0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Mae Gweithwyr Allweddol yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad cleifion

Eglura Jane Cox, Nyrs Glinigol Arbenigol Macmillan ar gyfer oncoleg pen a gwddf yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd fanteision emosiynol ac ymarferol rôl Nyrs Glinigol Arbenigol. 

Mae effaith diagnosis canser y pen a’r gwddf yn ddirdynnol, yn llethol ac yn frawychus. Yn aml mae nifer o apwyntiadau a gwneir llawer o archwiliadau cyn cynllunio’r driniaeth a dechrau arni. Gall hon fod yn adeg ddryslyd iawn a gall cleifion a’u teuluoedd deimlo ar goll ac wedi’u hynysu.

Mae ar gleifion angen rhywun a all eu tywys drwy’r wybodaeth gymhleth a’r apwyntiadau. Wyneb cyfarwydd cyfeillgar i gydio yn eu llaw, i roi cwtsh iddyn nhw ac i wrando ar y pryderon sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r nyrs glinigol arbenigol mewn lle da i gynorthwyo cleifion a theuluoedd ar yr adeg anodd hon.

Mae’r nyrs glinigol arbenigol yn bwynt cysywllt, mae’n bresennol mewn apwyntiadau clinig, mae’n gwneud yr asesiad cyfannol, yn rhoi gwybodaeth ac yn cyfeirio at asiantaethau cymorth eraill.Mae Macmillan yn gwybod y gall nyrs glinigol arbenigol wneud gwahaniaeth enfawr i brofiad cleifion o ofal canser. Gallant ymateb i anghenion cleifion a chynorthwyo cleifion i reoli eu sgil effeithiau, yn aml fel nad oes rhaid iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty (NCAT 2010).

Yn 2010 teimlai Gweinidog Iechyd Cymru bod diffyg cyswllt parhaus ag arbenigwyr yn broblem allweddol i  gleifion canser (Hart 2010) a chynigiodd erbyn diwedd mis Mawrth 2011 y dylai byrddau iechyd lleol sicrhau bod gan bob claf canser weithiwr allweddol wedi’i bennu adeg y diagnosis. Dylai’r gweithiwr fod y gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol mwyaf priodol i’r claf. Mewn egwyddor gall y gweithiwr allweddol newid ar adegau ar hyd y llwybr triniaeth (LlC 2011). Yn ymarferol mae llawer o safleoedd tiwmor yn pennu rôl y gweithiwr allweddol adeg y diagnosis i’r nyrs glinigol arbenigol.

RS12695__C2A4174-hpr

Gwaetha’r modd nid yw pob claf canser yng Nghymru’n cael cymorth nyrs glinigol arbenigol. Mae’r dystiolaeth yn dangos pa mor hanfodol yw gwasanaeth y nyrs, ni ddylai fod claf na chaiff fynediad i’r budd cadarnhaol y gall cymorth nyrs glinigol arbenigol ei roi i gleifion a’u teuluoedd.

Yn yr arolwg o brofiad cleifion canser Cymru 2014, 66% yn unig o’r cleifion yn yr arolwg a ddywedodd fod ganddynt weithiwr allweddol. Roedd y rhai oedd â nyrs glinigol arbenigol neu weithiwr allweddol yn fwy cadarnhaol am eu gofal (Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru 2014).

Mae tîm amlddisgyblaethol yn gofalu am bob claf sydd wedi cael diagnosis canser y pen a’r gwddf.  Mae nyrsys clinigol arbenigol yn cael eu hystyried yn aelodau craidd o’r tîm ac maent yn ymwneud â gofal y claf o adeg y diagnosis, drwy’r driniaeth ac yn parhau i gynorthwyo cleifion sydd wedi goroesi.

Gall canser y pen a’r gwddf gael ei drin â llawdriniaeth neu gyda chemotherapi neu radiotherapi. Weithiau defnyddir cyfuniad o driniaeth. Gall y driniaeth a’r sgil effeithiau gael effaith fawr ar swyddogaethau’r corff fel llyncu a siarad, gallant newid pryd a gwedd, achosi trallod seicolegol, straen ariannol a newid bywyd y claf a’r teulu.

Dylid cydnabod mai’r nyrs glinigol arbenigol yw’r aelod mwyaf addas o’r tîm amlddisgyblaethol i gael ei bennu fel y gweithiwr allweddol a enwir. Maen nhw eisoes yn gweithio yn y rôl hon yn cynorthwyo cleifion i ymdopi a dod drwyddi yn ystod y driniaeth; ac maent mewn lle da i barhau gyda’r gwaith hwnnw, gan helpu cleifion i wella o’r driniaeth ac i addasu i’w bywyd fel goroeswr.