0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Sesiwn holi ac ateb gyda cydlynydd gwasanaethau gwirfoddoli Zoe

Yn rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, roedd arnom eisiau tynnu sylw at waith ein Cydlynwyr Gwasanaethau Gwirfoddoli gwych, Zoe Thomas ar gyfer de Cymru a Rachel Twiss ar gyfer y Gogledd.

Yn y fan yma, mae Zoe yn sôn wrthym am ei gwaith, yr hyn y gallai Rachel a hithau fod yn ei wneud o ddydd i ddydd, a sut maent yn gweithio gyda gwirfoddolwyr.

Beth yw eich swydd gyda Macmillan a beth ydych chi’n ei wneud?

Fi yw’r Cydlynydd Gwasanaethau Gwirfoddoli ar gyfer De Cymru ac ar hyn o bryd rwyf yn canolbwyntio ar Wasanaeth Cyfeillion Cymorth Sir Gaerfyrddin. Rwy’n recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr sydd, yn eu tro, yn cynorthwyo pobl y mae canser yn effeithio arnynt ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ein Cyfeillion gwirfoddol yn rhoi 2/3 awr (yr wythnos) o gymorth ymarferol neu emosiynol i bobl yn eu cartrefi/cymunedau eu hunain e.e. cael paned o de a sgwrs, gwneud rhywfaint o waith tŷ ysgafn, siopa neu roi lifft yn achlysurol i apwyntiadau.

Sut ydych chi’n cynorthwyo gwirfoddolwyr?

Mae ein holl wirfoddolwyr yn cael hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth gan staff Macmillan trwy gydol eu rôl, felly mae yna wastad rywun y gallant gysylltu â hwy a gofyn cwestiynau iddynt. Mae gennym hefyd raglen ddysgu a datblygu er mwyn ehangu gwybodaeth a hyfforddiant gwirfoddolwyr, rydym yn cysylltu â gwahanol wasanaethau a chyrff er mwyn dysgu mwy am yr hyn y gallant ei ddarparu, ac rydym hefyd yn dod â phawb ynghyd fel y gallant gefnogi ei gilydd a chael gwell ymdeimlad o dîm – yn aml bydd hyn yn golygu bwyta cacennau cartref, sydd wastad yn bleser!   😊

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am weithio gyda gwirfoddolwyr?

Dechreuais yn fy swydd ym mis Mai 2017 ac rwyf wedi cwrdd â chynifer o bobl wych yn ystod y cyfnod hwnnw, a phob un ohonynt yn rhoi o’u hamser am ddim i gynorthwyo eraill yn eu cymuned. Mae’n fy ysbrydoli ac yn cynnal fy ffydd mewn caredigrwydd pobl. Gan fy mod wedi siarad â nifer fawr o’n defnyddwyr gwasanaeth (h.y. y rhai yr ydym yn eu cynorthwyo), rwyf hefyd wedi clywed yn uniongyrchol faint mae’n ei olygu iddynt hwy, a chymaint yw eu gwerthfawrogiad o amser a chymorth ein gwirfoddolwyr. Rwy’n gwirfoddoli fy hun i fudiad arall, felly rwy’n deall yr ymrwymiad amser a’r ymroddiad sydd ei angen, ond hefyd y teimlad da a gewch yn sgil helpu pobl eraill.

Beth yw eich hoff beth am weithio i Macmillan?

Y teimlad fy mod i’n rhan o sefydliad sy’n helpu pobl eraill. Fyddaf fi ddim bob amser yn cwrdd â’r bobl sy’n cael eu hatgyfeirio atom, ond gwn fy mod i’n rhan o dîm ehangach sy’n gwneud bywyd fymryn yn haws i bobl sy’n mynd drwy ddiagnosis o ganser, triniaeth ac/neu sy’n ymdopi ag effeithiau hynny ar eu bywyd bob dydd. Gall tasgau ‘syml’ bob dydd fod yn anodd i ymdrin â hwy a gall cael rhywun i dacluso fod yn gysur, a rhoi hwb ichi.

Mae ein cymorth yn golygu bod gan y person ei hun gefnogaeth ond bod eu teulu a’u ffrindiau yn elwa hefyd, gan fod gwybod y bydd gwirfoddolwr yno am ychydig oriau’r wythnos yn gallu bod o gymorth mawr i leddfu straen neu orbryder a rhoi hoe iddynt. Drwyddi draw, mae Macmillan yn gwneud gwaith arbennig i gynorthwyo pobl y mae canser yn effeithio arnynt, boed hynny wyneb yn wyneb neu yn y cefndir, ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r tîm hwnnw.

E&V Team

Hoffech chi ychwanegu rhywbeth?

Os oes gennych rywfaint o amser rhydd yn ystod eich wythnos (2/3 awr) a’ch bod yn meddwl y gallech ei ddefnyddio i gynorthwyo eraill, cysylltwch â’ch Tîm Gwirfoddoli Macmillan lleol. Ceir cyfleoedd i wirfoddoli ledled y DU, a gallwch eu canfod drwy fynd i www.macmillan.org.uk a dewis y dolenni Get Involved neu In My Area ar y brig. Gallwch godi arian, trefnu/mynychu digwyddiadau a chodi hwyl/cefnogi, cyflawni her, dod yn e-ymgyrchydd neu ymuno â ni yn y Tîm Gwasanaethau Gwirfoddoli a rhoi cymorth ymarferol ac/neu emosiynol i rywun yn eich ardal.

Beth fyddai eich neges chi i rywun sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i Macmillan yng Nghymru?

Rhaid imi roi’r gair olaf i un sydd wedi bod yn Gyfaill Gwirfoddolwr i ni ers tro byd, a dyma ei neges: “Os oes gennych awr neu ddwy i’w sbario, gallwch wneud cymaint o wahaniaeth i fywyd rhywun, ond fe gewch syndod hefyd gymaint o fudd a gewch chithau hefyd o’r profiad.”