0808 808 00 00 / macmillan.org.uk

“Mae hi mor bwysig eich bod chi’n deall eich gofal canser – mae’n fodd o reoli’r sefyllfa”

Cafodd Helen ddiagnosis o ganser y fron yn 2013.

Wrth i ni lansio adnodd newydd ‘Eich Gofal Canser’, mae Helen yn esbonio pa mor bwysig yw hi i deimlo bod gennych yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am eich gofal a’ch diagnosis.

Cael diagnosis o ganser
Bu’n rhaid imi ymweld â’r meddyg teulu sawl gwaith cyn cael y diagnosis o ganser y fron.

Ar y cychwyn, fe ddywedwyd wrthyf nad oedd rheswm imi bryderu, ond dilynais fy ngreddf a gofyn am gael fy atgyfeirio.

Rwy’n dal i gofio’r diwrnod hwnnw. Doedd dim pryder mawr, yn ôl pob golwg, ac roeddwn i’n teimlo’n eithaf ymlaciedig, felly fe es i’r apwyntiad gyda’r ymgynghorydd ar fy mhen fy hun.

Ces wybod bod gen i ganser heb neb o’m cwmpas i’m cefnogi. Dyna oedd y peth anoddaf.

Ei barn am ofal canser

Rwyf wedi cael profiad o’r naill ochr a’r llall.

Wedi fy niagnosis cychwynnol, cwrddais â nyrs glinigol arbenigol o Macmillan, ac roedd hi’n eithriadol. Bu’n gefn imi, ac yn hynod o drylwyr. Roedd y gofal a gafodd fy nheulu a finnau yn rhagorol.

Roeddwn i’n teimlo’n wirioneddol ddiogel yn ei gofal hi.

Ond nid felly y bu pethau wedyn. Roedd arna i angen rhagor o driniaeth, cafodd fy ngofal ei drosglwyddo a doedd fy mhrofiad i wedyn ddim mor gadarnhaol nac yn tawelu fy meddwl i’r un graddau.

Oedd, roedd pawb yn broffesiynol ac yn ofalgar, ond ar lawer iawn o adegau roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun i roi trefn ar bethau.

Peth rhwydd iawn oedd dechrau teimlo fel eich bod chi’n rhan o broses, o weithdrefn, yn hytrach nag yn berson.

Roeddwn i’n gweld gwahanol bobl ym mhob apwyntiad, wyddwn i ddim at bwy y dylwn i droi i leisio fy mhryderon, a doedd gen i ddim cynllun gofal ffurfiol i’m cynorthwyo i ddeall beth fyddai’n digwydd nesaf.

Chefais i’n sicr ddim gwybod am y gwahanol fathau o gymorth y gellid bod wedi eu darparu, megis cyngor ariannol, neu gwnsela.

Yn nes ymlaen, roedd taer angen peth o’r cymorth hwnnw arnaf, ond doedd gen i ddim syniad sut i gael gafael arno.

Roedd yn fwlch gwirioneddol yn fy ngofal i.

Siapio ‘Eich Gofal Canser yng Nghymru’  

Gwn yn union pa mor bwysig yw hi eich bod chi’n deall eich diagnosis o ganser a’ch gofal.

Roedd y pryderon oedd gennyf trwy gydol fy mhrofiad o ganser yn llawer ehangach na dim ond pryderon meddygol. Roeddwn i’n poeni am deulu, gwaith, arian – roedd fy emosiynau i’n gymysg i gyd.

Os ydych chi’n deall eich diagnosis, ac yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael, o leiaf wedyn byddwch yn teimlo fel bod gennych rywfaint o reolaeth dros y cyfan.

Pan ofynnodd Macmillan Cymru imi am fy safbwyntiau ar adnodd newydd i helpu pobl i ddeall eu gofal canser, roeddwn i’n fwy na pharod i helpu i’w siapio ar sail rhai o’m profiadau fy hun.

Rwy’n gobeithio y bydd yr adnodd ‘Eich Gofal Canser yng Nghymru’ yn helpu pobl i ddeall eu gofal, ac i wybod pa gwestiynau i’w gofyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen.

Gwn y byddwn i wedi gwerthfawrogi peth o’r cyngor a geir yn yr adnodd newydd hwn.

Rwy’n gobeithio y bydd yn rhywfaint o gysur i bobl eraill o hyn ymlaen.

Lawrlwythwch neu archebwch eich copi trwy chilio am ‘Eich Gofal Canser yng Nghymru’ ar be.macmillan.org.uk