0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Lansio fideo cymorth haematoleg

Yn cynnwys nyrsys haematoleg o wahanol fyrddau iechyd yng Nghymru, ac wedi’i ariannu gan Rwydwaith Canser Cymru, mae’r fideo’n cynnig awgrymiadau ac arwyddion clir i helpu pobl sy’n byw gyda chanserau haematoleg.

Mae fideo cymorth haematoleg sy’n manylu ar y cymorth emosiynol, ariannol ac ymarferol i gleifion wedi cael ei lansio.

Gofynnwyd i Charlotte Bloodworth, Ymarferydd Nyrsio Uwch, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddweud ychydig mwy wrthym am yr adnodd defnyddiol iawn hwn y gellir ei weld ar YouTube drwy god QR.

O ble daeth y syniad ar gyfer y fideo, a beth yw prif uchelgais y fideo?

Mae cyfoeth o wasanaethau cymorth i bobl â chanserau haematoleg yng Nghymru ac fel grŵp bach, ond brwdfrydig iawn o nyrsys arbenigol haematoleg, roeddem yn teimlo bod yr amser yn iawn i ddiweddaru’r ffordd rydyn ni’n rhoi gwybod i bobl am y gwasanaethau hyn.

Cawsom y syniad o greu fideo YouTube sy’n hygyrch drwy god QR. Fel hyn gall pobl gael gafael ar wybodaeth a argymhellir ar eu ffonau symudol/tabledi yn eu cartref eu hunain yn hytrach na defnyddio ein dulliau traddodiadol o daflenni a phosteri. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn hen a chafodd y rhan fwyaf ohonynt eu tynnu i lawr yn ystod y pandemig diweddar er mwyn rheoli haint!

Ein huchelgais oedd creu mynediad cyfartal at wybodaeth am wasanaethau cymorth haematoleg ar draws yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru, gan hyrwyddo’r gwasanaethau a oedd, o’n profiad cyfunol o dros 80 mlynedd a mwy, yn fwyaf defnyddiol.

Y tu ôl i’r llenni, fe wnaethom gynnwys nyrsys arbenigol haematoleg o bob bwrdd iechyd yng Nghymru a chynnwys yr holl adborth yn y fideo fel y byddai’r canlyniadau’n ddefnyddiol i bawb.

Er ein bod yn argymell nifer o elusennau cenedlaethol, roeddem yn arbennig o awyddus i dynnu sylw at yr hyn mae pob un ohonynt yn ei gynnig i bobl yng Nghymru. Mae’r fideo wedi’i anelu at bobl yng Nghymru sy’n cael diagnosis o ganser haematoleg neu’n byw gyda chanser haematoleg ond gwelsom ei fod hefyd yn ddefnyddiol iawn i staff sy’n newydd i’r ardal hefyd.

Ble bydd pobl yn gweld y fideo?

Gan ei fod ar gael drwy god QR, gall pobl weld y fideo lle bynnag maen nhw am wneud hynny, yn yr ysbyty tra byddant yn cael triniaeth neu gartref. Rydym wedi darparu taflen i bobl fynd â nhw adref gyda nhw os oedden nhw am gael hynny gyda’r cod arno, os nad ydynt yn dechnolegol iawn neu os ydynt am gynnwys ffrindiau neu deulu.

I’r ychydig bobl nad oes ganddynt fynediad i ffôn symudol, gellir dangos y fideo ar unrhyw dabled/cyfrifiadur ysbyty sydd â mynediad i’r rhyngrwyd.

Mae’r fideo yn ffynhonnell wych o gyngor gydag awgrymiadau allweddol, pa adborth ydych chi’n ei gael gan gleifion a’u teuluoedd?

Fel rhan o’n prosiect, fe wnaethom dreialu’r fersiwn drafft ar gleifion a staff mewn gwahanol fyrddau iechyd a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan bawb. Ein hunig adborth negyddol oedd gennym ni ein hunain gan nad ydym wedi arfer bod o flaen camerâu!

Beth yw’r pum awgrym gorau?

Awgrym 1 – Defnyddiwch yr elusennau haematoleg yn ogystal ag elusennau canser mwy cyffredinol.

Lymphoma Action Charity

Myeloma UK

Leukaemia Care

Blood Cancer UK

Cancer Research UK

Myelosdysplasia Support Group

Waldenstrom’s Macmrobulineaemia

Awgrym 2 – Derbyniwch gyngor ariannol  

Macmillan Cancer Support

Citizen’s Advice

Tenovus Cancer Care

Shine Cancer Support

Teenage Cancer Trust

Anthony Nolan Trust

Awgrym 3 Darganfyddwch pa gymorth emosiynol sydd ar gael i chi.

Awgrym 4 Gwnewch yn siŵr bod eich pryderon eich hun yn cael eu hasesu ac yn cael eu datrys.

Awgrym 5 Defnyddiwch eich gweithiwr allweddol, nyrs glinigol arbenigol neu nyrs cemo ar gyfer unrhyw awgrymiadau unigol ychwanegol.

Sut brofiad oedd y ffilmio?

Cawsom brofiad cyffrous iawn yn ffilmio ac roeddem mor ffodus o allu ffilmio mewn lleoliad mor hardd ac eiconig â Gerddi Botanegol Cymru yng Nghaerfyrddin. Ar y fideo, gallwch glywed yr adar yn y tŷ gwydr mawr yn canu yn y cefndir. Mae’n edrych yn broffesiynol iawn ond mae hynny i lawr i’n criw ffilmio gwych o dan arweiniad Nathen Edwards, a gafodd dasg galed yn ceisio cyfarwyddo pob un ohonom tra hefyd yn ceisio peidio â ffilmio ymwelwyr yr ardd a oedd weithiau’n crwydro ar draws y set.

Pwy helpodd i wneud y fideo?

  • Phillipa Krelle Gweithiwr Cymorth Haematoleg Macmillan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Eirian Gravell, Nyrs Haematoleg Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tracey Thomas Nyrs Glinigol Haematoleg Arbenigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Alison Pugh Nyrs Arbenigol Haematoleg Macmillan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Charlotte Bloodworth Ymarferydd Nyrsio Uwch mewn Haematoleg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • A Rebecca Bowen Arbenigwr Nyrsio Clinigol Lymffoma, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a helpodd ar ein fersiwn Gymraeg

A oes unrhyw gynlluniau ar gyfer fideos pellach?

Dim ond 10 munud o hyd yw’r fideo felly roedd yn rhaid i ni fod yn benodol iawn o ran yr hyn roedden ni’n ei gynnwys, mae cymaint ar gael i gefnogi cleifion yng Nghymru y gallem fod wedi gwneud cyfres gyfan!