wrthyf i fod hynny’n ymateb hollol arferol i rywbeth mor sylweddol â’r hyn roeddwn i wedi’i brofi.

Rwy’n credu mai bryd hynny y gwnes i sylweddoli fod hynny’n rhywbeth o bwys, a dyna phryd gwnes i ffonio Macmillan.

Macmillan a chymorth arall

Pan wnes i ffonio Macmillan, fe wnaeth y sawl wnaeth siarad â fi holi pryd ces i ddiagnosis, a dywedodd wrth fod hynny wedi digwydd oddeutu 2 neu 3 mis cyn hynny, a dylai popeth fod wedi gorffen erbyn hynny.  Ei ymateb oedd ‘na, pam fyddet ti, pam fyddet ti’n meddwl y dylai rhywbeth fel hyn fod wedi gorffen mor fuan’.

Wyddwn i ddim oherwydd nid oes llyfr canllawiau ar gael sy’n dweud wrthych chi beth yw’r amserlenni a sut ddylech chi fod yn teimlo, felly rydych chi fwy neu lai ar eich pen eich hun yn achos y math hynny o beth a deall eich teimladau.

Roedd y llinell gymorth yn wych, a dweud y gwir. Fe wnaeth yr unigolyn a siaradodd â fi normaleiddio popeth a dywedodd na fydd llawer o bobl yn teimlo’r effeithiau llawn yn syth.

Ac fe wnaeth hynny i mi sylweddoli nad oes dim o’i le ar deimlo’n drist, nid oes angen bod yn arwr, mae’n hollol normal teimlo’n drist iawn am yr hyn sydd wedi digwydd.

Fe wnes i hefyd ganfod grŵp cymorth ar-lein o’r enw Check ‘Em Lads, sef criw o ddynion yn trafod am eu profiad.  Roedd pawb yn cael profiad tebyg ac roedd yn rhyddhad enfawr i mi sylweddoli, yn gyntaf, nad ydwyf i fy hun, ac yn ail, ydy, mae hyn yn normal, ond fydd dynion ddim yn siarad amdano.

Nawr, rwy’n edrych ymlaen at 2018, er fy mod i’n wynebu’r archwiliadau a gynhelir bob tri mis.  Cyn hynny, nid oeddwn i’n edrych ymlaen, nid oeddwn i’n teimlo y gallwn i fyth fod yn hapus eto, ond nawr, rwy’n teimlo cyffro ynghylch 2018, ac er fy mod i’n wynebu’r apwyntiadau hyn yn yr ysbyty, rwyf i wedi cael cwnsela ac rwy’n gwybod sut i drin a thrafod y pryder.



Matt gyda'u partner David
Matt gyda’u partner David



Cyngor Matt i bobl eraill sy’n byw gyda chanser ac wedi hynny

Pe na bawn i wedi siarad â Macmillan neu unrhyw rai o’r gwasanaethau cymorth eraill, ni fyddwn i wedi gwybod fod hyn yn normal.  Os na wnewch chi rannu’r pethau hyn, wnewch chi ddim canfod y cymorth sy’n ofynnol.

Mae’n hollbwysig siarad â rhywun fel Macmillan, ac fe hoffwn i ddweud wrth unrhyw un sy’n profi hyn, cyn gynted ag y byddwch yn canfod fod canser arnoch chi neu byddwch chi amau fod canser arnoch chi, siaradwch â rhywun.

Siaradwch â ffrindiau, perthnasau, eich cyflogwr hyd yn oed, neu siaradwch â Macmillan neu gwnselydd – ond gwnewch hynny’n syth.  Gorau po leiaf byddwch yn ei dreulio yn cnoi cil ynghylch y meddyliau hyn, i sicrhau bydd eich adferiad yn well.

Cyngor Matt i bobl sy’n dymuno cynorthwyo rhywun sy’n byw gyda chanser

Mae canser yn air mor fawr, mae’n gwneud i bobl deimlo’n anghyfforddus wrth siarad amdano, ond nid oes angen teimlo felly, peidiwch â’i ofni.

Pan fydd canser ar rywun, nid yw hynny’n golygu y bydd angen sgwrs diwedd oes.  Mae’n sgwrs sy’n ymwneud â’r presennol; sut ydych chi’n teimlo ar hyn o bryd.

Ac mae hynny’n bwysig iawn; peidio ofni’r dyfodol na bod yn ansicr ynghylch beth i’w ddweud.

Gofynnwch: ‘sut ydych chi’n teimlo nawr?’, ‘sut mae pethau ar hyn o bryd’, ‘sut ydych chi’n teimlo ynghylch beth ydych chi wedi’i glywed’ neu ‘a allaf i wneud rhywbeth, neu a hoffech chi sgwrsio?’”

Mae honno’n sgwrs mor hawdd i’w chael, felly tynnwch y canser ohoni hi. Mae’n unigolyn sydd â theimladau, ac ar hyn o bryd, mae’n debyg ei fod yn dymuno cael rhywun i wrando, felly ewch ati i wrando.