0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Ydych chi’n hoffi sialens ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy’n byw gyda chanser yn ardal Wrecsam?

Mae Gwasanaeth Cyfeillio Cymorth Macmillan Wrecsam newydd ddathlu ei ben-blwydd cyntaf ac mae nawr yn chwilio am rywun i ddod ymlaen ac ymgymryd â rôl gyffrous y Prif Wirfoddolwr gyda’r elusen.

Mae’r gwasanaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr, sef y cyntaf o’i fath ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Ngogledd Cymru, yn rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol (fel gwaith tŷ, siopa a garddio) i bobl sy’n byw gyda chanser neu’r rhai hynny sy’n gofalu am rywun â chanser.

Yn ei flwyddyn gyntaf, mae 11 o bobl wedi’i recriwtio a’u hyfforddi fel Cyfaill Cymorth ar gyfer yr elusen ac mae’r elusen nawr yn gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â rôl y Prif Wirfoddolwr.

Mae pob Cyfaill hyfforddedig yn cael ei baru gyda pherson â chanser sy’n byw yn ardal Wrecsam, ac yn ymweld â nhw’n wythnosol.

Bydd y person dan sylw angen sgiliau trefnu a chyfathrebu gwych i gydlynu’r tîm Cyfeillio. Yn gyfnewid, bydd y prif wirfoddolwr llwyddiannus yn datblygu sgiliau newydd a sgiliau sydd ganddo eisoes, yn cyfarfod pobl newydd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n byw gyda chanser.  Am ragor o fanylion ewch ar ein gwefan https://volunteering.macmillan.org.uk

Blwyddyn wedi dechrau’r gwasanaeth, ac mae gwirfoddolwyr wedi bod yn rhannu eu b1arn ar yr effaith mae bod yn Gyfaill Macmillan wedi’i gael ar eu bywydau.

Gan adlewyrchu ar ei phrofiad o wirfoddoli, dywedodd Marian Stewart: “Rwyf yn cael

boddhad yn fy rôl am fy mod yn gallu helpu eraill a bod yno iddyn nhw tra maen nhw’n byw gyda chanser.

“Mae’n brofiad mor werthfawr, er yn drist ac yn emosiynol ar adegau.  Mae fel reid, ond yn werth pob cam’

Dywedodd Cyfaill Wrecsam, Wayne Phillips: ‘Rwyf yn mwynhau gallu helpu a threulio amser gyda fy nefnyddiwr gwasanaeth. Rwyf hefyd yn teimlo ei fod yn helpu gyda fy nhaith bersonol i.

“Rwyf yn synnu faint mae bod yn Gyfaill Macmillan wedi helpu fy hyder fy hun tra’r wyf wedi bod yn cefnogi person sy’n byw gyda chanser.

“Gall ychydig bach o amser, taith gerdded fach yn y parc efallai, wneud gwahaniaeth enfawr.”

Mae’r gwleidyddion lleol, Lesley Griffiths AC ac Ian Lucas AS a fynychodd lansiad y gwasanaeth wedi parhau i gefnogi dyhead Cyfeillion Cymorth Wrecsam Macmillan.

Dywedodd Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad Wrecsam: “Mae llawer ohonom wedi cael ein heffeithio gan ganser mewn rhyw ffordd.  Mae ei effaith ar fywydau pobl yn ddifrifol ac yn bellgyrhaeddol ond mae cynllun gwirfoddolwyr Macmillan yn ceisio sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu’r clefyd ar eu pen eu hunain.

“Mae’r gwirfoddolwyr yn haeddu clod aruthrol gan fod y cymorth ymarferol ac emosiynol maen nhw’n ei gynnig i’r rhai mewn angen yn cael effaith gadarnhaol ar draws Wrecsam.

“Mae cynllun gwirfoddolwyr Macmillan wedi cael llwyddiant mawr yn ystod ei flwyddyn gyntaf, a hir oes iddo.”

Dywedodd Ian Lucas, AS Wrecsam: “Rwyf yn ddiolchgar iawn i Macmillan am arwain y ffordd gyda’u cynllun gwirfoddolwyr yn Wrecsam a hoffwn eu llongyfarch ar eu pen-blwydd cyntaf.  Gall byw gyda chanser fod yn beth cymhleth ac anodd. Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan sicrhau nad yw pobl yn wynebu’r clefyd ar eu pen eu hunain.”

Wrth siarad am y gwasanaeth gan Macmillan, dywedodd Katy Jones, Cydlynydd Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Macmillan yng Ngogledd Cymru: “Mae’n wych gweld yr effaith mae’r gwasanaeth Cyfeillio yn ei gael, nid yn unig ar bobl sy’n elwa ar ein gwasanaeth, ond hefyd ar ein gwirfoddolwyr. Maen nhw wedi bod yn anhygoel!

“Mae bod yn Gyfaill Cymorth yn bendant yn werth chweil, ond gall hefyd fod yn heriol, a dyna pam y gwnaethom ganolbwyntio ar greu gwasanaeth sy’n cefnogi ac yn hyfforddi ein gwirfoddolwyr. Credaf fod y dull hwn wedi bod yn allweddol i greu gwasanaeth cynaliadwy, dan arweiniad gwirfoddolwyr.

“Mae rôl y Prif Wirfoddolwr newydd yn bwysig iawn i’r gwasanaeth, felly os oes gan unrhyw un ddiddordeb dysgu mwy am y rôl hon, gallwch fy ffonio am sgwrs anffurfiol am y rôl ar 0745804261 neu e-bostio katyjones@macmillan.org.uk..”

Os ydych chi angen cymorth neu rhywun i siarad gyda nhw am ganser, ffoniwch Cymorth Canser Macmillan yn rhad ac am ddim ar 0808 808 00 00 neu ewch i macmillan.org.uk.

Mae Macmillan yma i helpu pawb sydd â chanser i fyw bywyd mor llawn ag y gallant, gan ddarparu cymorth corfforol, ariannol ac emosiynol. Rydym yn cael ein hariannu’n gyfan gwbl gan roddion ac ni allwn gefnogi’r nifer cynyddol o bobl sydd ein hangen heb eich help.  Gwnewch rhywbeth anhygoel heddiw a mynd ati i roi neu i wirfoddoli i Macmillan. Ewch i macmillan.org.uk/get-involved/