Grym y stori
Nyrs Glinigol Arbenigol Macmillan mewn Canser yr Ysgyfaint yw Carol Davies sy’n gweithio yn ysbyty Nevill Hall, y Fenni. Yn 2015 llwyddodd i gyflwyno cais, a gafodd ei dderbyn, i roi cyflwyniad gerbron Cynhadledd Canser yr Ysgyfaint y Byd yn Denver, Colorado. Adroddodd cyflwyniad lluniau Carol hanes ei chlaf, Norman, a’r baich corfforol a seicolegol roedd canser wedi’i roi ar fywyd Norman a’i deulu. Adroddodd Carol stori Norman mewn ffordd rymus iawn – gan wneud i hyd yn oed y gweithwyr proffesiynol mwyaf calongadarn orfod dal eu dagrau yn ôl.
Beth yw nodau eich rôl bresennol?
Rwy’n cefnogi cleifion canser yr ysgyfaint a mesothelioma o’r adeg maen nhw’n ymddangos i’r gwasanaeth iechyd gyntaf a thrwy gydol eu clefyd.
Beth sbardunodd chi i gyflwyno peth o’ch gwaith i Gynhadledd Canser yr Ysgyfaint y Byd a sut gyrhaeddoch chi Colorado?
Y llynedd, penderfynais gyflwyno dau ddarn o waith a fyddai, yn fy nhyb i, yn ddefnyddiol i gydweithwyr canser yr ysgyfaint o amgylch y byd, a hynny i ymddangos gerbron 16eg Gynhadledd y Byd ar Ganser yr Ysgyfaint yn Denver, Unol Daleithiau America.
Roeddwn yn teimlo y byddai hyn yn ffordd o rannu dysgu gyda chydweithwyr rhyngwladol. Roedd hefyd yn gyfle gwych i arddangos y gwaith rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru.
Dywedwch fwy wrthyn ni am y ddau ddarn yma o waith
Ces i gyfle i gymryd rhan yn y cyfweliad a’r fideo i adrodd hanes claf drwy eu llygaid nhw yn unig. Mae fy nghydweithwraig Naomi a finnau’n nyrsys Macmillan; felly holon ni Macmillan am gyngor ynghylch sut i fynd ati i wneud y fideo.
Trefnais i gwrdd â Norman a’i wraig, Lynne, i glywed beth oedd yn bwysig iddo fe a beth roedd e am ei ddweud cyn i ni wneud y fideo ei hun.
Roedd gan Norman rai mewnwelediadau grymus iawn ac roedd ganddo bwyntiau penodol roedd e am eu cyfleu; roedd yn gwybod yn union beth oedd ganddo i’w ddweud.
Yr hyn a ddywedodd Norman yn ystod y cyfweliad oedd union ei safbwynt ef am yr hyn oedd wedi digwydd a sut roedd wedi effeithio arno fe. Roedd yn sobreiddiol iawn, yn arbennig am fod Norman wedi dechrau ei stori gyda’r geiriau: “Helo, Norman yw i. Rwy’n ddyn ifanc 68 oed ac rwy’n marw o fesothelioma.”
Soniodd am ei sioc wrth gael ei ddiagnosis a’i ddicter. Drwy ei waith fel peiriannwr, a oedd wedi golygu ei amlygu i asbestos, yr oedd wedi datblygu mesothelioma.
Roedd Norman yn teimlo bod oedi wedi bod yn ei ddiagnosis a bod cyfleoedd wedi’u colli. Pwysleisiodd y dylid gofyn i gleifion y tro cyntaf maen nhw’n ymddangos i’r meddyg am amlygiad i asbestos.
Soniodd am ei ddymuniad i ymuno â grŵp cymorth ond doedd dim un yng Nghymru yn benodol ar gyfer ei glefyd ef. Roedd Norman yn deall pam; oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wella’r math hwn o ganser ac nid yw’r rhan fwyaf o gleifion yn goroesi’n hir.
