0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Mentro i’r môr! Lucy yn herio’i hun i nofio mewn dŵr agored er mwyn codi arian i ni

Byddai’r syniad o nofio dros ddwy filltir mewn dŵr agored yn codi ias ar lawer o bobl, ond nid felly y mae hi i Lucy Blayney, sy’n codi arian i Gymorth Canser Macmillan.

Bydd Lucy o Benfro, sy’n 27 oed, yn nofio 2.4 milltir yn Ninbych-y-pysgod ym mis Gorffennaf, yn rhan o Gwrs Hir y Wales Swim, er mwyn codi arian i’r elusen ganser a roddodd gefnogaeth i’w mam-gu pan gafodd ddiagnosis o ganser yr esgyrn ym mis Mai 2017.

Yn drist iawn, bu mam-gu Lucy, Shirley Blayney, farw ym mis Rhagfyr 2017, ond roedd

01 Lucy Blayney
Lucy Blayney

Macmillan wedi cael cymaint o effaith drwy roi cymorth emosiynol ac ymarferol i’r teulu yn ystod triniaeth ei mam-gu am ganser fel bod Lucy wedi addo codi arian i’r elusen fel ffordd o ddweud diolch.

Dechreuodd Lucy ymarfer mewn pyllau nofio dan do ym mis Ionawr, ond gan fod y môr fymryn cynhesach erbyn hyn mae hi bellach yn mentro i’r dŵr agored am y tro cyntaf.

Wrth sôn am ymarfer ar gyfer yr her hon, dywedodd Lucy: “Rydw i wastad wedi caru nofio ac rwy’n gallu nofio’n eithaf cyflym! Dydw i erioed wedi nofio mewn dŵr agored, ond fe dreuliais i’r rhan fwyaf o’m plentyndod ar y traethau lleol ac yn y môr.

“Mae Dinbych-y-pysgod yn fendigedig ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fyw bum milltir i ffwrdd! Dyw’r môr ddim yn codi ofn arnaf fi ac felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at yr her.

“I unrhyw un sy’n ystyried codi arian, byddwn i’n dweud wrthynt beidio â gadael i neb eu tanseilio, ac i ddal ati! Mae’n deimlad gwych pan fydd rhywun yn credu ynoch chi ac yn cyfrannu arian. Dywedodd meddyg wrthyf yn gynharach eleni nad oedd hi’n meddwl y gallai merch o’m maint i wneud y Cwrs Hir. Dim ond maint 16 ydw i! Ac fe ddywedais i wrthyf fi fy hun ei bod hi’n anghywir! Dyw hi ddim yn ymwybodol o’r rhesymau pam rydw i’n benderfynol o gwblhau’r her yma.”

03 Lucy Blayney tshirt and swimming cap

Yn ôl Sue Reece, Rheolwr Codi Arian Macmillan ar gyfer Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion: “Rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar fod Lucy’n rhoi o’i hamser i godi arian i Gymorth Canser Macmillan er mwyn cynorthwyo pobl yng Nghymru y mae canser yn effeithio arnynt. Nid yw hon yn her hawdd o gwbl, ond mae penderfyniad Lucy i’w chwblhau yn amlwg.

“Cafodd mam-gu Lucy, a’i theulu, gymorth gan Macmillan gartref ac yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg. Mae’n holl bwysig i’n cymunedau gwledig fod Macmillan yn gallu bod yno i gynorthwyo pobl sydd â chanser.

“Daw 98 y cant o nawdd Macmillan o gyfraniadau a dim ond oherwydd bod pobl fel Lucy yn rhoi o’u hamser i godi arian i ni y gallwn wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Gall unrhyw un sydd eisiau cefnogi Lucy gyfrannu at ei thudalen Just Giving ar https://www.justgiving.com/fundraising/lucy-blayney1

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i fentro cyflawni eich her eich hun, ewch i wefan Cymorth Canser Macmillan ar www.macmillan.org.uk a chwilio am ddigwyddiadau codi arian.