Gall iechyd a gofal cymdeithasol byth integreiddio?
Mae hwn yn draws bost gan Meddwl. Gwella. Newid. Blog gan dîm Cymorth Canser Macmillan o ymchwilwyr, dadansoddwyr polisi ac arbenigwyr materion cyhoeddus.
Greg Pycroft ar yr Adolygiad Seneddol a’r hyn yr ydym eisiau ei weld ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan y chwyddwydr yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd Iechyd Cymru ym mis Tachwedd y llynedd y bydd yn comisiynu adolygiad pellgyrhaeddol .
Yn galw am gefnogaeth ar draws y pleidiau, gofynnwyd i’r Adolygiad Seneddol gynghori ynghylch sut i gyflawni newid a datblygu’r elfennau gorau o’r system bresennol. Disgwylir i’r Panel Adolygu osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a chreu ateb – sy’n ymddangos yn amhosibl – ar gyfer gwaith iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd mwy integredig.
Disgwylir i’w ganfyddiadau ddylanwadu ar gywair, ffurf a chynnwys polisi a deddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol Cymru am weddill y pumed tymor hwn o’r Cynulliad, ac ymhell i’r dyfodol.
Mae gan yr Adolygiad ychydig dros flwyddyn i ymchwilio ac adrodd yn ôl i Aelodau’r Cynulliad. Disgwylir adroddiad interim yr haf hwn a dylem weld yr adroddiad terfynol tuag at ddiwedd 2017/dechrau 2018. Yr arwyddion cynnar yw bod y panel Adolygu, yn iawn felly, yn canolbwyntio ar feysydd heriol ac rydym yn croesi ein bysedd y gellir gweithio gyda’r argymhellion er mwyn dwyn y gwelliannau yn eu blaen o ran y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu cyflwyno yng Nghymru.
Mae hwn yn gyfle gwych i ni yn Macmillan i amlygu prif feysydd ein hymgyrch a galw ar yr Adolygiad i sicrhau bod gofal sy’n canolbwyntio ar y person yn cael ei wneud yn flaenllaw ac yn ganolog i’r argymhellion ar gyfer y dyfodol. Er bod y themâu hyn yn adlewyrchu ein mewnwelediad ar wasanaethau canser, maent yn gyffredinol i gyflyrau eraill.
Wrth ymateb i’r alwad am dystiolaeth gwahoddwyd rhanddeiliaid i ymateb i un ar ddeg o gwestiynau. Fe wnaethom barhau i ganolbwyntio ar gyflwyno gofal sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwella bywydau pobl sy’n byw gyda chanser.
Ynghyd â materion hanfodol cydlynu gofal a’r effaith y mae canser yn ei gael ar gyllid, fe wnaethom ganolbwyntio ar stori newidiol canser a rôl hanfodol gweithlu proffesiynol canser yn gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl â chanser.
Cawsom wahoddiad hefyd i siarad ag aelodau’r panel Adolygu a gofynnwyd i ni am ein barn ynghylch y ffordd orau o ddarparu gwybodaeth am ganser a sut y gallai technoleg wella’r profiad hwn i gleifion i’w galluogi i deimlo mwy o reolaeth dros eu gofal eu hunain.
Fe wnaethant hefyd fynegi diddordeb yn dysgu o arfer gorau a sut y gallai hyn ledaenu i ymagwedd Unwaith i Gymru. Cafodd ein ffocws ar ailddylunio gwasanaethau ei groesawu a gofynnwyd i ni ehangu rhywfaint ar waith rhaglen arloesol Macmillan sy’n cael ei gyflwyno ar draws y DU.
Wrth i’r gwaith ffurfiol o gasglu tystiolaeth ddod i ben, mae’r Adolygiad yn symud i gyfnod ymgynghori ac rydym yn disgwyl adroddiad interim ym mis Gorffennaf. Rhagwelir y bydd yr adroddiad terfynol yn cyrraedd ym mis Rhagfyr, ac rydym yn gobeithio bydd yr achos yn cael ei gyflwyno dros ddiwygio sylweddol dros y degawd nesaf o ran y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym eisiau gweld argymhellion y gellir eu gweithredu’n gyflym; arweinyddiaeth a newid gwirioneddol er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyflwyno gofal sy’n canolbwyntio ar y person ar gyfer pobl â chanser sydd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Fodd bynnag, mae elfen o rybudd yn ein brwdfrydedd; mae gennym brofiad yng Nghymru o adolygiadau graddfa fawr tebyg – er enghraifft, adolygiad Comisiwn Williams o wasanaethau cyhoeddus – gafodd ei adael ar y silff ar ôl bod yn destun dadlau rhwng y pleidiau gwleidyddol. Mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dibynnu ar gefnogaeth ar draws y pleidiau o ran cynnal newid a bod yr achos dros newid yn ddigon cadarn i ganiatáu i ddiwygio ystyrlon ddechrau pan fydd yr Adolygiad yn cyhoeddi ei argymhellion terfynol.
Mwy i ddilyn.