0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“NID wyf yn arwr”

Mae geiriau’n rymus. Mae ganddynt y pŵer i’n codi, a’r grym i’n rhoi i lawr. Cafodd Gale o Rondda Cynon Taf ddiagnosis o ganser y fron gradd 3 yn 2012. Yn yr ail blog yn ein cyfres am iaith canser, mae Gale yn sôn am yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn ‘arwr’ a ‘goroeswr’.

Gale: Cefais ganser. Yr hyn na chefais, oedd y dewis.

Mae cymaint o’r hyn sydd wedi’i ysgrifennu a’i siarad am ganser yn awgrymu bod dewis i wneud rhywbeth ‘ arwrol ‘ yn wyneb canser. Bod pobl yn gallu dewis ‘ brwydro ‘ er mwyn eu goroesi.

Mewn gwirionedd, ni chynigir y lefel honno o ddewis i neb ohonom. Dydy pobl ddim yn dewis cael canser. Allwn ni ddim dewis ei oroesi neu beidio.

Yn sicr, ni ddewisais fod yn y sedd honno o flaen yr oncolegydd. Ni wnes i gymryd y lle hynni fel arwres.

Credwch chi fi, pe bawn i’n meddwl y byddai wedi gwneud y mymryn lleiaf o wahaniaeth, byddwn wedi bod yn falch o redeg allan o’r fan honno i geisio osgoi fy niagnosis o ganser y fron.

Nid wyf yn ‘ arwr ‘.

P’un a ydych yn byw gyda chanser, neu’n byw y tu hwnt i ganser, nid yw hyn yn frwydr y byddwch yn dewis ei phigo neu ei hosgoi, neu eich bod yn ennill neu’n colli.

Mae’n salwch aflonyddgar iawn ac mae iaith dda fel ‘ arwr ‘ a ‘ goroeswyr ‘ yn gallu creu dioddefwyr ei hun, er na fwriadwyd hynny byth fel canlyniad.

Pan nad ydych yn cael anhawster i godi o’r gwely oherwydd y triniaethau ymledol sydd eu hangen i ‘ guro ‘ canser, gellir gwneud i bobl deimlo eu bod yn methu os na allant gyflwyno wyneb penderfynol neu gadarnhaol i’r byd.

Mae ‘na ddewrder. Llawer o eiliadau unigol ohonom. Weithiau bydd codi’ch pen a chynnig gwên yn fwy o ymdrech nag y gall pobl sylweddoli.

Ac mae angen y geiriau hynny ar rai pobl mewn gwirionedd. Mae angen i rai mynd ati fel brwydr, dim ond megis i barhau a dod drwodd.

Ond mae iaith ‘ dewrder ‘ a ‘ brwydr ‘ yn gorfodi barn am y profiad o gael canser y gall rhai pobl wneud llawer mwy o niwed na da.

Gallai hefyd atal pobl rhag bod yn onest gyda hun a’r bobl o’u hamgylch, a golygu nad ydynt yn chwilio am y cymorth emosiynol neu ymarferol y mae arnynt ei angen

Rydw i’n cael fy nisgrifio fel ‘ goroeswr ‘.

Mae hi’n 6 mlynedd a 4 mis ers i mi eistedd o flaen yr oncolegydd i dderbyn y newyddion fod gen i ganser y fron gradd 3.

Mae’n 5 mlynedd ac 8 mis ers i mi orffen y driniaeth erchyll oedd ei hangen i ffrwydro’r canser o’m corff.

Er bod y gair goroeswr yn gadarnhaol ac yn sicr rwy’n falch o gael fy nosbarthu fel un, mae hefyd yn awgrymu eich bod wedi ‘ ennill ‘ a bod disgwyl i chi ‘ ddychwelyd i normal ‘ yn gyflym.

Dw i wedi colli cyfrif o’r amseroedd dwi ‘di clywed y geiriau “dyna ryddhad mae’n rhaid ei fod bod hyn drosodd”. Pa mor wych fyddai hynny pe bai hynny’n bosibl.

Yr wyf yn oroeswr, ond yr wyf hefyd yn gymaint mwy ar yr un pryd.

Rwy’n rhywun sydd weithiau’n methu’r fenyw yr oeddwn i unwaith.

Y fenyw ag egni diddiwedd nad oedd yn gorfod delio â phoen yn yr esgyrn, y cymalau a’r meinwe ac weithiau blinder cronig.

Y fenyw beidio sydd ddim yn poeni am yr atgofion o’m triniaeth, salwch ac o’r foment fe wnes i godi’r dewrder i ddweud wrth fy mhlant fy mod i’n sâl.

Rwy’n berson cadarnhaol. Ond pan fyddwch wedi mynd trwy glefyd sy’n bygwth bywyd, nid ydych bellach yn siŵr beth yw’r arfer. Mae dy fyd yn newid ac felly wyt ti hefyd.

Er ei fod yn wahanol i bawb, mae’n well o lawer gennyf eiriau clir, syml sy’n normaleiddio canser a’i drin.

Os ydych chi’n nabod rhywun sydd wedi dod allan y pen arall o’i driniaeth, dathlwch ef, ond peidiwch â disgwyl iddyn nhw godi’n sydyn ble maen nhw wedi gadael bant.

Os ydych chi’n nabod rhywun sy’n mynd drwy driniaeth, peidiwch â disgwyl iddynt gynnig gwen bob tro. Fe fydd sawl foment o orfod bod yn ansicr yn ogystal â dewr ar hyd y ffordd.

Fodd bynnag, holwch amdanynt. Gadewch iddyn nhw siarad ac arwain y drafodaeth. Anfonwch y testunau caredig, gwnewch yr alwad, a pharhewch i’w gwahodd am sgwrs, oherwydd pan fydd y driniaeth yn dod i ben, efallai na fydd hi drosodd iddynt hwy.