0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

Dewch i gwrdd ag un o cymdogion Macmillan Paula

Mae’r wirfoddolwraig Paula wedi bod yn ffrind da i Macmillan ers sawl blwyddyn ac mae hi bellach yn arloesi gyda’n rôl gymdogol yn Llanandras, tref fach wledig yn Sir Faesyfed, Powys.

Er nad yw hon yn rôl swyddogol eto, fe aethom ati i ofyn i Paula sôn mwy wrthym am y rôl wirfoddoli newydd hon a pham ei bod hi’n llawn cyffro amdani.

Dywedwch wrthym am eich rôl gymdogol. Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Pwrpas y rôl yw helpu pobl sy’n byw gyda chanser yn y gymuned.

Man gwybodaeth ar gyfer y gymuned yw’r rôl gymdogol. Byddaf yn rhannu gwybodaeth am wasanaethau lleol er mwyn cynorthwyo pobl sy’n byw gyda chanser.

A ninnau yma ar y ffin yn Llanandras, mae gennym Ymddiriedolaeth Bracken sy’n cynnal digwyddiadau, sesiynau galw heibio a dosbarthiadau, a hefyd yn Henffordd mae yna nifer o gyrsiau y gall pobl eu mynychu, megis rhai ymwybyddiaeth ofalgar.

Byddaf hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau codi arian megis Bore Coffi Mwya’r Byd Macmillan a ‘Brave the Shave’, yn ogystal â hyrwyddo ein digwyddiadau codi arian lleol megis y codwr arian sy’n cynnal sioeau dawnsio i godi arian i Macmillan.

Rwy’n ceisio sicrhau fy mod i’n defnyddio cylchlythyron lleol i ddweud wrth bobl beth sy’n digwydd yn yr ardal.

Hefyd, ar ail ddydd Llun pob mis rwy’n cynnal digwyddiad galw heibio yn yr Assembly Rooms yn Llanandras.

Beth yw eich profiad o ganser?

Cafodd fy mam-gu a’m tad-cu ganser, ond dydw i ddim yn meddwl fod hynny’n arbennig o anarferol.

O’m rhan i, dechreuais drwy feddwl, “O, fe hoffwn i gynnal bore coffi i Macmillan. Gallaf wirfoddoli i wneud hynny,” ac fe agorodd hynny’r drws ar nifer o gyfleoedd newydd i wirfoddoli.

Mae pobl yn fy ystyried fel y fenyw Macmillan yn Llanandras ac yn dod i chwilio amdanaf.

Rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl trwy wneud hyn, ac rwy’n teimlo’n rhan o deulu Macmillan.

Pa rinweddau a sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y rôl wirfoddoli newydd hon?

Mae angen ichi allu gwrando’n dda.

Mae angen ichi fod yn gefnogol – nid chi sy’n bwysig!

Mae angen ichi fod yn barchus a pheidio â beirniadu. Os bydd rhywun yn dewis rhannu eu pryderon â chi, parchwch hynny. Dydych chi ddim yno i gynnig unrhyw safbwyntiau.

Ar yr ochr ymarferol, mae arnoch angen rhywfaint o sgiliau TG ac mae arnoch angen amser i’w roi.

A sut rydych chi’n elwa?

Rydw i wrth fy modd â’r ffaith fy mod i’n helpu pobl.

Am ennyd, mae rhywun yn falch fy mod i yno ac maen nhw’n gallu siarad â mi – i mi, mae’r foment honno’n amhrisiadwy.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli?

Byddwn i’n dweud wrthynt, yn syml iawn, i fynd amdani!

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch wirfoddoli i gynorthwyo Macmillan yng Nghymru, gan weithio gyda’r diddordebau a’r amser sy’n gweddu i chi. Gallwch chwilio am y cyfleoedd i wirfoddoli gyda Macmillan yn eich ardal chi yn ein Volunteering Village ar ein gwefan.