Disgrifiodd yn huawdl iawn faich corfforol a seicolegol y clefyd hwn a’r effaith roedd yn ei chael ar ei fywyd ef a bywyd ei deulu.
Mae’r fideo wedi’i ddefnyddio fel teclyn addysgol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd.
Taflen ar ddiffyg anadl i gleifion oedd yr ail ddarn o waith. Ysbrydolwyd hyn gan ein cleifion canser yr ysgyfaint, a oedd yn dweud bod llawer o wybodaeth am y symptom hwn. Y broblem a nodwyd ganddyn nhw oedd eu bod yn teimlo nad oedden nhw’n gallu palu drwyddi; gofynnon nhw am rywbeth symlach i’w helpu i ymdopi gyda’r symptom cymhleth hwn.
Beth ddigwyddodd ar ôl i chi gyflwyno’r ddau ddarn?
Derbyniwyd y poster ar ddiffyg anadl. Er mawr syndod a sioc i mi i ddechrau, derbyniwyd stori’r claf fel testun cyflwyniad poster llafar.
I ddechrau, roeddwn i’n meddwl, “Alla i ddim gwneud hyn!” Ond wedyn meddyliais am Norman – dyma oedd ei waddol, ac roedd yn stori oedd yn haeddu cael ei chlywed.
Roedd y ffaith mai stori Norman oedd hi wedi fy helpu’n fawr iawn wrth baratoi’r cyflwyniad. Treuliais gryn amser yn meddwl am y ffordd gallwn wneud cyfiawnder â’r stori.
Penderfynais i ddefnyddio cyflwyniad gyda llawer o luniau i’m helpu i gyfleu pwyntiau allweddol Norman a’u hategu ar lafar gyda’i eiriau ef ei hun.
Sut aeth y cyflwyniad a beth ddysgon nhw, ydych chi’n meddwl?
Aeth y cyflwyniad yn dda a chafwyd ymateb da iddo fe. Bu’n rhaid i mi anfon copi o’r cyflwyniad cyn y gynhadledd a’r adborth ymlaen llaw oedd bod fy sleidiau’n canolbwyntio i raddau helaeth ar y lluniau.
Fodd bynnag, pan draddodais y cyflwyniad, cafodd effaith bwerus.
Defnyddiais lun o Siôn Corn i esbonio yng ngeiriau Norman pam y penderfynodd ohirio’i gemotherapi yn y mis Rhagfyr. Roedd yn sylweddoli ei bod yn bur debyg mai hwn fyddai ei Nadolig olaf; os dyna oedd y gwir amdani, roedd am ei fwynhau.
Dywedodd ei fod yn deall sut deimlad oedd hi i wynebu rhes yr angau, am fod ganddo ef ddedfryd farwolaeth yn hongian drosto a’i fod yn byw’r ddedfryd honno… yna byddai wedi diflannu.
Dywedwyd wrthyf i gan gydweithiwr sy’n nyrs arbenigol canser yr ysgyfaint fod gweithwyr proffesiynol calongadarn yn y gynulleidfa’n dal eu dagrau yn ôl yn ystod y cyflwyniad.
Ces i adborth arall a oedd yn gadarnhaol iawn hefyd ynghylch pa mor rymus a chynhyrfus oedd y cyflwyniad. Rwy’n gwybod mor falch fyddai Norman fod ei stori wedi’i hadrodd.
Mae adrodd hanes claf yn declyn pwerus iawn ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ddysgu drwy ei wneud. Mae angen i weithwyr proffesiynol gofal iechyd glywed beth yw profiad cleifion o’r llwybr canser, a’r effaith mae hynny’n ei chael ar eu bywydau, fel y gallwn wneud y gorau o’u gofal.
Yn Macmillan, rydyn ni’n gwybod y gall diagnosis canser effeithio ar bob rhan o’ch bywyd ac rydyn ni yma i roi cymorth ichi. Fe rown ni help ichi gael y cymorth, yr egni a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch chi, fel y gallwch chi ddechrau teimlo fel chi eich hun unwaith eto. Ffoniwch 0808 808 00 00 neu ymweld â macmillan.org.uk