0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Fy more coffi er cof am fy ffrind anhygoel Beverley fydd yr un mwyaf hyd yn hyn

Daeth Beverley a fi’n ffrindiau tua 25 mlynedd yn ôl, pan oedden ni’n gweithio gyda’n gilydd fel bydwragedd yn yr ysbyty lleol.

Fe rannon ni lawer o brofiadau geni gyda’n gilydd, ac roedd y ddwy ohonom yn ymhyfrydu mewn cael chwarae rhan mor freintiedig yn y gymuned, gan rannu adegau hapusaf cynifer o deuluoedd, er ein bod yn rhan o’u hadegau tristaf ar brydiau hefyd.

Yn  2009, cafodd Beverley ddiagnosis o ganser yr ofari, ac yn ystod ei thriniaeth cefais innau hefyd ddiagnosis o ganser: melanoma malaen.

Wrth inni’n dwy wella, buon ni’n ystyried y ffaith ein bod ill dwy wedi goroesi llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi, a phenderfynon ni fod angen inni ddangos i’n teulu, ein ffrindiau a’n cyd-weithwyr ein bod ni’n dwy’n oroeswyr.

Pa ffordd well na chynnal parti ar ffurf Bore Coffi Macmillan? A chodi arian i achos teilwng yr un pryd! Fe wnaeth fy chwaer, Rhian, ymuno â ni, ac fe gynhalion ni ein digwyddiad cyntaf yn 2010.

Dim ond un Bore Coffi Macmillan arall oedd yna yn ein tref ni, Porth-cawl, y flwyddyn honno.

Y bwriad oedd cynnal y Bore Coffi yn fy nhŷ i, ac fe benderfynon ni gael polisi ‘drws agored’. Fe ddechreuon ni’n gynnar er mwyn dal y mamau a’r tadau oedd yn mynd â’u plant i’r ysgol, a dal ati drwy’r dydd, gan orffen am 6:30 pm!

Fe wnaeth busnesau lleol ein cefnogi ni drwy roi gwobrau raffl, a bu ffrind arall yn cynnal sesiynau adweitheg yn un o’r ystafelloedd byw – a’r cyfan yn codi arian i Macmillan.

Roedd Beverley yn un dda am wneud bara brith, teisen lap a chacennau traddodiadol eraill, yn ogystal â theisennau sbwnj a theisennau bach. Bu fy chwaer Rhian yn gwneud teisennau bach o bob math a phob blas, ac fe gedwais innau at deisennau sbwnj traddodiadol, sgons a theisennau cri. Roedden ni’n pobi trwy’r dydd, gan olygu bod y tŷ yn llawn arogl bendigedig i annog pobl i brynu.

Roedd yna gryn gystadleuaeth rhwng Rhian a minnau fel dwy chwaer, yn union fel y Bake Off, wedi imi ddigwydd crybwyll mai fy nghacennau i werthodd gyflymaf (doedd hynny ddim yn wir, wrth gwrs, ond fi yw babi’r teulu felly rwy’n beio’r ffordd o feddwl a ddaw yn sgil hynny), ac o ganlyniad mae ein Boreau Coffi Macmillan wedi datblygu’n llwyfan ar gyfer sgiliau pobi blasus a difyr Rhian.

image 04
Beverley Poulton

Roedd Beverley, Rhian a minnau’n gweithio’n dda fel tîm, a phob Bore Coffi Macmillan yn codi mwy o arian na’r un diwethaf. Fe lwyddodd y gorau erioed i godi bron i £1,500 ! 😳.

Yn anffodus, dychwelodd canser yr ofari Beverly sawl gwaith, mewn gwahanol rannau o’i chorff. Yn sgil ei chadernid, ei ffordd bositif o feddwl a’i hangerdd at fywyd, fe ddangosodd hi inni gyd sut y gall rhywun fyw gyda chanser. Roedd Beverly bob amser yn hapus ac yn frwd ynghylch pobl eraill, wastad yn gwenu a wastad yn trefnu!

image 03
Rhai o’r teisennau godidog

Roedd Bev yn byw mewn tŷ yn llawn dynion: ei gŵr Neil, a’i meibion Tom, James a Jack, ac roedd hi wrth ei bodd yn croesawu cenhedlaeth nesaf y teulu wrth i Tom briodi ei gariad Siona yn gynharach eleni, a hwythau hefyd wedi rhoi dau o wyrion, Archie ac Aurelia, iddi.

Wnaethon ni ddim cynnal Bore Coffi y llynedd, gan nad oedd Beverley’n teimlo’n arbennig o dda bryd hynny. Ond wnaeth hynny ddim atal pobl rhag galw draw am ddarn o deisen, er nad oedd dim gennym i’w roi! Roedden nhw wedi dod i arfer cymaint â’n partïon blynyddol.

Bu farw Beverley ar 25 Gorffennaf eleni, yn ddim ond 51 oed. Bydd hi’n byw am byth yng nghalonnau pawb oedd yn ei hadnabod ac a gyfarfu â hi.

Ein Bore Coffi Macmillan eleni fydd yr olaf. Dydw i na’r tîm (do, rydyn ni wedi ehangu er mwyn gallu cwrdd â’r galw) ddim yn teimlo y gallwn ddal ati heb Bev.

Ond rydyn ni am wneud yn siŵr mai hwn fydd EIN BORE COFFI MACMILLAN MWYAF A GORAU ERIOED!!

GADEWCH INNI WNEUD BEVERLEY YN FALCH OHONOM 😁

Beverley Ann Poulton

1966- 2018 ❤️

image 01

Os hoffech wybod ymhle yn eich ardal chi y mae Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan yn cael ei gynnal, edrychwch ar y map rhyngweithiol ar ein gwefan.