Rôl bwysig Gofal Sylfaenol mewn gwasanaethau canser
Rwy’n feddyg teulu mewn meddygfa yng Nglynebwy, ac ers ychydig flynyddoedd bellach rwyf wedi bod yn rhan o fentrau sy’n edrych ar rôl gofal sylfaenol mewn gwasanaethau canser. Ddeng mlynedd yn ôl, ni fyddai llawer o bobl yn ystyried bod gofal sylfaenol yn chwarae rhan amlwg mewn gwasanaethau canser, ond mae’r afiechyd wedi newid. Heddiw, mae llawer o bobl sy’n cael diagnosis o ganser yn byw gyda’u hafiechyd fel cyflwr tymor hir, ac mae arnynt angen cefnogaeth yn eu cymunedau.
Yn ogystal â darparu cefnogaeth hirdymor, mae gennym hefyd ran i’w chwarae wrth sicrhau diagnosis cynnar i’n cleifion a gwneud yn siŵr eu bod yn dechrau ar eu cynllun triniaeth cyn gynted â phosibl. Dyna sut gallwn helpu i achub bywydau.
Mae canser yn newid, mae cymdeithas yn newid ac mae’r GIG yn newid. Rydym oll yn ymwybodol o’r pwysau cynyddol sy’n wynebu’r GIG, a chaf fy atgoffa o’r pwysau hynny yn ddyddiol – yn fy meddygfa fy hun, o fewn fy Mwrdd Iechyd yn ehangach a chan benawdau rheolaidd yn y cyfryngau.
Dywed y cyfryngau wrthym ei bod yn argyfwng arnom. Rydym yn cytuno, ac yn dweud wrth ein gilydd ei bod yn argyfwng arnom. Mae ein cleifion yn bryderus oherwydd ei bod yn argyfwng arnom. Ond beth ydym ni’n ei olygu wrth ddweud hyn, a beth ydym ni’n mynd i’w wneud i fynd i’r afael â’r sefyllfa?
Mae argyfwng yn gyfnod hynod o anodd, a bydd angen gwneud penderfyniadau pwysig. Os nad ymdrinnir â’r penderfyniadau hyn yn iawn, gall yr argyfwng droi’n drychineb. Bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn cael effeithiau mawr, hirdymor. Mae arian yn brin felly mae arnom angen canfod ffyrdd gwahanol o ymateb i’n sefyllfa argyfyngus.
Mae athronwyr stoicaidd yn credu bod adfyd yn ein gwneud ni’n fwy doeth. Yn ystod cyfnodau cymharol ffyniannus byddwn yn parhau â’n gwaith, yn gofalu am ein cleifion, yn mynd i’r afael â materion pan fyddant yn codi, gan ddatrys ein problemau a symud ymlaen. Pan fydd pethau’n dda, fyddwn ni ddim yn dewis oedi, edrych o’n cwmpas ac ystyried ffyrdd newydd o ddatrys problemau. Ond pan fydd pwysau arnom, ac nad oes dewis gennym, dyma’n aml yr adeg ar gyfer syniadau newydd, arloesi, momentwm ar y cyd ac awydd i newid.
Rwyf wedi bod yn gweithio gyda thîm o feddygon teulu a nyrsys ar raglen Fframwaith Macmillan ar gyfer Canser mewn Gofal Sylfaenol dros y 12 mis diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi cwrdd â llawer o gyd-weithwyr o’r un meddylfryd â mi ym maes gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, a’r un amcanion sydd gennym oll. Mae arnom eisiau ei gwneud hi’n hynod o glir i’r holl weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau canser i bobl Cymru.
Mae arnom eisiau mynd i’r afael â heriau integreiddio gwasanaethau canser, a chyfathrebu, yn well rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd – heriau sy’n bodoli ers tro byd. Mae’n gwneud synnwyr, mae’n bosibl ei gyflawni ac, o’r hyn a welaf ar hyn o bryd, mae gennym gyfle gwirioneddol yn awr i’w wireddu.
Mae gennym hefyd bolisi i’n cefnogi. Mae Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Cymru 2016 i 2020 yn sôn am bwysigrwydd cefnogaeth ar ôl triniaeth a helpu pobl i deimlo bod ganddynt fwy o gefnogaeth wedi i’w triniaeth acíwt ddod i ben. Mae’n cydnabod rôl bwysig gofal sylfaenol yn darparu’r gefnogaeth hon yn y gymuned a phwysigrwydd sicrhau ein bod oll yn cyfeirio ein cleifion at y rhwydwaith cymorth sydd ar gael yn lleol, boed hynny drwy ein meddygfeydd, drwy grwpiau hunangymorth i gleifion neu drwy gefnogaeth y trydydd sector.
Yn rhan o Fframwaith Macmillan ar gyfer Canser mewn Gofal Sylfaenol, rydym yn dechrau creu Fframwaith o adnoddau canser ar gyfer gofal sylfaenol. Bydd y Fframwaith ar gael ar-lein i’r holl weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a gallwch wneud pa ddefnydd bynnag ohono sy’n ddefnyddiol i chi a’ch meddygfa. Bydd ei gynnwys yn cael ei asesu a’i werthuso gan banel arbenigol ond byddwn yn gofyn ichi’n gyson beth sy’n ddefnyddiol ac nad ydyw o ddefnydd yn eich barn chi. Bydd eich adborth a’ch mewnbwn yn gymorth i lywio’r Fframwaith yn y tymor hir.
Bydd y Fframwaith yn cwmpasu pob agwedd ar wasanaethau canser ac fe’i cynlluniwyd i fod yn adnodd gwerthfawr y gall holl weithwyr proffesiynol maes gofal sylfaenol droi ato am wybodaeth, adnoddau, cyngor neu unrhyw beth arall i’w cynorthwyo i roi’r gwasanaeth canser gorau i’w cleifion. Byddwn yn gweithio arno gyda chi, gan ddilyn eich cyngor ar yr hyn sy’n ddefnyddiol yn eich barn chi, a’r hyn nad ydyw o ddefnydd. Gallwch ymwneud â’r broses drwy amrywiaeth o ddulliau, o gyswllt ar-lein hyd at drefnu cwrdd ag un o’r tîm.
Bydd y Fframwaith yn weithredol yn yr hydref eleni.
Dr Clifford Jones